Skip to main content

Dyfodol cynhwysol: model hyforddi ar gyfer casgliadau gwrth-hiliol

Description

A hwnnw wedi’i gomisiynu gan CILIP Cymru Wales fel rhan o gynllun tri cham, mae’r prosiect i greu casgliadau llyfrgell gwrth-hiliol yn ceisio sbarduno newid cadarnhaol yn y sector llyfrgelloedd. Mae’r gwaith ymchwil hwn yn canolbwyntio ar y cam cyntaf: datblygu rhaglen hyfforddi i lyfrgellwyr yng Nghymru. Rhaglen yw hon sydd wedi’i seilio ar adolygiad trylwyr o’r llenyddiaeth, ar ddadansoddi data, ac ar ddatblygu model hyfforddi cynhwysfawr, ac mae hi’n cyd-fynd ag amcanion Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru ac amcanion Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ill dau.

Nod y prosiect Casgliadau Llyfrgell Gwrth-hiliol yw helpu llyfrgellwyr i wella’u dealltwriaeth o hiliaeth sefydliadol a rhagfarn fewnol, a’u dealltwriaeth o effaith hynny ar arferion llyfrgelloedd. At hynny, byddan nhw’n dysgu strategaethau ac arferion effeithiol er mwyn hybu gwrth-hiliaeth mewn ffyrdd a fydd yn taro tant yn eu cymunedau a’u llyfrgelloedd lleol.

Nid yn unig y bydd y dull hwn o weithio yn helpu llyfrgellwyr i gyflawni’r Safonau yn y dyfodol, ond bydd hefyd yn sicrhau bod llyfrgelloedd yn cydymffurfio â’r Safonau ac ar ben hynny’n dod yn llefydd sy’n mynd ati’n rhagweithiol i hybu tegwch hiliol.

Owner:
CILIP
Creator:
CILIP
License information:
Item uploaded:
13/7/2023
Views:
288
Favourites:
0

Contact Us

To request take down or report racist, offensive or otherwise harmful content.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment