1957 Questionnaire Response by Einion Jones
Description
Notes by Einion Jones, Ysbyty Ifan on Welsh language sayings from the Ysbyty Ifan area and as a response to the 1957 questionnaire created by Amgueddfa Werin Cymru.
Transcription
[MS 1157_0001]
[Teip]
AMGUEDDFA WERIN CYMRU
Diwrnod gwaith cyffredin ers lawer dydd.
Atodiad yw hwn i’r Holwyddorog (sic) ar Ddiwylliant Gwerin (cloria melyn). Os gellwch ymdrin yr un mor fanwl ag unrhyw bwnc arbennig yn yr Holwyddoreg honno, byddwn yn dra diolchgar. Byddwn bob amser yn barod I anfon cyfarwyddyd pellach ynglŷn ag unrhyw bwnc. Anfoner pob atobion (sic) ac ymholiadau at y Ceidwad, Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, Caerdydd.
Awgyniadau am y math o wybodaoth (sic) I’w cofnodi. Nodwch eiuch enw, am ba alwedigaeth yr ydych yn sôn, yn mha arddal, ac ym mha adeg yn y gorffennol.
1. Amser codi arferol. Pawb yr un amser? Unrhyw waith cyn brecwast? Beth oedd amser brecwast a beth a fwyteid? A fyddai pawb yn cael yr un bwyd? A oedd enw arall am frecwast? A oedd hi’n arfer i gadw dyletswydd? Os felly, pa bryd yn ystod y dydd? Pwy fyddai’n cymryd rhan? (Pawb yn ei dro?)
2. A oedd hi’n arfor (sic) i gymryd bwyd rhwng brecwast a chinio? Os felly, pa fwyd? Beth oedd enw’r pryd ac ymhle y bwyteid ef? A oedd amser arbennig i’r pryd hwn?
3. Am faint o’r gloch a oedd cinio fel arfer? A fyddai pawb yn cael yr un bwyd? Beth oedd y bwyd cyffredin amser cinio? A fyddai pawb yn bwyta yn yr un lee? A oedd enw arall am ginio? A feddech chwi’n bwyta cinio yn y caeau o gwbl? Os felly, a oedd y bwyd yn wahanol? Sut oedd galw’r dynion o’r caeau i’r tŷ i gael eu cinio?
4. Am faint o’r gloch yr oedd pryd yn y pnawn, a beth oedd yr enw (neu enwau) arno? Beth a fwyteid ac ymhle?
5. Am faint o’r gloch yr oedd pryd gyda’r nos, a beth oedd yr enw (neu enwau) arno? Beth a fwyteid a phwy fyddai yno – y gweision er enghraifft?
6. Sut y byddai’r gwaith beunyddiol yn ffitio i mewn, er enghraifft, godro neu ddyrnu a ffust? Pa amser ar y dydd y byddai’r gwragedd yn ymweld â’u cymdogion? A beth am y dynion? Beth oedd yr enw yn eich ardal am fynd i alw ar bobl fel hyn? (Yn rhai ardaloedd defnyddir y geiriau ‘cerdded tai’ neu ‘cymowta’, er enghraifft).
7. Sut yr oedd pobl yn eu difyrru eu hunain gyda’r nos yn eu cartrefi? Am faint o’r gloch yr eid i’r gwely? A wneid unrhyw waith gyda’r nos ar yr aelwyd.
8. Yr oedd yr adeg ar y flwyddyn, mae’n siwr, yn gwneud gwahaniaeth i rai o’r pethau a’r amserau yr ydych wedi eu hysgrifennu wrth ateb yr uchod; er enghraifft, a oedd bwyd gwahanol yn y gaeaf a’r haf? A oedd bwyd arbennig amser cneifio neu ddyrnu, neu yn ystod y cynhaeaf? Byddai’n help pe gallech nodi’r amrywiadau hyn yn nhrefniadau’r diwrnod gwaith.
9. Yn olaf, beth oedd enwau’r gwahanol ystafelloedd (neu’r rwmydd) tŷ yn eich ardal? A beth oedd enwau’r gwahanol fathau o weision ac morwynion (er enghraifft, ‘hwsmon’, gwas mawr’, ac enwau tebyg). Beth oedd enwau’r tai allan arferol yn eich ardal?
[MS 1157_0002]
[Llawysgrif]
Dywediadau ardal Ysbyty Ifan
Yn ardal Ysbyty Ifan y clywir y dywediadau hyn, er y gallai fod rhai ohonynt yn gyffredin i ardaloedd eraill yn Uwchaled, ac efallai ambell un mewn cylch ehangach, ond ymdrechais ymwrthod a rhai a all fod yn gyffredinol fel “Eira mân eira mawr”: Os cân y gôg ar bren llwm, gwerth dy farch a phryn bwn, a llawer o rai eraill.
Rhannaf y dywediadau fel hyn
1 Arwyddion Tywydd
(A) Glaw
(B) Hindda
(C) Dywediadau eraill a wnelont a thywydd
2) Dychan.
3) Doethineb
Arwyddion glaw (A)
“Yr haul yn machlud rhwng gîst a’r pared.” Ei ystyr yr haul yn mynd o’r golwg tu ôl i gwmwl wrth fachludo.
“Arennig Fach yn gwisgo’i chap”, ystyr niwl ar ei phen.
“Yr afon yn gwaeddi”, yr ochor uchaf i bentre Ysbyty Ifan y mae rhaiadr a elwir Llyn yr argae, ar noswaith dawel yn yr haf, neu ar ôl cyfnod o rew sych, os y bydd sŵn yrhaiadr i’w glywed yn eglur, dyna’r pryd y dywedir fod yr afon yn gwaeddi” arwydd sicr o wlaw.
“Y tennant gartref yng Nghegin y Cythraul”. Ystyr, pan fo niwlen fel mwg yn codi o’r fan honno yn Eryri, sydd i’w gweld yn eglur o fryn iau Ysbyty Ifan.
“Y gylfinir yn chwibanu wrth y tŷ”, yn y ffermydd mwyaf mynyddig nid oes coel ar y dywediad yma, ond y mae’n debyg fod y gylfinir yn tynnu ar i lawr o flaen tywydd ystormus, credaf fod y dywediad yn gyffredin yn Uwchaled gan imi glywed hen gymeriad o Lanfihangel G.M. a fyddai’n taflu cerrig at y gylfinir, os y deua’n agos i’r tŷ ar gynhaeaf gwair.
[MS 1157_0003 – Handwritten / Llawysgrif]
A
“Pyst dan yr haul”.
[MS 1157_0004 – Handwritten / Llawysgrif]
2
Arwyddion Hindda (B)
“Clôs Gwyddel” Llain o awyr lâs i gyfeiriad y gwynt yw clos Gwyddel. Y mae’n debyg y gwisgai rhai o’r gwyddyl a basiai drwy’r ardal glôs glâs, ac mai felly y caed y gymhariaeth.
“Taranau’n rhedeg ar hyd Hiraethog”. Gan hen wraig dros ei phedwarugain y clywais y dywediad, y mae’r un peth yn wir am gawodydd yn rhedeg hyd Hiraethog, y mae pob un o’r ddau’n arwyddion gobeithiol.
“Gwawn ar dir mynydd”
“Y gwlith yn ddagrau ar y gweiriau”
“Ewyn yn dyrrau ar yr afon ar ôl lli”.
Dywediadau eraill a wnelont a thywydd (C)
“Cywion haul” , rhyw heulen yn rhedeg yw “cyw haul”. Os y bore nid ydynt arwydd dda, ond tua adeg y machlud arwydd hindda.
“Sychu mor Cambric”. Credaf mai rhyw ddefnydd ysgafn fel sidan a gynyrchid yn Iwerddon yw cambric. Sychu’n sâl yw’r pwynt.
“Yr haul yn gwneud llygad mochyn”. Llygaid bach pell yn ei ben sydd i fochyn, ac anodd eu gweld, yr haul yn damguddio yw ystyr yr ymadrodd.
“Cylch ymhell, glaw yn agos
Cylch yn agos, glaw ymhell”.
Y cylch a welir am y lleuad.
[MS 1157_0005 – Handwritten / Llawysgrif]
(C) 3
“Gwrtaith mynydd, eira’r gwanwyn”. Fel y gwyddis, y mae eira’n tynnu huddygl o’r awyr, ac i ryw fesur y mae’n wrtaith. Ond tebycach gyda’r dywediad yma, mai am fod ceunen o eira’n cadw gwres yn y ddaear. Ac yn help i’r tyfiant ddechreu tyfu, y mae’n wrtaith.
_
2 Dychan
“Gŵr brigog”. Ystyr, gŵr pen uchel, a gormod o feddwl ohono’i hun.
Clywais dda ddyn yn ffraeo, “Rwyt ti’n yn ŵr brigog ond wyt ti, meddai un wrth y llall, credaf ei fod yn ymadrodd cyfoethog.
“Wedi cneifio cynffon ei gi”. Yr ystyr yw wedi gwneud rhywbeth amlwg ffôl, a pheri sôn amdano.
“Wedi cael tolc yn ei het”. Rhywbeth wedi digwydd i’w dynnu oddi ar y pinacl.
“Twll yn y fasged”. Mae hyn yn digwydd pan fo un wedi gorfod talu rhyw ofynion arianol fel talu’r rhent. Clywais un yn dweud “mi fydd yna andros o dwll yn y fasged ar ol heddyw.
“Wedi cael y gâth a’r ddwy gynffon”. Ystyr wedi cael y fam ynghyfraith gyda’r ferch.
“Wedi dod drwy’r goler”. Coler ceffyl yw’r goler yma, ac fel y gwyddis pwyso ar y goler y bydd y ceffyl wrth dynnu mewn gwaith, yr awgrym yw fod y ceffyl yn fain, a’r goler yn rhy fawr, a’i fod wedi dod trwyddi. Arferir am rhywun wedi cael sac o waith, neu wedi gofod rhoi’r goreu i ffermio, neu rhyw alwedigaeth arall.
[MS 1157_0006 – Handwritten / Llawysgrif]
4
“Yn wastad fel rhêch ar drinsiwr.” Ystyr gwastad yma yw sedate yn Saesneg, arferir y dywediad am amddygiad rhodresgar pigfain. Offer oedd trinsiwr i ddal bara ceirch cyn eu crasu, ei wyneb yn grwn a llyfn fel radell, a gwaelod i’w godi ychydig uwchlaw lefel y bwrdd, Er fod y gymhariaeth yma ychydig yn frâs, y mae’n cyfleu y dirmyg at ymddygiad o’r fath yn finiog. Golyga roi lle amlwg i rywbeth cwbl ddirmygus.
“Fel iâr wedi’i golchi”, Lliprinaidd.
“Hen gribin”. Defnyddir am un cybyddlyd, yn ceisio crafu pob peth iddo’i hun.
“Iâr uncyw”. Gwraig a dim ond un plentyn ganddi, ac yn dueddol i wneud gormod ohono’n, a sôn llawer amdano.
“Yn caru’n nhraed eu sane.” Dau’n byw yn yr un tŷ, ac yn gariadon.
“Oes rhywun wedi bwyta dy gaws di?” gofynir i un a fo’n edrych yn benisel a digalon, heb reswm am hynny, ac i bobl ifainc y mae’n gyfystyr a “Oes rhywun wedi dwyn dy gariad.
“Fel malwen mewn tar”. Anghyffredin o araf a diffrwt.
“Y wraig yn gwisgo’r clôs.” heddyw byddai’n y ffasiwn: ond ystyr yr hen ddywediad yw. Y wraig yr hen ddywediad yw. Y wraig yn busnesa efo gwaith allan y fferm, ac troi’r gwr yn was bach iddi.
“Dal y dydd gerfydd ei gynffon”. Golyga fod heb drefn ar waith, ac o’r herwydd yn gorfod mynd yn brysur at y nôs.
[MS 1157_0007 – Handwritten / Llawysgrif]
5
“Rhywbeth yn peri i bob ci lyfu’r pentan”. Defnyddir amlaf pan welir gŵr gweddw, neu ŵr dibriod, yn mynychu tŷ gwraig weddw, neu ferch ddibriod, yr awgrym yw fod yno garwriaeth.
“Berwi dŵr a’i daflu allan”. Defnyddir pan fo un yn brysur efo gwaith nad yw yn dod a dim elw iddo.
“Codi’r ci dros y gamfa”. “talu yn ôl yn eei gwein” yw’r peth nesaf iddo. Rhywun wedi gwneud tro budr efo’ch i, a chithau’n gwenued tro tebyb efo yntau mewn ffordd na fydd ganddo amheuaeth pam yr ydych yn gneud. Ffodd gwladwr o ddysgu moes i un difoes.
_______________
Doethineb
“O’i phen y mae godro’r fuwch”, sef, mai’r porthiant a roi’r i’r fuwch sy’n penderfynu swm y llaeth.
“Yr hwn a edrycho ar y cymylau
Ni thaen fydylau.”
Y mae tinc dihareb i hwn, ond nis clywais yn unman ond ardal Ysbyty Ifan, y mae iddo ystyr ddyfnach na’r cynhaeaf gwair. Wnaiff y sawl sy’n edrych ar y peryglon ddim mentro.
“Ni cheir afal i’w fowlio, ag i’w fwyta.” Mewn rhai ardaloedd dywedir “Ni ellir cadw afal a’i fwyta.”
“Y geiniog ddrwg ei hoced
Sydd pica yn y boced.
Mae honno’n pigo fel y gweill
Nes gyrru’r lleill i gerdded”.
Fe ganodd un o feirdd Uwchaled gwpled o bennill telyn fel hyn
“Ceiniog gam o law bydolddyn
Aiff i ffwrdd a dwy i’w chanlyn.”
A’r un ystyr sydd iddynt. (Einion Jones Ysbyty Ifan)
More items with these tags
Contact Us
To request take down or report racist, offensive or otherwise harmful content.
You must be logged in to leave a comment