Hen Grwydren

Items in this story:

  • 1,012
  • Use stars to collect & save items login to save

By Robert Owen Pritchard.

This story is only available in Welsh:

 

Fydda [nhad] yn sôn am ryw hen ddynes arall hefyd [ym Metws Garmon]. Odd hi wedi colli'i golwg, a fydda honno'n galw mewn tai.

'Wedi cal ych cinio dach chi ma debyg.'
'Na, mynd i gal ydan ni.'
'O arosa i 'ma am ginio hefo chi', medda hi.
Wedyn ffwr' â hi ar ôl cinio i le arall:
'O, heb gal ych cinio dach chi. Ydw i mynd ta', medda hi.
'O, na, aroswch, aroswch.'
Rheini'n cal cinio hanner awr yn hwyrach a hitha wedi llyncu'r cinio yn lle arall. Wedyn ffwr' â hi.
'Meddwl on i, faint o'r gloch, dudwch? Ydi'n amsar te, dudwch, i mi droi adra', medda hi, a troi i ryw dŷ arall wedyn.
'O, na, dowch i fewn. 'Dan ni'n hwylio neud panad', medde rheini.
Cal cypanad yn fanno wedyn, 'tê;, a ffwr' â hi ac i le arall wedyn.
'Duwch ma'n debyg bo chi wedi cal te. On nhw wedi cal te yn y fan a'r fan pan on i'n mynd heibio.'
'Wel, na, 'dan ni mynd i gal te rŵan.'
Cal te fanno wedyn a fydda'n hel ei bwyd felna o fora dan nos. Wel, cryduras ofnadwy.
'Stumog fel sach bran ganddi!' [sylw Mary Awstin Jones, chwaer Robert Owen Pritchard]

Tâp: AWC 4529. Recordiwyd: 27.ii.1975, gan Robin Gwyndaf.
Siaradwr: Robert Owen Pritchard, Ynys Môn.
Ganed: 6.vii.1904, Bryn Afon, Betws Garmon, Sir Gaernarfon. Gweithio i'r Bwrdd Marchnata Llaeth. Gŵr diwylliedig ac yn meddu ar gyfoeth o iaith, fel ei chwaer (recordiwyd hithau gan AWC), Mary Awstin Jones, Waunfawr.