Arwel Glyn
Date joined: 19/09/21
About
Rwy'n 47 mlwydd oed, yn wreiddiol o Manod, Blaenau Ffestiniog ac a diddordeb mawr mewn olrhain hanes fy nheulu. O ganlyniad i hyn, rwyf bellach wedi hel ac yn berchen ar gannoedd o hen luniau nifer fawr o'm hynafiaid. Ond, yn anffodus, mae rhai o'r lluniau yn parhau i fod yn anhysbys gyda neb ar ol o fewn y teulu sydd yn ddigon hen i allu rhoi enwau i'r wynebau. Fel mae unrhyw un sydd yn hel achau yn gwybod, mae'n waith di-ddiwedd, costus (rhwng pob dim!) ac yn tueddu i fynd a llawer iawn o amser yr unigolyn. Wedi dweud hynny, mae'n andros o ddiddorol darganfod ffeithiau a storiau am ein cyndadau a dysgu sut yr oeddynt yn byw yn eu hamser hwy. Mi geisiaf rannu o leiaf rhai o'r lluniau hynny yn fan hyn, dros y misoedd nesaf, er mwyn helpu i alluogi i'r wynebau hysbys ac anhysbys beidio a mynd yn anghof. Dyma rai o'r enwau ac ardaloedd y rwy'n ymchwilio iddynt a mae croeso i unrhyw un gysylltu a mi os oes gennych wybodaeth o gwbl am unrhyw gangen o fy nheulu neu os fedra i gynnig gwybodaeth i chi, os yw'n teuluoedd yn digwydd cysylltu.
PUGH - Dolgellau/Dolgledr/Islaw'r Dref/Buarth Will, Arthog/Congl-y-wal, Blaenau Ffestiniog
EVANS - Llanegryn
JONES (Ellis Jones) - Blaenau Ffestiniog/Dolwyddelan/Llansanffraid Glan Conwy/Pontypridd
MORRIS - Blaenau Ffestiniog/Pentre Gwynfryn, Llanbedr/Llwyn Bugeilydd, Cricieth
JONES - Craig yr Helbul, Arthog
PUGH a JONES - Llanenddwyn/Llanddwywe/Llanaber/Bermo