Content can be downloaded for non-commercial purposes, such as for personal use or in educational resources.
For commercial purposes please contact the copyright holder directly.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Description

Detailed notes in Welsh by W. Beynon Davies (Ciliau Aeron) entitled 'Diwylliant Gwerin Dyffryn Aeron a Chanolbarth Ceredigion' as a response to the 1937 questionnaire created by the National Museum on Welsh folk culture.


Transcription

 

 

[MS 91_0001 – photograph | fotograff]

Tapestri? | Brodwaith?

 

[MS 91_0002 - handwritting | llawysgrifen]

 

DIWYLLIANT GWERIN

Ardal

Dyffryn Aeron a Chanolbarth Ceredigion

 

ond yn fwyaf arbennig blwyfi                                                       Henfynyw,

                                                                                                    Llanarth,

                                                                                                    Dihewyd,

                                                                                                    Llanerch Aeron [sic],

                                                                                                    Llanddewi Aberarth,

                                                                                                    Llanbadarn Trefeglwys,

                                                                                                    Cilcennin,

                                                                                                    Ciliau Aeron,

                                                                                                    Llanfihangel Ystrad.

 

 

W. Beynon Davies,

Penrhiw,

Neuaddlwyd,

Ciliau Aeron,

Lampeter.

 

[MS 91_0003]

A. 1. a. (ii) Dyma gynllun y rhanfwyaf [sic] o’r tai ffermydd

 

[Sgets ffermdy mewn beiro â dwy simnai ar yr ochr chwith a’r dde, tair ffenestr ar y llawr uchaf a dwy ffenestr ar y llawr is, drws ffrynt, un ffenest ar ochr chwith y ffermdy ac mae ‘reil’ i’r tŷ â dwy ffenest a drws cefn.]

‘Reil’ y gelwir y math o gegin gefn fel ag sydd yma a bydd o dan yr un to â’r tŷ. Ceir llofft isel yno weithiau ac er bod tuedd ei throi yn ‘lumber room’ yn ddiweddar, yno y cysgai’r morynion neu y cedwid ‘llafur’ gynt. Isel iawn yw’r uchter [sic].

 

Ceir lle tân ar lawr yn llawen o’r tai o hyd a “fantell sime” neu “sime lwfer” (yr un peth ydynt) uwch y lle tân. Anaml y bydd tai allan yn un â’r math hwn o dŷ – rhai diweddar (o’r 19 ganrif mwy na thebyg) yw’r mwyafrif ohonynt.

 

Llechi yw’r to am y rhan fwyaf ac fe geir [toriadau?] [dyfrnod yn rhwystro gweledigaeth y gair yn glir] â ‘llechi Aberteifi’ fel y gelwir hwy sef

 

[MS 91_0004]

rhai trymach a mwy trwchus na rhai Arfon a [benach?]. Yn y [‘toriad’?] hwn, [rhoi’r y?] llechi [?] yn isaf, nesa’r bondo, ac wrth fynd tua’r grib â’r llechen yn llai o hyd. Ar dai allan, ceir weithiau do braf fel hyn, (o lechi o’r unfaint i gyd) a chynilir yma ar lechi a gwna llai o goed ac ysgafnach rhai y tro i ddal y pen.

 

[Diagram â phensil o drawstoriad llechi ar y to.]

 

(iii)       Am y bythynnod [sic], tai to gwellt yn un rhibyn â’r tai allan - yn feudy, sgubor,

twlc, oeddynt. [Parwydydd? – anodd gweld oherwydd bod y gair wedi cael ei

gamsillafu a’i ail ysgrifennu] llaid a phleth goed oedd iddynt a welydd [sic] pridd a gwellt, weithiau’n 4 troedfedd o drwch. Ceid rhes ohonynt am

eu traed felly tua 1913 yn ardal Llwyncelyn (ardal ysgol y Dr Phillips). Yr oedd

y Ffyllonfach, Ffyllonfawr, Ffyllonisa, Ffyllonganol, Ffyllonucha, Castell Hywel,

y [Cnwc?] a [Glan Nant?] oll yn yr un cwm o weundir a phob un a’i dyffryn o dir.

 

Ni wn i am ond un tŷ [sic] to ag iddo lofft a ffenestri iddi yn yr ardal a cheir hwnnw, a dynion yn

 

[MS 91_0005]

byw ynddo i’r tu allan i Aberaeron am Aberarth, yn y Drenewydd. Am y tai to arall, ‘sinciwyd’ hwy ers tro bellach, bron i gyd.

 

Ar stad [sic] y Vaughan’s yn y Brynog (= Breinog ar lafar gwlad) yn Nyffryn Aeron, ceid gwell tai na’r cyffredin. (Gwerthwyd y stad [sic] tua 1919). Roedd tai byw a thai allan newydd ar y rhan fwyaf o’r rhain, oll wedi eu hadeiladu’n gadarn o gerrig a llechi a choed da ynddynt. Gwneid [sic] y beudai fynychaf i glymu dwy res o wartheg yn wynebu ei gilydd ([pace?] Tuberculis [sic] Test!) a bing o’u blaen. Roedd reil gefn yma eto i’r lloi bach o dan ymestyniad o’r un to. Ond mwy diddorol y tai byw - ffefrid [sic] tai un llawr, rhai hirion o dair ystafell helaeth heblaw llaethdy. Enghreifftiau da yw Llety Rhys a Chilbwn ym mhlwyf Llanfihangel Ystrad.

 

Nid oes dim arbennig yng ngwaith coed yr hen fythynnod rhagor na mai derw wedi ei naddu a bwyell ydoedd. Ni cheid hoelion ond pinolion pren

 

[MS 91_0006]

i’w cadw yn eu lle.

 

Gwyngalchid [sic] (bellach, smentir [sic]) toeau tai pan [font?] o lechi bach (cerrig) wedi eu setio mewn calch ond prin yw’r rhai sy’n aros. ‘Roedd hi’n arfer gwyngalchu’r llawr pridd dan y dodrefn lle nad oedd brics wedi eu rhoddi.

 

Am yr hen [ratiau?] ar aelwydydd agored, rhai o waith gof oeddent, fel hyn:-

[Diagram mewn beiro o hen ratiau ac aelwydydd agored.]

 

Rhoid y cefn agored wrth wal y pentan [sic] a thân glo a “chwlwm du bach” yn y grât [sic] hylaw hwn. Byddai hanner cylch olwyn o’i amgylch ar y llawr fel ffender.

 

Pan fo tân ar lawr, bydd [?] yno fynychaf i hongian ffyrnau neu beiriau arno. Gwaith cartre, [sic] cadarn yw’r rhain i gyd a llawer o or-ysigo a achubasant [sic]. Wele lun un:-

 

[Diagram mewn beiro o grochan yn hongian ar ben tân.]

 

[MS 91_0007]

neu eto y mae hwn yn gweithio fel trosol a gellir ei setio’n uchel neu isel yn y rhygnau ar y prif golyn A-B.

 

[Diagram mewn beiro yn cynnwys llythyren ‘A’ ar y top a llythyren ‘B’ ar gwaelod [sic] y prif polyn [sic].]

 

Cyn dyfod dulliau diweddar o drafnidio, prynai bythynnod y pentrefi ‘gwlwm du bach’ (glo mân) a chael llwyth cant ohono o’r stesion ar y tro. Tipid hwnnw ar y ffordd fawr (neu arall) o flaen y tŷ a chymysgu clai glas (o lan y mor [sic] yn y Cei Newydd) ag ef (y clai wedi ei chwalu’n llwch ar ôl ei sychu) a’i ddamsang mewn clocs wedi gwlychu’r cymysgedd. Wedi ei gymysgu’n ddigon da, ei gario i dalcen y tŷ [sic] a sach drosto a’i ddefnyddio wrth [raid/laid?] ac wynebu tân, yn enwedig tân glo caled.

 

Lle byddai digon o goed yn danwydd, rhoid boncyn [sic] glas mawr, newydd ei dorri efallai, y tu ôl [sic] i’r tân [rhag? – anodd darllen oherwydd bod y gair wedi ei ailysgrifennu ar ben y camgymeriad] ffwdanu ei lifo na’i hollti a gwelais lusgo

 

[MS 91_0008]

un i mewn i’r gegin yr holl ffordd gan geffyl yn Hengeraint, Henfynyw, ryw fore Calan! Marw losgai [sic] hwnnw’r fan honno am bythefnos neu ragor a phan losgai’r canol tynnid ef at ei gilydd wedyn.

 

Arferid [sic], ar y ffermydd mawr a fyddai’n tewhau llawer o foch, “ferwi’r pair” – un mawr i ddal “cistaid o datws” (tua ½ tunnell) – unwaith yr wythnos neu ragor. Y gwas bach, neu’r gwas twt fyddai’n gwneud hyn yn y gaeaf.

 

O’r tai allan y tylcau moch oedd fwyaf diffaith. Rhoid [sic] rhodfa agored, lle byddai’r cafn bwyd, i’r mochyn, heb do arno, a chwt [sic] isel crebachlyd i orwedd ynddo. Ac am y drws o’r naill i’r llall, – roedd yn gul ac isel a gwaith anodd oedd carthu lleoedd felly allan. Yr amcan oedd, mae’n debyg, rhag bod gormod o agoriad i oeri’r mochyn.

 

Arferiad y mae’n rhaid ei adael bellach yw rhoi lle i’r ieir glwydo uwch ben y gwartheg. Yn ddiau cadwai hyn y naill a’r llall yn glyd a chynnes ond yn afiach hefyd.

 

[MS 91_0009]

A. 1. (b)     Te, bara te, a chaws neu wyau oedd y brecwast cyffredin. Mewn llawer o

                   leoedd yn ddiweddar daeth ‘te deg’ yn gyffredin bob dydd ac nid ar

                   adeg cynhaeaf fel gynt. Cawl, o gig mochyn hallt neu weithiau gig eidion, a

                   thatws a’r cig berw oedd y prif ginio hanner dydd. Yr haf [sic] ceid ‘stwmp’

                   a llaeth enwyn ddiwrnod corddi efallai. (Mynnodd hen ŵr y Goetre,

                   Llanarth, ac yntau’n eglwyswr selog, ferwi’r ŵydd [sic] a gadwyd i ginio

                   Nadolig yno gyntaf, – do, mynnodd ei berwi’n gawl brasterog. Ni welwyd

                   un o'r teulu cryf yn yr Eglwys y prynhawn hwnnw, meddai’r stori!). Rhyw

                   foethyn oedd te, a’r swper arferol gynt oedd y cawl-twymo neu sucan llaeth

                   neu gawl llaeth. Ond cofiaf hen bobl yn gwneud gwledd o dostio bara, rhoi

                   ymenyn arno’n dwym a’i ‘friwo’ i fasnaid o laeth enwyn oer. Torrid naws yr

                   enwyn a chael blas rhyfedd ar y pryd fwyd.

 

[Cresir?] bara’n gyffredin mewn “ffwrn frics” – “ffwrn wal” [dyfrnod yn rhwystro gweledigaeth yr ymadrodd yn glir], wedi ei chodi yn y mur, o

 

[MS 91_0010]

lawr o fricsen sgwâr fawr. O dan honno’r oedd y tân a lle i’r fflamiau a’r gwres basio lan heibio i’r bara ar ddau lawr y ffwrn. Ffwrn 8 dorth, 4 ar lawr a 4 ar lan sydd fwyaf cyffredin. Ceid hefyd ffyrnau cast megis rhai Coalbrookdale, Salop (?). Yn rhyfedd ddigon yn ardal Llanon ac oddi yno i fyny tua’r Gogledd, math arall – un frics [sic] a thân ynddi – sydd fwyaf cyffredin. Un yw hon a lle i ryw 10-12 torth fawr ar ei hunllawr. Poethid hi ‘mlaen llaw a thân ynddi, yma pan fo’n ddigon poeth rhoi’r [dyfrnod yn rhwystro gweledigaeth y gair yn glir] y pedyll a’r toes ynddynt yn y ffwrn a’u cau yno, wedi crafu’r tân allan yn gyntaf wrth gwrs.

 

Os tueddai’r pobiad i fod yn fyr cyn dod y dydd i grasu, gwneid [sic] “hogen laeth enwyn ” (a llaeth enwyn a bicarb. [sic] sod. [sic] i’w chodi) ar radell, neu un fara [sic] crai yr un [sic] fath ond mai bloneg mochyn oedd yn clymu’r fflŵr.

 

Ar brydiau cresid mewn ffwrn gast uwch ben y tân gan godi mawn neu ddom [sic] gwartheg llosg

 

[MS 91_0011]

– pan fo’n sych yn yr haf – ar gaead y ffwrn i gael tân arni hefyd. Pan arafed [sic] y llosga [sic] maw neu ddom sych, gwna [sic] hynny’r crasu’n llai peryglus, o safbwynt llosgi’r bara.

 

(c)          Yn nyddiau fy rhieni i’n ‘dechrau’u byd’ (ddechrau’r ganrif hon), ‘roedd cael

               ‘dreser’ yn amhebgor [sic] megis ‘sideboard’ heddiw. A chan nad oedd

               gwneud mwyach ar yr hen rai Cymreig, ceid copïau tlawd, mewn pren gwyn,

               meddal, sâl, a farnes [sic] arno i fod yn addurn i ddal y cwpanau te eiddil. Nid

               peth i ddal y llestri y bwyteid [sic] ohonynt mohoni mwyach, ond yn nod

               parchusrwydd a hi’n ddim ond addurn noeth. Ceir ar wasgu ar hen

               gypyrddau plaen a graenus heb fod yn hen iawn chwaith, ac achubais i fy

               hun un felly o fod yn dal siaff y tu ôl i stâl ddwbwl [sic] mewn stabal [sic].

               Wedi ei gymhwyso gwelwyd [?] pren oedd ynddo ac mor raenus yr edrychai

               fel dodrefnyn.

 

At yr hen ddreserau a’r cypyrddau, ceis [sic] y ‘leinpresau’ a’r [“hoffaros”?] ond nid oes wybod am ddim

 

[MS 91_0012]

un â gwaith anghyffredin arno. Bu prynu mawr ar bethau fel hyn ar hyd y wlad y cof cyntaf sy [sic] gennyf i, a gwerthwyd yn rhad a phrynu’r pethau tila, clustogog [sic] [“chiffoneraidd”?] yn eu lle. Ac ymddiheurir [sic] ohyd mewn ambell le “mai grât a lle tân hen ffasiwn sy’ [sic] da [sic] ‘ni, ma’ [sic] ise [sic] gneud [sic] rhwbeth [sic] iddo fe, pe ‘se [sic] ‘ni mynd ynghyd [sic] ag e.”

 

(ch)       Y mae gennyf frith cof [sic] am ffiolau pren a thensiynau

             [sic] ond ni chofiaf eu defnyddio’n helaeth. Eithr llwyau pren a lledwad bren at

             godi’r cawl o’r ffwrn sydd fwyaf cyffredin o hyd ar gefn gwlad.

 

(d)         Lluniau crefyddol – [?] – yn y rhan fwyaf o dai. Gladstone ymhlith yr

             Anghydffurfwyr ac yn ddiweddarach D. Lloyd George. (Meddai hen wraig

             Adeg lecsiwn Llewelyn Williams (? 1921) yn y sir: ‘Ma’ [sic] Brenin Mowr [sic]

             wedi addo coron i fi’r ochor [sic] draw ond mi ges goron gan Lloyd George yr

             ochor [sic] hyn.’) Y Teulu Brenhinol gyda ni ar flwch baco ac ar un te, byth a

             beunydd, fel y tlodion diarhebol.

 

[MS 91_0013]

Pan ddechreuais i’r ysgol (1913) ‘roedd hi’n ffasiwn ‘gwnïo’ [sic] mewn edafedd liw, adnod neu ddihareb ar garden dyllog. Atgo [sic] o’r siampler, mae’n debyg. Un Saesneg mewn llythrennau gothig oedd f’un i, mi gofiaf, ac er i mi ei gwnïo [sic], ni ddeallais [sic] ddim arni am flynyddoedd rhwng iaith a llythreniad dieithr. Mae’n debyg mai ‘Love one another’ ydoedd o’i darllen yn gywir.

 

(e)         Y tu ôl i’r tŷ [sic] o dan yr ymestyniad iddo am y cefn y ceid y llaethdy

             fynychaf. Y cof cyntaf sydd gennyf yw rhoi’r llaeth newydd odro mewn pedyll

             bâs [sic] i’r hufen godi i’r wyneb. Gwelais hefyd bedyll cerrig mawrion i’r un

             pwrpas a thwll pinol yn ei waelod i ollwng y llaeth sgim allan a gadael yr hufen

             ar ôl i’w olchi â dŵr i lawr i’r crochan hufen. Ffiol denau – soser fawr mwy neu

             lai oedd yn “codi wneud [sic] llath [sic].” Erbyn hyn

             gwerthais y llaeth ond bu cyfnod y peiriant yn y canol rhwng y ddau. Clywais a

             gweld buddai [sic] gnoc

 

[MS 91_0014]

[diagram]

 

ond nid defnyddio. Buddeiau’n troi ar eu hyd oedd y rhai cyntaf a gofiaf i, ond daeth y rhai ‘towlu tin dros’u [sic] pen’ yn fwy cyffredin cyn dechrau gwerthu’r llaeth. Amser haf, a’r corddad [sic] yn drwm, efallai yr eis [sic] â’r fyddai i’r sgubor i geffyl i’w throi o bant maes os na byddai [sic] partyn sionc i hynny yn agos i’r llaethdy a gwerthyd yn dod i mewn i’r pwrpas. Mewn giler, y [dodid?] ac y gwneid [sic] y menyn â chlaper yn y llaw. Wrth gorddi, wrth gwrs, byddai’r hufen yn gyntaf am ei fod yn ‘whyddo’ yn cael ei wynto i distawai [sic] dro, ac yna [brithai?] gan adael mân ronynnau o solid mewn rhyw ddŵr tenau ac flaen [sic] y binol. Trymhâi’r [sic] fyddai’n awr ac yn sydyn, weithiau, torrai’r menyn. Rhaid ei grynhoi wedyn cyn gollwng yr enwyn allan. Yr oedd yn arfer hefyd tua diwedd Awst i gwsmeriaid menyn dyn, o’r dref, ddanfon eu crochanau i’r fferm i’w llanw’n stôr erbyn [?] gaeaf. Helltid yr ymenyn hwn yn helaethach na’r

 

[MS 91_0015]

cyffredin a chadwai rhyw 80-100 pwys ohono’n dda tan ddiwedd Mawrth, er bod menyn rhai lleoedd yn tueddu i ‘fynd yn gryf’ yn gynt na’i gilydd. ‘Llanw crochan(au) y gelwid hyn.

 

Am y caws, o laeth di-hufen y gwneid [sic] ef bob amser oni chedwid gafr - câi [sic] llaeth honno fynd yn grwn i’r caws. Rhoid cwrdeb [sic] [(=rennet)] yn y llaeth cynnes, ac wedi torri o hwnnw’n slopen [sic] codid ef i badell a thyllau ynddi (tyllau hoelion mewn padell laeth). Ar ôl i’r maidd ddiferu i ffwrdd, ‘roedd y colfran sych ar ôl gennym ac wedi cadw digon o hwnnw am sawl diwrnod roedd rhaid rhoi canfas caws amdano, ffiled [sic] am ei ymyl a’r cwbl yn y [cawslip?] o dan y winsh - ar bren a cherrig ynddi i bwyso.

Cedwid cosynnau’r haf i’w bwyta’r gaeaf. Nid oedd chwaeth at gaws a llwydi (mould) arno. Sonnir i was-mawr newydd Pontfaen daflu cosyn crwn felly i’r llawr gan esgus cymryd mai cath oedd a’i fod am ei herlid. Gwellaodd [sic] y caws wedyn, meddir.

 

[MS 91_0016]

(f)          Clocs a wisgai mwyafrif y gwragedd ar y ffermydd. A rhai bychain, isel – clocs

              bach y gelwid hwy-oedd fwyaf cyffredin. Rhai isel megis ‘slippers’ gwrywod

              [sic] heddiw ydynt a’r crefftwr gorau amdanynt gynt oedd Siaci Tŷ’n Parc,

              Dihewyd a’i nai wedyn a’i ŵyr yn awr (Bronfre Isaf Ciliau Aeron, bellach).

              Gwnâi’r rhain gynt baran ar barau’n barod i’r ffeiriau ac yno y cwrddent â’u

              cwsmeriaid pell.

 

Dyma stori a glywais gan y diweddar James Rees, Cefngrugos-fach, Llanarth. Dai’r Towr o ardal Talgarreg a Llangrannog wedi mynd i fyny i farchnad fisol dechrau Awst yn Aberystwyth i ofyn am waith gyda’r ‘cneia [sic]’ llafur. Cael gwaith a phrynu pâr o glocs yn y dre cyn cychwyn am Benllwyn at y gwaith. Wedi cwpla â’r llafur, ei gadw ‘mlaen i doi’r tasau ac wedyn dai a bythynnod. Erbyn hyn daethai’r gaeaf a’r rhew a’r eira. Fe benderfynodd Dai fynd adre [sic] ond cyn cychwyn cofiodd mai cystal fyddai prynu ail bâr o’i clocs [sic] ardderchog a gawsai yn Aber, ddechrau’r cynhaeaf.

 

[MS 91_0017]

Mynd yno a chael y môr yn un darn caled o rew. Penderfynu mynd adre [sic] ar [sic] y mor [sic], medd [sic] ef, ac i fyny ag ef i ben Constit. [sic] Hill, cymryd [hynfa?] a disgyn ar [sic] y mor [sic].’ Roedd yn mynd heibio i Dan y bwlch [sic] heb ei weld ac yn cyflymu o hyd wrth basio Llanrhystyd [sic] a Llanon ac Aberaeron. Pan oedd yn nesu at y [sic] Cei Newydd clywai sŵn crafu cas a gwichian yn dod o rywle a phenderfynu chwilio beth oedd. Plygodd i lawr a defnyddio coes y bladur oedd ar ei ysgwydd i geisio arafu ei [gwrs?] ac o’r diwedd stopio gyferbyn â Chwm Tydu [sic]. Ac o edrych, beth oedd yna ond pedol ei glocsen dde a phren y sawdl wedi treulio’n lân i ffwrdd, cig ei sawdl hefyd a’r asgwrn oedd yn sgraffinio’r [sic] slaid [sic], meddai Dai!

 

[Heter?] y gelwir y darn solid o haearn a boethir yntân [sic] i’w roi’n goch ym mocs yr haearn smwddio.

 

2.     Cofiaf [sic] hen wragedd yn gwisgo pais-a-gwn [sic]-bach o ryw wlanen gref ac o streipiau du a choch tywyll ond ni wn ragor na hynny amdanynt yn awr.

 

 

[MS 91_0018]

B.    Am hanes y plwy a’i [hynafiaethau?], gweler cyfrol D. J. Davies (cyhoeddwyd gan W. Spurrell a’i Fab. tua 1930). Cesglais innau restr (anghyflawn) o eiriau llafar yr ardal i’r B.B.C.S. [sic] IV, IV. May 1929.

 

4(a)           Yn fy nghof cyntaf i, âi hen wragedd pentref Ffosyffin [sic] allan i’r rhosydd i

                  gasglu briwyd neu olosg neu wrec (o lan y môr) a chludo’r baich wrth raff

                  ar eu cefnau. Cofiaf [sic] yn dda i ninnau’r [sic] hogiau gael berfa i garthu’r

                  beudy heblaw’r whilber gyffredin. Dwy fraich hir oedd y ferfa ag estyll wedi

                  eu hoelio’n groes rhyngddynt yn y canol:-

 

[diagram]

 

y [sic] rhyw elor fechan heb draed. Disgwylid i mi a’m brawd llai garthu [sic] tai’r gwartheg hesb [sic] â hon ar y Sadwrn ac yn y gwyliau ac un swydd oedd hefyd i fynd â’r dom lle y mynnem i’r domen.

 

Cedwid ceir-llusg yn gyfan gwbl bron at fynd a’r ogedi o gae i gae yn y gwanwyn [sic], a gwneud y gwaith i gyd naill ai â chert (=cist =box-cart) neu â [chambo?]. Cedwid y gambo at gario gwair a

 

[MS 91_0019]

llafur a choed. Ceid dau fath – yr un ag ochrau fel (a)

[diagram]

y [sic] hynny yw un ag ochrau iddi o droedfedd o uchder drosti ac yna ddwy astell gref dipyn oddiwrth [sic] eu gilydd [sic] yn uwch. Yr oedd hon yn fwy cyffredin ym mhlwy Llanarth ac i lawr am odre’r sir. Y llall oedd

 

(b) [diagram]

 

Dyma’r un oedd fwyaf cyffredin yn Nyffryn Aeron a chambo byst a chlwydi y gelwid hi gan y dynion i’r de i [sic] ni, – y rhai a ddefnyddiai’r llall yn gyson. Y mae’n ddiddorol sylwi bod hyd y pyst ar y pedwar cornel yn rhyw 5 troedfedd yn ddieithriad yn ardal Llanon, Llanrhystyd [sic] ac i fyny ac mai 2’6” i 3’ yw’r arfer gennym ni.

Yr oedd ffordd arall o gario’r gwair a’r llafur sef trwy roi riblen ar y gist i ymestyn y llwyth yn ôl a blaen. Bu’n gyffredin iawn ac un

 

[MS 91_0020]

hwylus oedd hefyd i gywain llafur. Dyma blan o un

[diagram â beiro a phensil o’r gist â allwedd [sic] yn dweud ‘y gist heb y riblen’.]

Ymestynnai ‘mlaen at strodur y ceffyl a thros gwt y gert.

 

Cul, o ryw 3½”, oedd cylchau’r olwynion fwyaf er i mi weld rhai tua 5” ar wagenni a chamboed a ddôi i’r ardal i gario coed. Echelau pren sydd i’r rhan fwyaf a’r olwynion heb eu cwpanu lawer. Y seiri gorau am waith felly heddiw yw John Davies, Ysw, Dihewyd, a Mr James, saer Llangwyryfon. Yr oedd yna saer ym Mhenclawddmawr [sic], Ystrad flynyddoedd yn ôl ac un da oedd am gerti ac olwynion.

 

(dd)       Ni wn i lawer am hyn, eithr cofia fy nhad-yng-nghyfraith am ‘arllwys llonge

             [sic]’ yn [Aberteincell?], rhwng Llanon a Llanrhystyd [sic] ychydig tros [sic] 40

             mlynedd yn ôl. Deuai’r llong a glo i mewn gyda’r llanw a dechreuid dadlwytho

             mewn certi ceffylau cyn i’r llanw

 

[MS 91_0021]

fynd allan yn llwyr. Yna, disgwylid am lanw wedyn i gludo’r llonga’ [sic] ‘oedd wedi ei harllwys.

C.    Ceir llawer am addysg eto yn y llyfr y cyfeiriwyd ato uchod. Cofier [sic] hefyd mai yn y plwy yr oedd ysgolion y Dr Phillips gynt.

3.     Ni ddeuthum i ddim ar draws hen arferion chware [sic] na rhai ynglŷn â rheibio, dim ond clywed crybwyll bod y fath bethau rywbryd ond ein bod ni’n llawen rhy ddifrif [sic] a chall i hynny. Yr wylnos olaf a gofiaf [sic] yw’r un pan fu farw un o ofaint gorau’r ardal, Mr Evan Jones Ffosdeicin tua? 1921 – neu cyn hynny efallai. Ceir gwr yn y plwy heddiw sy’n gallu cael ffynhonnau dwfr â gwialen, medd ef.

Credid gynt (20-15 [sic] mlynedd yn ôl) mai gweld bachgen oedd orau yn gyntaf ddydd Calan a gwnaem ninnau’r [sic] bechgyn helfa go lew o galennig o’r herwydd mewn lleoedd felly.

Sgrifennais [sic] atoch rywbryd o’r blaen a roi hanes y gaseg fedi, ac fe roddais i’r

 

[MS 91_0022]

Dr Gwynn Jones yr hyn a gefais am ddyddiau cael gan y diweddar Mr D. Evans Cilfforch tua 1926. (Gweler T. G. J. Welsh Folklore & Folk Custom t. 145-6).

 

CH.         Daw’r cynhaeaf ŷd yn gynt yn Ardal [sic] Aberystwyth nag yw Nyffryn Aeron

                a chynt âi pobl fyny i farchnad Aberystwyth a chyflogi yno am bythefnos neu

                dair wythnos at y cynhaeaf cyn i’w cnwd hwy adref aeddfedu. Rhwng y

                gwrtaith o’r siop a’r peiriannau newydd a’r Rhyfel mawr, diflannodd yr arfer.

                Bu fy nhad a’m taid wrthi a chofiai [sic] tad-cu fy ngwraig, - Mr David

                Edwards, Porthmawr [sic], Llanon a fu farw 1932 yn 84, ac a faged yn

                Llangwyryfon, – amdano ef a chyfeillion yn ei cherdded hi trwy Gaio am Sir

                Henffordd i’r cynhaeaf yno. A chlywais innau lawer o sôn am bobl oedd yn

                cofio am gneio [sic] Sir Henffordd.

 

Yr arfer oedd i gymdogion mewn ardal gyd-weithio yn enwedig gyda’r dyrnu a’r hau tatw a’r gwair a thynnu tatw. Ceisiai pobl helpu ei gilydd wrth y gwair yn enwedig a lladd yn eu tro. O hynny ceid llawer iawn

 

 

[MS 91_0023]

o wair i mewn mewn [sic] diwrnod heb i neb weithio’n galed iawn. Cofiaf am yr hen ŵr (Mr D. Davies Caehaidd, oedd y pryd hwnnw) yn dod i’m cartref i â’i ddau gart a cheffylau i’n helpu ni i gael ein gwair i fewn [sic] (tua 1921-2 rywbryd). Nyni [sic] oedd wedi lladd gyntaf ond yr oedd ganddo ef wair ar lawr yn barod i’w gywain bron; gan i ni gael tipyn o law, ‘roeddem wedi dal ein gilydd fel petai. Ni ddisgwyliai neb ef i’n helpu ni a phan soniodd fy nhad wrtho am hynny, ein bod wedi bwrw y buasai ef wrth ei wair ei hun, digiodd braidd a dweud yn araf a chadarn iawn “Chi laddodd gynta’ [sic] a chi sy [sic] ddod mewn gynta [sic].”

 

Trwy helpu wrth y cynhaeaf gwair y talai ffermwyr am darw i’w gwartheg i’r rhai a gadwai deirw. Ni dderbynnid arian. Felly hefyd bobl y pentrefi’n talu am y tir a’r dom ynddo i osod eu tatw. Golygai tir i becaid o datw ryw 240 llathen o rych neu rychiau [sic] (tua 200 ar lan y môr tua Llanon) a heuad [peced?] oedd hynny. Rhaid oedd gweithio 3 diwrnod llawn wrth y cynhaeaf i dalu am dir y [peced?] tatw (ll. = [peceide?]). Wedyn os byddai ffermwr yn mudo (yn yr hydref [sic] cofier [sic])

 

 

[MS 91_0024]

o un fferm i’r llall, cludid y cwbl iddo gan ei gymdogion - roedd pawb yn fodlon i “dowlu llwyth”. [Symudodd fy rhieni i o un pen i’r plwy i’r llall yn hydre’ [sic] 1925 ac ar wahân i’r hyn [gariasom?] ein hunain wrth ein pwysau, aed â’r llafur i gyd - tros 80 llwyth ohono - gan gymdogion, rhai ohonynt yn helpu am ddiwrnod ar ei hyd.]. Ac os digwyddai dyn ‘ddechrau ei fyd’ ar fferm câi help i’w gosod y gwanwyn [sic] cyntaf trwy fynd o bob cymydog (gwerth yr enw) yno am ddiwrnod i gario dom [sic] neu aredig neu lyfnu neu roi llafur had iddo.

 

(a)        Gweundir yw llawer o’r tir a meinen galed otano [sic] os mai tir du, mawnog

fydd ar yr wyneb. Gynt, y dulliau dreinio [sic] oedd trwy roi coed neu ddrain yn y

cwteri neu wneud cwter gerrig [diagram â beiro o gwter gerrig] – dyna geg un teip, neu gwter focs [diagram â beiro o gwter focs].

(b)        Ffermydd cymysg yn cadw tipyn o bopeth yw’r mwyafrif, a ‘chyflëir eu maint yn ôl

 

 

[MS 91_0025]

y stoc a gedwir ac nid yn ôl yr aceri. Tŷ bach oedd tŷ [sic] heb ddim ond gardd o dir; yna cawn le cadw buwch (1-10 acer) lle dwy fuwch (-15 acer) lle tair buwch (-20 acer) a chedwid ceffyl yn aml gyda’r rhain. Yna byddai lle 25-30 acer yn lle pâr o geffyle [sic], 40-65 acer yn lle tri cheffyl, 65-80 acer yn lle dau bâr neu 9-10 buwch o wartheg ac yn y blaen, canyd [sic] rhyw 150 acer (= 3 phâr) oedd y ffermydd mwyaf. Neu ceid lle dau was a morwyn, lle tri gwas a chyfrifid y deiliaid hefyd. Yn gyffredin, cadwai lle o 100 acer o dir cymysg ryw 10-12 o wartheg a magu 12 o loi bach, rhyw 5-7 o geffylau a 40 o ddefaid (penddu, Seisnig), heblaw buwch neu ddwy at fagu a moch i’w tewhau. Trinid [sic] rhyw 1/3 o’r tir ar lawer o’r ffermydd a hynny yn ei dro i gyd, ar wahân i rai caeau a gedwid [sic] yn gyson at ‘wair gwndwn’. Y rhod gnydau gyffredin [sic] yw:- porfa - ceirch gwanwyn - efallai’r un peth wedyn am flwyddyn arall - tatw a maip etc. pryd y rhoid dom [sic] iddo - gwenith (gaeaf [sic]) –

 

 

[MS 91_0026]

- barlys a hadau - gwair a chlofer [sic] - gwair - porfa am ryw 3 blynedd cyn dechrau’r un rhod dochef ar Fanc Siôn Cwilt ni ellid trin mor drwm ond cadw at: - borfa - ceirch - tatw - barlys - gwair a chlofer - porfa (am ryw 3 mlynedd) U. S. W., am nad yw’r tri mor gryf i allu cadw’r achles ynddo. Bellach, wrth gwrs, gwrteithir pob cnwd bron yn ysgafn trwy ddefnyddio’r gwrtaith cemegol yn unig, a gadael dom [sic] yr anifeiliaid i dro’r tatw. Y mae yna ddywediad yn yr ardal bod clawdd neu sietyn gyll yn golygu tir ffrwythlon.

 

(c)        Yn rhyfedd ddigon y mae gan yr ardal hon ei dull ei hun o drin cloddiau. Rhai pridd ydynt fynychaf a chnwd o gyll neu helyg neu wern arnynt. [Dywedodd fy nhadau wrthyf i lawer o’r cloddiau gael eu codi’n geimion o bwrpas i roi cysgod i anifeiliaid oddiwrth [sic] wyntoedd o bob cyfeiriad.] Ni phlygir y coed ar y gwrych fel ag a wneir yng ngogledd y Sir ac yn Sir Gaerfyrddin ond aros fynychaf [sic] nes delo tro aredig y cae. Yna torri’r coed yn lan i ffwrdd

 

 

[MS 91_0027]

o grib y clawdd a’u dwyn adref ar y tân. Erbyn bo eisiau’r cae i bori ymhen rhyw 5 mlynedd bydd yna wrych tew o goed ifanc eto a chanddynt gysgod hefyd. Nid yw plethu na thocio felly’n gyffredin yn ein plith ni. Ceisir hefyd gan ffermwyr taclus, godi’r pridd i ben y clawdd yn gryno i gadw’r ffos yn agored. A phan goder clawdd newydd, o garreg a [chlotsen?] y gwneir ef, y cerrig ar eu talcen, a phob rhestr o chwith:-

 

[diagram]

 

(ch)       Erydr haearn sydd yn yr ardal heddiw i gyd. Cofia fy nhad bod y Berllandeg yn

             defnyddio rhyw fath o aradr bren [sic] tua 1900. Ac erydr bach heb olwynion

             yw’r rhai cyffredin. Rhai wedi eu gwisgo â Chasten [sic] o Benllwynrhaca [sic]

             neu Llanfihangel (? Y Creuddyn) neu [?] oedd y rhai mwyaf hwylus er bod un

             Tynberth (Y Cribyn) yn un dda [sic] iawn hefyd. Sychod [sic] cast sydd i’r

             mwyafrif bellach gan nad yw’r tir yn garegog iawn.

 

Yn ardal Llanon ac oddiyno [sic] am

 

[MS 91_0028]

Aberystwyth, y teip a elwir Scotchen a defnyddid, a swch haearn o waith gof sydd i’r rhain. Y mae’r math hwn yn dda yn nhir trwm caregog glan y mor [sic], gan fod y swch yn fwy craffus a sicrach [sic] ei gafael rhwng mân gerigach [sic]. [Yr wyf yn siarad o brofiad personol gweddol helaeth ar y pynciau yma: yr wyf wedi troi’n gyson bob gwanwyn [sic] oddiar [sic] 1922 - mwy na’i gilydd ambell flwyddyn wrth gwrs, o raid y blynyddoedd cyntaf ac o elfen bellach].

 

Os ydyo [sic] am enwau rhannau’r aradr, gweler B.B.C.S. [sic] Mai 1929.

 

Rhai haearn yw mwyafrif yr ogedi bellach. Y mae rhai pren o hyd a thynnu hwy ar letro i lyfnu’n fân. Yr oedd y diweddar Mr John Thomas, gof Capel Ficer, Mydroilyn, yn gwneud rhai haearn ei hunan ar ddull y rhai ‘parod’ Seisnig ond eu bod yn well. Oged drâd bwyed y gelwid y math a wnâi ef â dannedd fel hyn o edrych arnynt o’r tir blaen, a rhai ffyrnig oeddynt ar dir cleiog wedi caledi. [Diagram â beiro o oged drâd bwyed]. Talpyn [sic] y gelwid rhes o ddannedd ac os byddai

 

[MS 91_0029]

i oged 9 rhes o ddannedd, un naw talpyn [sic] oedd.

 

(d)        O lywanen (llywionen) - carfanes yn ardal Llanon - yr heuid. Mesurid grwn o ryw 4 neu 5 llath o led ar y cwysi a gellid hau hwnnw ar ddau gerddad [sic] o un towlad [sic] neu un cerddad [sic] o ddau dowlad [sic]. Yr olaf yw’r hawsaf gennyf i, sef cerdded trwy ganol y grwn (5 llath o led i geirch llwyd; 4 llath yn ddigon i farlys neu geirch gwyn neu wenith neu had bras) a thaflu ergyd (= dyrnaid) gyda phob troed ar y naill ochr i’r grwn ar ôl y llall. Y dasg yw taflu’n uchel ac ymlaen i’r had gael gwasgaru. (Gellid, wrth gwrs, gerdded gydag un ochr i’r grwn i lawr a thaflu ergyd gyda’r droed dde o hyd a’r un fath yn ôl gyda’r ochr arall.).

Llyfnir trwy dorri’r garw a phen y ceffylau am y goriwaered iddynt gael mynd yn ôl ar y llyfyn [sic].

 

Ceir darn gwastad o dir rhwng Llanon â’r mor [sic] ac a elwir Morfa Esgob. Y mae hwn yn lleiniau i gyd a delir y lleiniau

 

[MS 91_0030]

gan fân dyddynwyr y pentref. Nid wyf wedi cael gwybod dim am y dull y trinnid hwy gynt os gwneid yn wahanol y pryd hwnnw, rhagor na fo llai yn nwylo un dyn pan gadwai tipyn o bawb ei fuwch a’i fochyn ei hun.

 

(dd)          [Medid?] â chryman gynt a gelwid y lled a dorrai dyn i gael [siedrem?] neu

                lond y cryman yn hydfed. Yna daeth taro (barlys i ddechrau) â’r bladur a

                chader gan ei adael ar lawr i gael taw am ychydig ddyddiau cyn ei rwymo.

                Gwnâi dwy [siedrem?] gryman ysgub. Rhoid 4 neu 6 neu ragor o’r sgubau

                [sic] ar eu traed ar draws ei gilydd yn stacau. Yna, os na ddeuai’n ddigon

                sych felly ei roi’n sopyn (mwdwl yn nhop y sir), naill ai un llaw a wneid â llaw

                o’r llawr neu un pen-lin, ag un yn penlinio arno a’r llall yn taflu iddo. Âi rhyw

                8-9 drefa i un pen-lin (a 24 ysgub ymhob drefa.). Wedi ei gael yn sych fe’i

                cymerid i’r ydlan a’i wneud yn belen o ryw 5–12 llwyth yn ôl y dymuniad.

 

[diagram]

 

Dyma’r idea [sic] sy [sic] gan bob belmwr [sic] ar ddechrau ei ymgais! Y mae’n haws gwneud tas na belem ond gan mai ardal laith,

 

[MS 91_0031]

gysgodol yw,  a llawer o chwyn a phorfa’n tyfu ym môn y llafur ac felly yn yr ysgub, y mae’r belem yn fwy cymeradwy na’r das sgwâr [sic] am ei bod yn haws gwneud belem fach na thas fach, a’i gwneud yn ddiddos. Ar lan y môr o Lanon i fyny, y mae’r das yn ddigon da gan fod y gwellt yn lanach a chrasach.

 

Gynt, ac o hyd pan dorrir llafur “ar lawr” â chryman neu bladur, rhwymid yr ysgubau â rheffyn a’r cwlwm cyffredin oedd troi’r ddeupen o’u rhoi gyda’i gilydd wedi bod o gylch yr ysgub, ac wedi eu troi’n dyn, plygu’r pen a’i wthio dan y rheffyn am fôn yr ysgub gan y gwnâi hynny fwy o wasg arno am fod bôn yr ysgub yn fwy swmpus neu’n ffynfach. Rhywbeth fel hyn

 

[2 x diagram]

 

Eithr pensil wrth rwymo gwenith rhag gwasgu’r tywys a gofalu eu cadw hwy

[MS 91_0032]

yn glir o’r cwlwm gan rwymo pen arall y rheffyn wrth wddf y tywysennau. Bellach, wrth gwrs, y peiriant fydd yn gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith a’r ffordd hawsaf a chyflymaf piau [sic] hi.

 

Gyda’r hen ddwylo, rhip a bloneg a swnd arno a ddefnyddir i hogi’r bladur, ond gyda’r to ifanc bodlonir ar awch garw’r [carbonandum?] gan na ddefnyddir y bladur ond i dorri’n union o gylch y llidiardau a’r corneli.

 

(e)        Dyrnid gynt â [ffust?] ond wedi hynny daeth y part [sic] mâs peiriant a yrrid gan geffylau. Yn Aberteifi y gwneid y dyrnwyr gorau a’r part mas er bod rhai cast mawr o ffowndri Aberystwyth i’w cael. Rhai o Loegr – Wisbech – oedd y peiriannau nithio a gofiaf [sic] i.

 

Yr arfer oedd yn y plwyfi yr ysgrifennaf i amdanynt i bob fferm ddyrnu’r ŷd wrth raid trwy’r gaeaf [sic]. Eithr o ardal Llanon i fyny

 

[MS 91_0033]

ceisid gwneud y cwbl pan ymwelai’r dyrnwr mawr a’r injan stêm yno yn yr hydref [sic] ac wedyn yn y gwanwyn [sic].

 

Wrth doi, gwneid y rhaffau o wellt neu bibrwyn – brwyn gwahanol i’r rhai cyffredin ac ni

ŵn beth yw’r gair Saesneg amdanynt. Os byddai amser, rhoid gwrach [sic] ar y das yn gyntaf - rhyw hir ffagod o friw-wellt wedi rhoi rheffyn amdano bob troedfedd. Weithiau torrid rhedyn cryfion glas i wneud hyn. Yna, rhoid rhaff [sic] ar hyd drosto a phlethu trwm bleth am y rhaff [diagram â beiro a phensil] - yn fwy o addurn nag o ddim byd arall. Os na fyddai amser, yna, rhoi to hir i lapio dros y drwm heb y gwrach [sic] (gwrywaidd) a thair rhaff i’w ddal. Cyn dod o gortyn rhad y siopau gwneid rhaffau un sgaing (skein) ar hyd canol y pen a rhaff bleth o ddwy sgaing ar y drwm a’r bargod. I gadw’r rhain yn eu lle’r oedd rhaffau’n hongian dros y drwm - rhai pleth dwy sgaing eto - a gelwid hwy’n angorion. Rhoid cap [sic] ar big

 

 

[MS 91_0034]

belem cyn ei thai hi - un wedi ei wneud o frwyn hirion [sic] glas, fynychaf. Cedwid yr angorion uchod yn eu lle naill ai â phriciau [sic] i’r das, neu drwy hongian cerrig trymion wrthynt.

 

[diagram]

 

(f)         Da byrgorn sydd fwyaf cyffredin ynghyd a chymysg o rai penwyn – Hereford [sic]. Cofiaf ddysgu’r rhigwm hwn, cyn clywed am fuchod y 5 mil galwyn –

 

Trw di Fach

Penwen deg

Fagodd beder –

Buwch-ar-ddeg;

‘Fagith eto

Cyn bo’i farw

Beder-buwch-

Ar-ddeg a tharw!

 

Yr oedd rhai ffermydd megis Y Graigwen, Ystrad, a’r Tyddyn Du, Dihewyd, yn cadw’n fanwl at dda duon [sic]Cymru.

 

Y beudai a’r bing rhwng dwy res o wartheg wedi eu clymu i wynebu ei gilydd sydd fwyaf cyffredin, a reil

 

[MS 91_0035]

y tu hwnt i’r beudai i gadw’r lloi pan fyddent yn sugno. Bellach, newidir llawer o’r rhain i ateb dibenion gwerthu glanach a helaethach [sic] llaeth.

 

Ni chlywais am ddefnyddio dim un peiriant arbennig i siaffio [sic] eithin, er y cofia fy mam yn dda wneud hynny mewn llawer o leoedd.

 

f(ii)          Nid oedd dim arferion, hyd y gwn i, – ac y mae fy nhad yn ŵr ceidwadol

               iawn, - ynglŷn â harnais ceffylau. Cedwid y ffrwyni a’r “offer gorau” - rhai

               trap y poni a’r ffrwyn olau oedd yn mynd gyda’r cyfrwy, yn y tŷ byw mewn

               man cras, rhag iddynt rydu a phylu o’r pres gloyw. Eithr ni chrogid hwy’n

               amlwg i’w gweld. Yr unig le y gwn am hynny, a’i gofio, yw Moel Ifor,

               Llanrhystyd [sic], lle mae cyd-frawd-yng-nghyfraith i mi yn byw. Eithr o fferm

               o’r enw Plasan tua Charno neu Lanbrynmair y daethant hwy y ffordd [sic]

               yma.

 

Yr oedd gan bob [sadler?] ei fathau ei hyn [sic] o fyclan eithr eu prynu yr oeddent hwy gan drafeilwyr yn y nwyddau hynny. Y mae’n werth sylwi

 

[MS 91_0036]

hefyd sut y mae coleri ceffylau yn newid o Lanon i fyny. Islaw Llanon, rhai plaen ydynt heb ffedog ar war neu ysgwydd y ceffyl. Ond i fyny oddiyno [sic] y rhai cyffredin yw rhai â ffedogau mawrion iddynt fel hyn

(a)   Dyffryn Aeron [diagram â beiro.] (b) Gogledd y Sir [diagram â beiro.]

 

f(iii)         Gan mai ardal laith ydyw ar y mwyaf, ni cheir llawer o ddefaid yma. Cedwir

               defaid tac tros [sic] y gaeaf [sic] i ffermwyr mynydddir [sic] Sir Gaerfyrddin,

               ond rhywbeth rhag ffaelu fu [sic] hynny i’r mwyafrif o ffermwyr a’u cymerai.

f(iv)        Ni chlywais i ddim tarawiadol [sic] iawn ynglŷn â gwella anhwyldeb ar

               anifeiliaid – yr oedd gan rai ffydd fawr mewn llysiau megis dail dringol, rhisgl

               draenen ddu a’r milddail [sic] ond at y Ffarier yr aem gan mwyaf a chymryd ei

               gyngor a’i foddion ef. A gwr [sic] gwreiddiol oedd hwnnw - Gwyddel o waed

 

 

[MS 91_0037]

o’r enw Mr Patrick a faged yn y Cei Newydd a Chymraeg oedd ei iaith. Tyfodd cylch o chwedlau amdano ef a’i ddywediadau miniog a tharawiadol [sic] i gwrthodai’r [sic] bendant gymryd ei gario gan neb na dim. Newydd roi heibio y mae. Yn Llanarth yr oedd ef yn byw.

Yr oedd un arall yn Llwynfedw Mydroilyn, heb fod yn gystal am anifail ond a’i elfen i gyd ar englyna a rhigymau ond yn fwy na dim ar wneud ffyn a gwyntyll. Beirniadai’r rheiny mewn mân eisteddfodau mewn rhigymau medrus iawn. Mae yntau wedi rhoi fyny [sic] bellach. Gwnaethant ill dau waith rhagorol am yn agos i 50 mlynedd yr un ac am y nesaf peth i ddim o dâl.

Ychydig iawn a wn i am felinau a malu er y

Ch. 2 dylwn wybod llawer amdanynt gan mai melinydd oedd fy nhad-cu, yn byw yn y Felin Feinog, Dihewyd. Clywais ef lawer tro yn disgrifio’r gynnos (yr ŷd a ddygid i’w grasu) a’r gogyddio sef, fe allwn feddwl, wastatau’r maen wedi misoedd o falu.

Y rhodan [sic] dŵr cyffredin yn yr ardal yw’r rhai a llwyau pren a’r dŵr yn llifo

 

[MS 91_0038]

drostynt. Pynfarch oedd yr enw a roid weithiau [sic] ar mill-race [sic] ac ar sluice [sic] bryd arall.

Ch. 3

Heblaw efail Tynberth, y Cribyn, a wisgai erydr â chasten [sic] o’i phlâu [sic] ei hun, ac efail [sic] Capel Ficer a wnâi ogedi o fath arbennig, nid oedd dim arbennig yn y lleill. Yn rhai ohonynt yr oedd y pil (lle pedolid ceffyl) yn yr un ystafell â’r tan [sic]; bryd arall yr oedd pared rhyngddo.

Ch. 4

Rhwymir llyfrau gan ddosbarthau nos yn Ysgol Llwyncelyn o dan arweiniad Mr E. Rees, yr ysgolfeistr. Dyfeisiodd ef ffordd o dorri ymyl dail llyfrau wedi eu hail-rwymo wrth ddefnyddio plât cyllell peiriant gwair, fel hyn

[diagram]

Eithr y grefft y bu fwyaf o lewyrch arni oedd gwneud gwyntyll a llwyau a ffyn a lletwadau.

 

[MS 91_0039]

Yr oedd fy nhadau, y diweddar Mr W. Jones y Felin Feinog, yn gryn grefftwr ar hyn a gallai ef wneud basged fach ddestlus iawn o wiail drysi (coed mwyar). Delltai’r [sic] rheiny (h.y. eu hollti’n llafnau tenau) cyn eu plethu. Gallai hefyd wneud basged o wellt ceirch a’i rhwymo eto â dellt drysi, yn yr un ffordd ag y gwneir raffia a chen heddiw. Er mwyn gwneud llwyau ac ‘roedd yn rhaid cael cylleth gam i naddu allan bant yn y pren.

 

Diddorol yw sylwi ar y ffordd y rhennid y flwyddyn yn dymhorau ac adegau. Anaml y nodid y mis na’r dyddiad – rhyw ddiwrnod

 

[MS 91_0040]

neu wythnos neu naw diwrnod neu bythefnos o flaen rhyw ddydd arbennig neu ar ei ôl y digwyddai pethau.

 

Wedi Dy [sic] Calan, deuai Ffair San Silyn ym Mis Bach; yna Ffair Ddewi (Llanarth) neu Ffair Garon (dyna’r adeg i ddechrau hau ceirch). Yna’r Pasg a Chlame a Ffair Dalis (ddechrau Mai - adeg hau barlys) a phan âi’r da mas y nos. Yr oedd Ffair Sulgwyn yn Llanbedr Pont Steffan ar Fercher y Sulgwyn a Ffair Llanarth yr Haf ar y 22 o Fehefin. Yn hon y gwerthid y da stôr neu dda hestor [sic]. Yn fuan byddai’n gneia [sic] gwair ac yn Awst dôi Dy’ Mercher Mowr [sic] pan geisiai pawb fynd i lan y mor [sic] yn Aberaeron ar un o’r tri hyn yn Awst. Yna’r cneia [sic] Medi a Ffair Dalsarn a Gwylhangel a Ffair Santes yn Llanybydder. Mae bellach yn Glangeia a’r Nadolig bron a dod.

Adeg Glangeia bydd gweision a morynion

 

[MS 91_0041]

yn newid lle. Yn yr ardal hon bydd y rhan fwyaf wedi cyflogi’n fuan wedi hanner mis Medi a setlo’u lle am y flwyddyn nesaf. Rhoir ern gan y cyflogwr i’r cyflogedig: bydd hela’r ern yn ôl yn ddigon i dorri’r cytundeb rhyngddynt (rhyw 2/6 ydoedd ‘fynychaf.). Yn ardal Llanon, ni chyflogir hyd ddydd y ffair o hyd, a ffair Lanrhystyd [sic] fydd honno.

 

Cytunir am flwyddyn. Gynt, gellid, yn lle talu trwy arian, roi hefyd i’r gwas borfa i ddafad o’i eiddo os oedd berchen ar un, neu dir i hau [peced?] o datw i’w rieni os nad oedd ganddynt dir eu hunain. Do byddai i was aros saith mlynedd mewn lle, ‘roedd yn arfer (a chadwai ffermwyr da at hynny) roi anner (heifer) flwydd iddo gyda’i gyflog ar y seithfed flwyddyn. Câi ef ddewis yr un a fynnai. Eithr i’r forwyn, pâr o flancedi a roi [sic] iddi hi ar ôl saith mlynedd o wasanaeth.

 

[MS 91_0042]

Y mae rhai o'r arwyddion tywydd yn ddiddorol. Adeg sychtwr [sic], os bydd gwylanod yn hedfan o amgylch, dywedir eu bod yn galw am law. Adeg tywydd anwadal yn yr haf, pan fo’r gwynt o’r de neu dde orllewin, credir bod posibl i’r tywydd setlo ryw ffordd neu gilydd [sic] “wedi i’r gwynt a’r hail [sic] groesi gilydd”. Y mae gwartheg yn gorwedd yn agos i’w gilydd ar ganol cae yn ystod y dydd yn arwydd o law; felly gi yn pori. Ar dywydd teg, os ceir tair noswaith heb wlith, disgwylir glaw’n fuan. Eithr y lleuad, yn enwedig adeg ei newid (!) sydd fwyaf cyfrifol; am y tywydd gwael, beth bynnag! Oni aned pobl syml hefyd ar ei gwendid hi?

 

Arwyddion o law’n agos hefyd yw

 

[MS 91_0043]

gwartheg yn rhedeg ar y tes neu wyddau’n fflapio’n gas yn y llyn dŵr.

 

Os bydd yn bwrw’n drwm o’r de-orllewin, y mae’n “bwrw o dwll y glaw”. Ar achlysuron felly, canem ni blant

Glaw glaw, cer ffor’ draw;

Haul, haul, dere’n nes.

Ond ar yr arwyddion y dibynnai popeth yn y pen draw –

Bwa’r ach y bore

Amal iawn gawode;

Bwa’r ach prynhawn

Tywy’ teg a gawn.

Yn wir credid y rhan fwyaf o’r rhai a roir yn nhad. 122 o Goelion Cymru gan Evan Isaac.

 

[MS 91_0044

Wele rai dywediadau yn eu brethyn cartre [sic] aeth rhai ohonynt mewn diwyg barchusach [sic] yn ddiarhebion:-

 

1.     Pa well codi pais ar ôl piso?

2.     Y tywydd mor oer nes “rhewi baw wrth din ‘deryn.”

3.     Y tegil yn edliw i’r crochan fod i din e’n ddu.

4.     Towlu gole y bydd pan fo’n mellto.

 

 

 

Do you have information to add to this item? Please leave a comment

Comments (0)

You must be logged in to leave a comment