arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government
  • Use stars to collect & save items A vector image of star to represent action to save this item   Login to save this item

Description

Robert Williams Parry (1884-1956). Fe'i ganed yn Nhal-y-sarn yn Nyffryn Nantlle, Caern., ac yr oedd yn gefnder i T. H. Parry-Williams a Thomas Parry. Treuliodd ddwy flynedd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ond gadawodd yn 1904 heb radd ac am y tair blynedd nesaf bu'n athro mewn ysgolion elfennol yng Nghymru a Lloegr. Ailymaflodd yn ei waith academaidd yn 1907 dan John Morris-Jones ym Mangor, a graddiodd yn 1908; wedyn bu'n athro Cymraeg a Saesneg yn ysgol Bryn'refail yn ei sir enedigol.

Daeth i amlygrwydd yn 1910 pan enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol am ei awdl 'Yr Haf'. Ystyriwyd bod y gerdd, ar gyfrif cyfoedi ei geirfa a'i miwsig a'i phwyslais ar degwch y funud, yn un o brif gynhyrchion yr 'ysgol newydd' yr oedd T. Gwynn Jones a W. J. Gruffydd yn perthyn iddi; gelwid ei hawdur weithiau yn 'Fardd yr Haf'. Tua'r un cyfnod dechreuodd gyhoeddi ysgrifau ar natur barddoniaeth, a gweithio am radd bellach, gan baratoi traethawd ar 'Cysylltiadau'r Gymraeg a'r Llydaweg'. Treuliodd flwyddyn yn brifathro ysgol fach wledig Cefnddwysarn ac yna bu'n athro mewn ysgolion uwchradd yn Y Barri, Morg., a Chaerdydd. Yn Nhachwedd 1916 fe'i gwysiwyd i'r fyddin a threuliodd y ddwy flynedd nesaf mewn gwersylloedd yn Lloegr. Er ei fod yn unig ac yn anhapus yn ystod y cyfnod hwn cyfansoddodd nifer o sonedau gwych, megis 'Gadael Tir' a 'Cysur Henaint', yn ogystal i'r englynion coffa enwog i Hedd Wyn (Ellis Humphreys Evans).

Dychwelodd i Gaerdydd yn athro yn 1919 a phedair blynedd yn ddiweddarach aeth yn brifathro Ysgol Oakley Park ger Llanidloes, Tfn. Ychydig fisoedd yn unig yr arhosodd yno fodd bynnag gan iddo gael ei benodi ar staff ei hen Goleg ym Mangor, a daeth yn Ddarlithydd yn rhannol yn yr Adran Gymraeg ac yn rhannol yn y dosbarthiadau allanol. Priododd yn 1923 ac ymgartrefu ym Methesda, Caern., lle y treuliodd weddill ei oes. Yn ystod y 1920au, a oedd yn gyfnod hapus iddo, cyhoeddodd nifer o ysgrifau ar bynciau llenyddol. Yr oedd yn feirniad eisteddfodol a phan gyhoeddwyd ei gasgliad o gerddi, Yr Haf a Cherddi Eraill (1924), sy'n cynnwys rhai o'i gerddi mwyaf aeddfed, amlygwyd ei ddawn. Yna rhwng 1929 ac 1933 tarfwyd ar ei fyd oherwydd camddealltwriaeth ynglŷn ag amodau ei swydd fel Darlithydd. Tybiai ei fod yn cael cam am mai llenor yn hytrach nag ysgolhaig ydoedd, fel y tystia yn ei gerdd 'Chwilota'; rhoes y gorau i gyhoeddi barddoniaeth, gwrthododd adael i Wasg Gregynog argraffu cyfrol o'i waith a dechreuodd ysgrifennu nodiadau ieithyddol ar y Gernyweg a'r Llydaweg. Daeth terfyn sydyn ar y cyfnod hwn ym Medi 1936 pan losgwyd yr Ysgol Fomio ym Mhenyberth, Llŷn. Cythruddwyd y bardd pan ddiswyddwyd Saunders Lewis o staff Coleg y Brifysgol Abertawe, ac ymgyrchodd yn dawel o'i blaid. Pan welodd nad oedd Lewis yn mynd i gael ei swydd yn nól ailymaflodd y bardd yn yr arf mwyaf effeithiol a oedd ganddo a dechreuodd ysgrifennu cerddi gwleidyddol megis 'J.S.L.' ac 'Y Gwrthodedig'. Parhaodd y cyffro cynhyrchiol yn sonedau llaes mawr diwedd y 1930au. Ymddeolodd yn 1944, ond daeth afiechyd i'w flino, heneiddiodd cyn pryd, a dibynnai ar gyfeillion i'w gynorthwyo i baratoi ei ail gyfrol o farddoniaeth, Cerddi'r Gaeaf (1952). Cymharol fychan yw swm cynnyrch R. Williams Parry, dwy gyfrol o gerddi yn unig, ond y mae tua hanner cant o gerddi a fydd o werth parhaol: y sonedau rhamantus cynnar, yr englynion er cof am gyfeillion a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf, telynegion natur y 1920au sy'n cyfleu mor odidog o synhwyrus ryfeddod Creadigaeth a darfodedigrwydd pethau, cerddi am heneiddio a rhaib amser, a sonedau diwedd y 1930au, sydd ar yr un pryd yn tosturio at ddyn ond yn ddeifiol o feirniadol o'i fychander a'i hunanfodlonrwydd. Ceir detholiad o feirniadaeth lenyddol y bardd yn Rhyddiaith R. Williams Parry (gol. Bedwyr Lewis Jones, 1974), a chasglwyd ei gerddi ychwanegol ynghyd ar ddiwedd astudiaeth T. Emrys Parry, Barddoniaeth Robert Williams Parry (1973). Y mae cyfrol ar y bardd gan Bedwyr Lewis Jones yn y gyfres Writers of Wales (1972), ac un arall yng nghyfres Llên y Llenor (1984) gan Alan Llwyd a olygodd hefyd gyfrol o ysgrifau beirniadol yn Cyfres y Meistri (1979); gweler hefyd yr erthygl gan John Rowlands yn Taliesin (Cyf. L, 1984). Cyhoeddodd Gwasg Gregynog argraffiad cyfyngedig o gerddi R. Williams Parry, wedi eu golygu gan Thomas Parry, yn 1981. Gweler hefyd fywgraffiad Bedwyr Lewis Jones (golygwyd a chwblhawyd gan Gwyn Thomas 1997) yn y gyfres Dawn Dweud. Daw'r wybodaeth o'r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru: Argraffiad Newydd (gol. Meic Stephens, Caerdydd 1997).

Comments (1)

Emily K's picture
why is this image labeled "Dewi Emrys"?

You must be logged in to leave a comment