1971 Questionnaire response by Auriol Thomas
Description
Notes by Miss Auriol Thomas, Llandysul on foods and housekeeping. Response to Welsh Folk Museum questionnaire, 1971.
Transcription
F71.59 [MS 1715_0001]
Patrwm Bwydydd a Chadw Tŷ
Tŷ Gwladwr
A.
1. Bwyteid cawl gan amlaf i ginio, ond ambell waith, cawsai ei ail dwymo i swper os fyddai peth ar ôl.
2. brecwast - wŷ wedi berwi, uwd, cig moch a wyau.
cinio – cawl neu bwyd y cybudd, sef cig mochyn a wynwyn wedi cael eu berwi gyda tatws
te – bara ac ymenyn, jam, caws, bara brith, tarten a byns
swper – cig oer a thatws wedi eu ffrio, cawl wedi ei ail dwymo neu bara llaeth.
brecwast – 8:00 a.m. tê – 4:00 p.m.
cinio – 12:30 p.m. swper – 8:00 p.m.
3. Yn y gaeaf ceir tê a biscedi, ond ni cheir ddim yn yr haf. Gelwir hwn yn ‘Dê Deg’
B.
1. brecwast – te a bara a menyn, caws
cinio – tatws a chig oer.
tê - yr un fath ar [sic] gaeaf
swper – salad
2. amser Nadolig – mwy o felysion, a bwyd drud, sef, ffrwythau – dathlu geni’r Iesu.
3. haf – cynheuafau[sic] gwair a thatws.
4. Ar ddydd Sul ceir cig fres [sic], tatws, gravi[sic], ac amryw o lysiau.
5. Prynnir[sic] ffagodau, sosej, cig moch, a phicls wynwyn yn y farchnad.
C.
1. cig fres[sic] neu cyw iâr, amryw o lysiau, tatws wedi eu rhostio, tatws ac wedyn pwdin reis.
2. Nac oedd – dim prydiau[sic] oer.
CH
1. gwraig y fferm
2. un o’r morynion yn helpu’r wraig
[MS 1715_0002]
D.
1. gegin, parlwr, ystafell fwrdd a llaethdŷ
2. ystafell bwrdd. (gelwir hon yn ystafell ford)
3. yn y llaethdŷ.
4. eu roi [sic] I mewn yn y llaethdŷ ar y meinciau oer, neu mewn cypyrddau mawr
Dd.
1. yn y gegin.
2. yn y gegin fach
3. ystafell fwrdd.
4. yn y gegin efo’r teulu
E.
1. a) boiler sgot??
b) dysl bridd neu eu hongian i lawr o’r nenfwd.
c) ffiolau, basn, a llwyau pren.
2 a) yr oedd llawer o’r bobl yn gwneud llestri pren eu hunain, ond yr oedd turnwyr lleol i’w gael.
b) prynnwyd [sic] y rhain mewn siop lestri.
c) copr, pres a tsieni [sic] – mewn siopau eto.
F
1. Dydd Llun – golchi a smwddio.
“ Mawrth – rhoi glanhau’r llofft.
“ Mercher – glanhau’r gegin, a gwneud mân bethau eraill, wedyn mynd i’r farchnad yn y prynhawn.
Dydd Iau – glanhau’r tŷ drwyddo, fel dod ar [sic] matiau allan i’w ysgubo, a sgleinio’r celfi. Yn yr haf cawsai’r ffenestri eu glanhau hefyd.
Dydd Gwener – Diwrnod prysur, pobi bara a gwneud cacennau erbyn y Sul.
Dydd Sadwrn – Paratoi erbyn y Sul – rhostio’r cig a gwneud y pwdin. Glanhau’r tatws a’r llysiau i gyd.
Dydd Sul – mynd i’r cwrdd.
2. Rhaid oedd ysgubo’r clos a glanhau esgidiau’r teulu i gyd, a thynnu’r dillad gorau allan o’r cwpwrdd
[MS 1715_0003]
i’w caledi erbyn y Sul.
Ff.
G.
1. Yn yr haf, byddai’r gŵr yn glanhau’r ardd, a thorri’r cloddiau. Byddai’r wraig yn glanhau’r drôrau. Ambell i noswaith, bydant yn paentio’r drysau tu allan, a’r glwyd.
2. Nid oedd llawer o waith yn mynd ymlaen y tu allan yn y gaeaf am fod y dydd yn fyr. Byddai’r wraig yn gwnio’r dillad y plant (chotio’r), a gwau’r hosannau, ac hefyd siwmperau.
Ng.
1. Cinio dydd Sul oherwydd fod ganddynt gyw iâr neu gig fres [sic] ac amryw o lysiau. Ar hyd yr wythnos yr oeddynt yn cael bwyd mwy syml.
2. cenhin [sic], persli, wynwyn a safri.
3. cennin syfi, sibwn, a mint.
H.
1. Cawsai ymenyn i wneud o tua fis Mai i fis Medi, am fod y gwartheg allan yn pori, felly yr oedd ganddynt fwy o laeth.
b) Yr oedd y caws yn cael eu[sic] wneud pan oedd y llaeth a dim digon o hufen i wneud ymenyn. Cawsai eu [sic] wneud yn yr haf, ac wedyn eu [sic] storio erbyn y gaeaf.
c) Cawsant datws newydd tua fis Mai, ac hefyd llaeth enwyn am fod ymenyn yn cael ei wneud
ch) diwedd y Gwanwyn – sibwn, letys, berwr, ffa, pys,
Haf – moron, panas, a ffa ffrengig.
d) ‘Roedd y bara ceirch yn cael ei baratoi erbyn y cneifio, fel rhyw fwyd arbennig gyda bara ymenyn a chaws. Cawsai ei fwyta hefyd pan fyddai pobl ddieithr yn ymweld â’r teulu.
dd) Cedwi’r[sic] y rhain mewn ffordd arbennig erbyn y gaeaf.
[MS 1715_0004]
e) Bwyteid pysgod. Ceid rhai o’r môr mewn siop bysgod, ond deliwyd rhai mewn afonydd agos. Ceir un neu fwy o fathau o bysgod drwy’r flwyddyn.
f) cegddu, hadog, lleden, macrell – o’r môr.
brithyll, gwyniedyn ac eog – yn yr afonydd agos
ff) Bwytawsant gwningen wedi ei rhostio, berwi, neu mewn stiw. Yr oedd ysgyfarnog yn cael ei ystyried fel moethyn. Rhostiwyd ffesant.
I
a) Bwytawyd crempog ar Fawrth Ynyd ac amser benblwydd y feistres. – Chwerfor 23ain.
b) bwytawyd cig llo ar y pasg
c) Cynhaeaf gwair – berwi’r cig moch a serio y croen â siwgwr brown, tatws newydd, pys, wedyn digon o bwdin reis a chwrens, ac ar ôl y cyfan, yfant ddigon o gwrw sinsir o waith cartref.
ch) I swper ar ôl gorffen y cynhaeaf, cawsant gig oer, bara ymenyn, a bara brith.
d) gwŷdd, bara ymenyn, a llaeth.
dd) gwŷdd neu porc.
L
a) lladdwyd mochyn tua fis Tachwedd.
b)
c)
ch) saets, teim, persli, a cennin syfi, safri.
d) gwneud llawer o jam – mwyar, plums, gwsberins, cwrens coch a du.
dd) Na.
e) Byddant yn piclo wynwyn a bresych coch.
f) Cochwyd pysgod.
Ll.
1. bara llaeth, sucan, wyiau[sic].
2. rhosmari i annwyd ac hefyd blodau’r ysgawen.
[MS 1715_0005]
M. llaeth buwch, wyau ac uwd
N. 1) Berwi cig mochyn neu eidion
2)
O. Bara menyn, caws, cacennau – cacen ferem, a teisen lap.
P. a) gwneud bara planc, tato rhost a thato drwy’r pil.
Ph. a)
b)
R. 1) y wermod lwyd, y gamil, rhosmari
2) rhai – ee, eli eryrod.
[MS 1715_0006]
iii) Na
Rh.
1. swatio hwy
2. cathod a trapiau
3. holltu a’u hongian
4. camphor
5. mynd allan ar gwely plu unwaith y flwyddyn
S.
1.
2. Dechrau’r flwyddyn – gwneud siwt i’r gŵr.
3. Gwinio. Prynasant y gwlanen yn ffair Glyngaeaf.
4. a) ffatrioedd gwlan a’r marchnadoedd. b) gwely pluf
5.
6.
T
1. arian y wyau. Yr oedd y gŵr yn gweithio.
2. tê, swgwr [sic], blawd.
3. cael y defnydd yn y ffair a gwna’r teiliwr hwy
[MS 1715_0007]
iii) Na
Rh.
1. swatio hwy
2. cathod a trapiau
3. holltu a’u hongian
4. camphor
5. mynd allan a’r gwely plu unwaith y flwyddyn.
S.
1.
2. Dechrau’r flwyddyn – gwneud siwt i’r gŵr.
3. Gwinio. Prynasant y gwlanen yn ffair Glyngaeaf.
4. a) ffatrioedd gwlan a’r marchnadoedd. B) gwely pluf
5.
6.
T
1. arian y wyau. Yr oedd y gŵr yn gweithio.
2. tê, swgwr [sic], blawd.
3. cael y defnydd yn y ffair a gwna’r teiliwr hwy.
4. Cael eu gwneud gan seiri. Na.
Th.
1. Dillad hen am y plant; byw mewn tai bach – teuluoedd mawr iawn.
2. os byddai’r haf wedi bod yn wlyb a’r cynhaeaf wedi eu distriwio.
3. Oedd. Eu llosgi.
4. gwerthu wyau, ymenyn, cyw iar, gw^yddau a llaeth enwyn.
More items with these tags
Contact Us
To request take down or report racist, offensive or otherwise harmful content.
You must be logged in to leave a comment