arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government
  • Use stars to collect & save items A vector image of star to represent action to save this item   Login to save this item

Description

T. Rowland Hughes (1903 - 1949). Nofelydd a bardd. Fe'i ganed yn Llanberis, Caern., yn fab i chwarelwr. Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, lle y darllenodd Saesneg, ac yna bu'n dysgu am ddwy flynedd yn Aberdr, Morg. Wedi astudio am ddwy radd uwch ym Mangor a Choleg lesu, Rhydychen, cafodd swydd Darlithydd mewn Saesneg a Chymraeg yng Ngholeg Harlech yn 1930. Yna yn 1934 fe'i penodwyd yn Warden y Mary Ward Settlement, canolfan addysg oedolion yn Llundain, lle yr oedd ganddo hefyd gyfrifoldeb dros Theatr Fach Tavistock. Cafodd ei lethu gan bwysau'r gwaith gweinyddol a dychwelodd i Gymru yn 1935 fel cynhyrchydd rhaglenni nodwedd gyda'r BBC yng Nghaerdydd. Tua 1937 daeth yr arwyddion cyntaf ei fod yn dioddef oddi wrth yr afiechyd a'i lladdodd yn y diwedd, ond er i'r afiechyd waethygu'n raddol, arhosodd yn ei swydd hyd 1945. Oherwydd y modd y dioddefodd ei afiechyd y cyfeiriodd R. Williams Parry ato mewn englyn i gyfarch y nofelydd at ei ben blwydd yn 1948, englyn a gerfiwyd yn ddiweddarach ar ei garreg fedd, fel 'y dewra' o'n hawduron'. Fel bardd yr enwogodd T. Rowland Hughes ei hun gyntaf, trwy ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1937 am ei awdl 'Y Ffin', ac eto yn yr Eisteddfod Genedlaethol a ddarlledodd ar y radio yn 1940 am 'Pererinion'. Nid oedd ei unig gyfrol o farddoniaeth, Cn neu Ddwy (1948), er ei phoblogrwydd, yn ddigon arbennig i'w osod yn rheng flaenaf ein beirdd. Cyfansoddodd ddramu hefyd, gan gynnwys Y Ffordd (1945), sy'n seiliedig at helyntion Beca ac a gyhoeddwyd yn Gymraeg a Saesneg, a golygodd gyfrolau o straeon byrion. Y mae ei Storau Mawr y Byd (1936) yn cynnwys fersiynau o storau am Jason, Beowulf, Arthur, Branwen a C Chulainn. Ond fel awdur pum nofel yr haedda T Rowland Hughes le parhaol yn hanes llenyddiaeth Gymraeg. Ei nofelau yw O Law i Law (1943), William Jones (1944), Yr Ogof (1945), Chwalfa (1946) ac Y Cychwyn (1947). Tynnu ar ei atgofion ei hun, ac eiddo'i deulu a'i gydnabod, am ardaloedd y chwareli llechi yn ei sir enedigol a wna yn y rhan fwyaf o'i weithiau, er bod William Jones wedi ei lleoli yn ne Cymru ac Yr Ogof yn darlunio hanes Joseff o Arimathea. Y maent i gyd yn dangos dawn yr awdur i adrodd storau difyr a chreu cymeriadau cofiadwy, ynghyd 'i allu i gyfuno tristwch a hiwmor. Dichon i'w hynawsedd fel llenor gyfyngu rhywfaint ar ei weledigaeth a'i rwystro rhag syllu i ddyfnderoedd tywyllaf y natur ddynol, ond daeth yn agos at fawredd yn ei bortread o ddioddefaint y chwarelwyr a'u teuluoedd adeg Cload Allan y Penrhyn y nofel Chwalfa. Cyfieithwyd y pum nofel i'r Saesneg gan Richard Ruck. Lluniwyd cofiant i'r awdur gan Edward Rees (1968) ac y mae John Rowlands wedi cyfrannu cyfrol ar ei fywyd a'i waith i'r gyfres Writers of Wales (1975); gweler hefyd yr ysgrif ar nofelau T. Rowland Hughes gan Hugh Bevan yn Beirniadaeth Lenyddol (gol. B. F. Roberts, 1982) a chyfrol W. Gwyn Lewis yn y gyfres Bro a Bywyd (1990).

Comments (0)

You must be logged in to leave a comment