Content can be downloaded for non-commercial purposes, such as for personal use or in educational resources.
For commercial purposes please contact the copyright holder directly.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Description

William Hughes from Bow Street, Ceredigion, volunteered for the army in 1914 and served with the Royal Engineers. During the war he wrote a series of letters to a childhood friend, T I Rees (who was in the diplomatic service, based at the British embassy in Venezuela). In these letters, which were mostly written in Welsh, one can trace not only William's physical movements, but also how his mood and attitude towards the war changed. Transcript: Annwyl Gyfaill, Da gennyf ddyweud wrthyt fy mod wedi derbyn y cyfrolau oddi wrth Jack Edwards ac yn mwynhau eu cynnwys. Ydyw y mae yn ysgrifennydd hyfryd ar ol Shakespeare. Yr wyf wedi darllen Henry V ac wedi cael llawer o flas. Nawr yr wyf yn darllen y Tempest. Yr wyf yn fwy cynefin â'r Play yma. Mae Miranda fel meinwen yr hyfrytaf o'i oll gymeriadau. Hwyrach mae ei glendid fel portread o'r rhyw fenywaidd a hwnnw yn ei ystad dilychwin. Fe garwn ddod ar draws geneth yn debyg iddi. Credaf y byddai yn werth ymladd ychydig er mwyn cymeriad o'r fath. Ond credaf fod 'Imogen' yn Cymbeline gystal â hi. Wel beth yw dy farn am yr Ellmyn heddyw. Y mae wedi herio yr Unol Daleithiau o'r diwedd. Credaf na fydd yr Ellmyn yn llwyddiannus ac fe ddarfydda fel pob peth arall. Yr wyf wedi bod i lawr ac i fyny ychydig ar y front yma yn ystod y mis diweddaraf ond nid wyf wedi bod yn y ffosydd er yr wythfed ar hugain o Ragfyr hyd y 15ed o'r mis hwn. Yr wyf yn awr yn byw mewn dug-out - rhyw fil o lathenni tu ôl i'r Ellmyn. Bywyd annifyr yw eu bywyd y gaeaf hwn. Blinir ef beunydd gan ein ymddangosiad yn ei ffosydd a dygir nifer ohonynt nôl yn aml. Fe ga hyn effaith arno ac hyderaf pan y daw yr ymladd caled y byddwn wedi bwyta yr holl wroldeb a berthyn iddo. Deallaf fod Goronwy wedi bod yn anffortunus neu hwyrach yn ffortunus. Dyna fel y byddwn ni yn edrych ar bethau allan yma. Os bydd i un lwyddo i fynd i Loegr yn fyw y mae yn hynod ffortunus. Y mae Alser Lewis yn yr Hospital a'i gefn yn ddrwg. Credaf fod y gweddill yn iach am a wn i. Da gennyf ddweud wrthyt fy mod yn iach er caleted y tywydd. Yr ydym wedi cael rhew caled er ys tros pum wythnos ond y mae yn dadleth heddyw. Deallaf fod y Loan wedi bod yn hynod llwyddiannus. Disgwyliwn weld yr ymdech yn gorffen yr haf hwn. Byddai yn werth llawer pe gallet weld yr holl waith allan yma a'r modd y mae pethau'n mynd ymlaen. Yr wyf yn treulio deuddeg awr allan o 36 yn yr office yma. Rhyw fath o exchange lle y switchir wires i wahanol leoedd. Nawr mae rhywun yn galw am BD4 ar y busser yma. Mae y fyddin wedi ei chyfuno gyda Telephone Telegraphs. Dyma lines of Communication mae fel gwilym (?) gopa i brofi hyn. Mae message yn dod o'r War Office i'r front line mewn awr - unrhyw newydd o bwys y mae yma. A oes gennyt ryw obaith i ddyfod i'r Cyfandir hwn yn fuan? Hyderaf dy fod wedi gwella ac nad oes dim clefyd yn dy flino ar hyn o bryd. Nid wyf wedi bod adref eto er y disgwyliaf fynd bob dydd. Modd bynnag mae disgwyl i'r ymdrech hon ddiwedd y flwyddyn hon, ac y caf dy weld Apres la Guerre. Dy gyfaill W Hughes I wonder the U Boat get hold of this letter. God help him if ... shall none .... Kill the first Grim.

Do you have information to add to this item? Please leave a comment

Comments (0)

You must be logged in to leave a comment