Dewi Emrys
Description
Gwenlyn Parry (1932-1991). Dramodydd. Fe'i ganed yn Neiniolen, Caern., a'i addysgu yn y Coleg Normal, Bangor. Dechreuodd ymddiddori yn y theatr tra oedd yn Llundain ac yr oedd Ryan Davies a Rhydderch Jones ymhlith ei gyfeillion yno. Ar l dychwelyd i Gymru i fod yn athro ym Methesda, Caern., dechreuodd ddod i'r amlwg yn y byd llenyddol ac enillodd wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn 1966 cafodd swydd gyda BBC Cymru a daeth yn ddiweddarach yn Brif Olygydd Sgriptiau. Ysgrifennodd lawer a chynhyrchodd nifer o raglenni poblogaidd ar gyfer y teledu megis Fo a Fe a Pobl y Cwm. Er bod cryn wreiddioldeb yn perthyn i'r dramau un act yn y gyfres Tair Drama (1965), yn ei ddramau hir y daeth Gwenlyn Parry o hyd i'w lais unigryw ei hun. Yr oedd y gyntaf o'r rhain, Saer Doliau (1966), yn ddieithr iawn i'r gynulleidfa Gymraeg oherwydd ei ddiffyg stori ac oherwydd y gellid ei dehongli mewn mwy nag un ffordd, ac am hyn labelwyd ei hawdur yn 'ddramodydd yr Abswrd'. Yn y dramau diweddarach, Ty ar y Tywod (1968), Y Ffin (1973), Y Twr (1978), Sal (1982) a Panto (1992), manteisiodd yn helaeth ar dechnegau gwrth-naturyddol y theatr ar ol y rhyfel, a gwelwyd dawn i ddyfeisio sefyllfaoedd anghyffredin o theatr bur. Er bod ei arddull yn anllenyddol o'i gymharu a dramodwyr cyfoes Cymraeg, profodd fod ganddo glust ardderchog ar gyfer deialog a thafodiaith. Yn Y Twr y gwelir pinacl ei ddawn greadigol. Cyflead ingol a geir yn hon o ysfa orffwyll dyn am ddringo grisiau amser, sy'n creu brwydr anghyfartal sy'n sicr o fethu. Ysgrifennwyd astudiaeth o ddramau Gwenlyn Parry gan Dewi Z. Phillips (1982; arg. diwygiedig, 1995); gweler hefyd y teyrngedau gan Harri Pritchard Jones a William R. Lewis yn Taliesin (cyf. LXXVI, Mawrth 1992). Daw'r wybodaeth o'r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru: Argraffiad Newydd (gol. Meic Stephens, Caerdydd 1997).
More items with these tags
Contact Us
To request take down or report racist, offensive or otherwise harmful content.
You must be logged in to leave a comment