Profiad Goruwchnaturiol: Gweld Gŵr Ifanc

Items in this story:

  • 664
  • Use stars to collect & save items login to save

By Ellen Evans, Llithfaen

 

This story is only available in Welsh:

 

Mae gynnach chi hanes, yndoes, am weld gŵr ifanc.

Ia. Peth rhyfedda fuo 'rioed odd o, cofiwch. On i'n dŵad i lawr y grisia - toedd y palis yna ddim yn fanna. Odd y lle'n 'gorad, ychi. On i'n gweld at y drws ciefn, a pan on i bron yn y gwaelod, dyma fi'n taflyd fy ngolwg felna tros y canllaw. A mi odd 'no ddyn ifanc yn sefyll felna. A mi odd o'n ddyn hardd, cofiwch. A ddaru o ddim styrbio dim arna i, ond mi ddarfyddodd fel cannwyll, felly ... Dyn tywyll odd o, ond mi odd o'n ddyn reit dal.

Faint odd ych oed chi pan ddigwyddodd hyn?

Wel, fedra i ddim deud wrthoch chi. Ma'n siŵr bod o ar ôl y rhyfel.

Y rhyfel cynta?

Ia, rhyfal cynta.

Oeddech chi wedi priodi, wrth gwrs, erbyn hynny?

O, oeddwn tad, ers blynyddodd. Ac mae o wedi bod ar fy meddwl i, pan on i ar y llong yn cychwyn o New York, odd y gŵr a finna'n sefyll ar y dec, felly, a mi ddisgynnodd fy llygaid i lawr ar ddyn ifanc odd yn sefyll ac yn edrach arnom ni. Fedrwn i mo'i gyffelybu i neb ond i hwnnw. Ond 'dwn i ddim yn y byd pwy odd hwnnw, 'te.

Ie.

Odd o debyca welish i i hwnnw.

Pa adeg o'r nos odd hi? [Pan welodd yr ysbryd yn ei chartref.]

O, odd hwn yn y dydd.

Yn y dydd?

Yn y dydd golau. Yn y bora, ma'n siŵr. Wedi bod yn gneud y gwlâu o'n i. Yn dŵad i lawr y grisiau felly, a mi daflish fy ngolwg a mi odd o'n sefyll yn fanna.

Yn y cyntedd?

Ia.

Odd o'n edrych arnach chi?

Nagoedd.

Sut olwg odd ar 'i wyneb o?

Odd o'n edrych yn hardd, cofiwch. A mi ddarfyddodd fel'na. Odd o'n ddyn ifanc hardd iawn.

Dech chi wedi ceisio esbonio hyn, ma'n debyg, do?

Wel, dwi wedi bod ar hyd y blynyddodd sy' wedi pasio, methu deall be' odd o - odd 'na ryw negas ne rwbath, 'tê.

Dech chi'n meddwl mai profiad crefyddol dwys gawsoch chi?

Wel, fedra i ddim deud wrthoch chi. Ond mi fyddwn i'n byw o ran fy meddwl yn y petha, dudwch. Achos on i'n byw reit annibynnol. On i'n byw i fy nhŷ a fy aelwyd, 'te. Fedra i ddim deud.

A'r person 'ma'n darfod?

Ia.

Fel cannwyll?

Ia.

Mae hyn yn anesboniadwy?

Ydi.

Mae'n debyg mai dyma un o'r profiade mwya dach chi wedi'i gal?

Wel, ia. 'O meddwl oeddat ti', medda'r gŵr. 'Naci'n tad', medda fi, 'dwi wedi'i weld o.'

Beth odd ych adwaith chi wedyn? Ddaru chi dderbyn hyn fel rhywbeth naturiol neu fuo gynnach chi ofn?

Naddo, ddaru o ddim creu dim ofn yna' i. Dim.

Dyna ni.

Naddo. Dim.

Tâp: AWC 1974. Recordiwyd 22.x.1968, gan Robin Gwyndaf.
Siaradwraig: Ellen Evans, sir Gaernarfon.
Ganed: 22.vii.1879, Tan-y-ffordd, Llithfaen. Bu f. 15.vi.1972.
Cyn priodi bu'n gwnïo o dŷ i dŷ ac yn gweini fel morwyn. Gwraig grefyddol. Cyn-athrawes Ysgol Sul.