arrowbookcheckclosecommentfacebookfavouritegooglehomeibapdfsearchsharetwitterwelsh-government

Eitemau Anarferol

Amgueddfa Cymru - National Museum Wales's picture
Thursday, March 24, 2016

I ddathlu #FolkloreThursday buom yn chwilota’r Casgliad am bob math o bethau anarferol. Dyma rai ohonynt

Taten wedi’i Thrywanu

Daw’r daten hon o Amgueddfa Sir Gaerfyrddin a chredir ei bod yn swynogl i gadw ysbrydion drwg draw. Cafodd y daten sydd wedi’i thrywanu gyda matshys ei darganfod yn hongian dros res o bys mewn gardd yng Nghaerfyrddin.

Ewch i'r eitem

Swynogl Blew Ceffyl

Hefyd o Amgueddfa Sir Gaerfyrddin daw’r swynogl hon o flew ceffyl, gafodd ei darganfod yn hongian ar gefn drws tŷ yn Nhalacharn ym 1921. Dywedir fod y swynogl yn amddiffyn pobl rhag gwrachod.

Ewch i'r eitem

Delw Gwyr

Cadw drygioni draw oedd bwriad yr eitemau eraill—ond y gwrthwyneb sy’n wir am y ddelw gwyr hon o Amgueddfa Gwynedd. Cafwyd hyd i’r ddelw ar ddarn o lechen yn Ffynnon Eilian, Ynys Môn ym 1925. Mae braich chwith y ffigwr wedi cael ei thorri i ffwrdd ac mae’r llythrennau RF wedi’u cerfio ar ganol y llechen. Mae’n debyg bod rhywun yn dymuno niwed i ‘RF’, a’u bod wedi creu hwn. Cafodd ei ddarganfod mewn ‘ffynnon felltithio’ adnabyddus.

Ewch i'r eitem

Llestr Melltithio

Cafwyd hyd i’r llestr melltithio hwn, hefyd o Amgueddfa Gwynedd, ar fferm Penrhos Bardwyn, Caergybi ym 1871. Roedd y llestr yn cynnwys gweddillion llyffant oedd wedi’i drywanu gyda phinnau mawr. Dros gaead y llestr roedd llechen gydag enw ‘Nanny Roberts’ wedi’i grafu ar y ddwy ochr. Mae’n amlwg nad oedd rhywun yn hoff iawn o Nanny Roberts...

Ewch i'r eitem

Oes gennych chi eitemau neu ffotograffau yn ymwneud â hen arferion Cymreig yr hoffech eu rhannu? Gadewch sylw neu gallwch uwchlwytho i’r wefan yma.