Stori Wil Canaan: Saethu Hen Asyn â Chnau

Items in this story:

  • 1,220
  • Use stars to collect & save items login to save

This story is only available in Welsh:

By W. R. Evans, Fishguard, Pembrokeshire

Tâp: AWC 2589. Recordiwyd: 5.xi.1969, gan Robin Gwyndaf.

Storïwr: W R Evans (1910-1991), sir Benfro. Ganed yng Nglyn Saith Maen, Mynachlog-ddu, sir Benfro. Bu’n athro ysgol, yn ddarlithydd yng Ngholeg Addysg Y Barri, ac yn Drefnydd Iaith ac yn Arolygwr Ysgolion yn sir Benfro. Bu am flynyddoedd yn arweinydd parti o gantorion, ‘Bois y Frenni’, a oedd yn arbenigo mewn adloniant ysgafn a pherfformio mewn cyngherddau a nosweithiau llawen. Cyhoeddodd gyfrolau o farddoniaeth, ac yr oedd yn adnabyddus am ei ddawn ddigrif ar lafar ac mewn print. Am hanes ei fywyd, gw. ei hunangofiant Fi yw Hwn (Gomer, 1980).

Ceir fersiwn arall o’r stori hon, sy’n debyg iawn, gan W R Evans ar dâp AWC 1456. Ar y recordiad hwnnw (19.i.1967) rhydd sylwadau am gefndir adrodd y stori:

Wel, dudwch i mi rŵan, gan bwy glywsoch chi honne?
O, glywes i hon yn fy nghartre [Glyn Saith Maen, Mynachlog-ddu], yn yr ardal. Odd (h)i’n un o’r storïe o’r ardal – storïe Wil Canaan.
Adre ar yr aelwyd glywsoch chi hon?
O ie, ie. A’i chlywed (h)i fwy nag unwaith, yndife, yn ystod –
Ai’ch tad odd yn adrodd stori fel hyn?
Fy nhad ac ewythredd i fi, o gwmpas y lle, a’r cwmdogion, chi’n gwel. On nhw wrth y gwair, ac yn y blân. Fydde un o storïe Wil Canaan siŵr o ddod lan.
‘Se rhywun yn gofyn i chi pryd glywsoch chi’r stori gynta, sech chi’n dweud pan oeddach chi tua –
O, mi alle fod yn rwle, wedwn i, o ryw saith i ddeg mlwydd o(e)d, rwbeth felna. Y peth fydde’n digwydd fynycha, dwedwch ar ddwyrnod cynaea gwair, ne rwbeth, yntife, odd ’na gwmni, a fyddech chi’n ishte lawr i gal te yn y parc, chi’n gwel. Dyma’r math o beth fydde’n cal ’i adrodd ar adeg felny. Ie. Ne fyse rwbeth yn atgoffa rywun: ‘Jiw ŷch chi’n neud i fi gofio am Wil Canaan, ers lawer dydd’.

Sylw W R Evans wedi gorffen adrodd y stori ar dâp 2589 yw: ‘a dwi’n cofio honna bron yn fwy na un stori ariôd, chi’n (g)wbod. Mae wedi apelio ata i’. Dywedodd hefyd iddo ei dysgu yn ifanc iawn: ‘a ma’r pethe ’ma’n glynu fwy falle’r oedran ’na, nag unryw amser arall’. Yr oedd, meddai, yn ‘siŵr bod un yn ychwanegu tipyn ati, bob hyn a hyn ... yn ei ddychymyg ’i hunan, yntife. A’r peth yn tyfu felny’. ‘Stori dal’ oedd ei enw ar y math hyn o storïau.

Er i’r stori gael ei hadrodd gan W R Evans yn nhafodiaith sir Benfro, weithiau defnyddir ffurfiau llenyddol a thafodieithol yn gymysg ganddo. Er enghraifft: wedd/odd, cnou/cnau, tyddu/tyfu.

Nid oedd gan W R Evans wybodaeth fywgraffyddol bellach am Wil Canaan. Yn ôl T H Evans, Llandudoch, fodd bynnag (tâp AWC 2590), William Thomas (mae’n fwy na thebyg) oedd ei enw cofrestrol, a Pegi oedd enw’i wraig. Roeddynt yn byw mewn bwthyn to gwellt ym mhlwyf Llan-y-cefn, Cwm Rhydwilym. Clocsiwr ydoedd wrth ei grefft, ond yr oedd hefyd yn dorrwr beddau ac yn cynorthwyo ar ffermydd yr ardal yn ystod y cynhaeaf.