Dewi Emrys
Description
Dewi Emrys (1881-1952). Bardd a aned yng Ngheinewydd, Cer., ond a fagwyd yn Rhosycaerau, Penf. Newyddiaduraeth oedd ei alwedigaeth gyntaf ond ar ôl astudio yng Ngholeg Presbyteraidd Caerfyrddin ordeiniwyd ef yn weinidog a bu'n gweinidogaethu yn Nowlais, Bwcle, Pontypridd a Llundain. Dychwelodd at newyddiadura yn 1918, gan fyw bywyd bohemaidd yn Llundain, ond ymsefydlodd yn Nhalgarreg, Cer., yn 1940. Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol 1926 a'r Gadair yn 1929, 1930, 1943, ac 1948; cyhoeddwyd rhai o'i gerddi arobryn megis 'Y Gan ni Chanwyd' (1929) ar ffurf pamffledyn. Yr oedd yn awdur dwy gyfrol o gerddi, Y Cwm Unig (1930) a Cerddi'r Bwthyn (1950); cyhoeddwyd y gyfrol goffa Wedi Storom (1965) wedi iddo farw. Ysgrifennodd hefyd gyfrol o ysgrifau (1937), llyfr ar y gynghanedd, Odl a Chynghanedd (1937), ac o dan yr enw David Emrys, gyfrol o gerddi yn Saesneg, Rhymes of the Road (1928). Fel golygydd y golofn farddol 'Y Babell Awen' yn Y Cymro (1936-52), yr oedd yn ddylanwad pwysig ar feirdd eraill a chyhoeddodd bigion o farddoniaeth ei ddisgyblion yn y gyfrol Cerddi'r Babell (1938). Er bod Dewi Emrys yn llenor toreithiog ac yn gymeriad lliwgar, nid oes llawer o werth parhaol i fawr o'i waith; yr enwocaf o'i gerddi yw 'Pwll Deri', a ysgrifennwyd yn nhafodiaith Gymraeg sir Benfro. Ysgrifennwyd cofiant y bardd gan Eluned Phillips (1971); gweler hefyd y nodyn bywgraffyddol gan D. Jacob Davies yn Wedi Storom (1965), y ddarlith gan T. Llew Jones (1981) a'r erthygl gan Donald Evans yn Deri o'n Daear Ni (gol. D. J Goronwy Evans, 1984). Daw'r wybodaeth o'r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru: Argraffiad Newydd (gol. Meic Stephens, Caerdydd 1997).
More items with these tags
Contact Us
To request take down or report racist, offensive or otherwise harmful content.
You must be logged in to leave a comment