Sorry, you need to enable JavaScript to visit this website.

arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharetwitterwelsh-government

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Amgueddfa Cymru - National Museum Wales's picture
Tuesday, March 8, 2016

I nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod a Mis Hanes Menywod, rwy wedi dewis delweddau o’r Casgliad sy’n dangos gwaith menywod Cymru dros y canrifoedd. O ffermio i waith ffatri, y pwll i’r swyddfa, mae’r lluniau hyn yn dangos rhai o’r swyddi oedd ar gael i ferched y wlad.

Merched y pwll yn gweithio

Cyn Deddf Pyllau Glo 1842, roedd merched yn cael gweithio dan y ddaear mewn pyllau glo. Mae’r llun hwn o Archif Menywod Cymru yn dangos menywod yn gweithio mewn pwll anhysbys.

Ewch i'r eitem

Merched Cocos

Mae’r llun hwn o Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn dangos menywod cocos Penclawdd gyda’u basgedi a’u mulod. Dyddiad, tua 1906.

Ewch i'r eitem

Ffatri Arfau Sandycroft

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf dechreuodd menywod weithio mewn swyddi oedd yn draddodiadol yn cael eu gwneud gan ddynion. Mae’r llun hwn yn dangos gweithwyr arfau yn Ffatri Arfau Sandycroft.

Ewch i'r eitem

Merch y tir

Mae’r darlun ‘Anhysbys’ hwn o Amgueddfa Llangollen yn dangos un o Ferched y Tir, mae’n debyg. Ffurfiwyd Byddin y Tir yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac roedd yn weithredol yn ystod yr Ail Ryfel Byd hefyd. O ganlyniad, ni wyddom pryd gafodd llun ei dynnu.

Ewch i'r eitem

Ffatri Dillad

Mae’r llun du a gwyn hwn, a dynnwyd gan Geoff Charles, yn dangos gweithwyr mewn ffatri ddillad ym Maesteg ym mis Chwefror 1950.

Ewch i'r eitem

J. R. Freeman

Mae’r llun hwn o Archifau Morgannwg yn dangos gweithwyr swyddfa J. R. Freeman & Son mewn ystafell brosesu data ym 1973. Roedd y cwmni yn cyflogi nifer o fenywod yng Nghaerdydd.

Ewch i'r eitem

 

Gan Ellen Davies, Swyddog Marchnata Cynorthwyol CyWC