Content can be downloaded for non-commercial purposes, such as for personal use or in educational resources.
For commercial purposes please contact the copyright holder directly.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Description
D. J Williams (1885-1970). Llenor. Fe'i ganed yn Rhydcymerau, Caerf., ardal a anfarwolir yn ei hunangofiant Hen Dy Ffarm (1953) ac Yn Chwech ar Hugain Oed (1959). Pan oedd yn un ar bymtheg oed aeth i Gwm Rhondda i fod yn lowr, profiad a adlewyrchir yn rhai o'i storiau byrion. Ar ol tua phedair blynedd yn y pyllau glo aeth i Ysgol Stephens yn Llanybydder, Caerf., ac i Ysgol yr Hen Goleg, Caerfyrddin, lle yr oedd Joseph Harry yn brifathro; yna aeth i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac i Goleg Iesu, Rhydychen, ac yn y ddau sefydliad olaf enillodd raddau. Bu'n athro yn Ysgol Lewis Pengam ac wedyn yn Ysgol Ramadeg Abergwaun, Penf., lle yr arhosodd nes iddo ymddeol yn 1945. Yr oedd ymysg sefydlwyr Plaid Cymru (bu'n gefnofwr y mudiad Llafur cyn hynny). Cymerodd ran, ynghyd a Saunders Lewis a Lewis Valentine, yn y weithred symbolaidd o losgi siediau'r ysgol fomio ym Mhenyberth yn 1936, ac o ganlyniad bu am naw mis yn Wormwood Scrubs. Ysgrifau a storiau byrion mewn cyfnodolion oedd ei weithiau llenyddol cyntaf, ac fe'u casglwyd yn y gyfrol Y Gaseg Ddu (gol. J. Gwyn Griffiths, 1970). Y mae'r pedair stori fer a geir yma yn fwy rhamantaidd a delfrydol eu dull na'r storiau a enillodd glod iddo'n ddiweddarach, ond nid juvenilia mohonynt. Ceir ynddynt y portreadau bywiog a'r sylwadaeth nwyfus-ysgafn sy'n nodweddu ei storiau gorau yn y gyfres driphlyg, Storiau'r Tir (1936, 1941, 1949). Ynghyd a Hen Dy Ffarm, ei gampwaith yn ddi-os yw Hen Wynebau (1934), llyfr o bortreadau o bobl ac anifeiliaid a gafodd yn ei fro enedigol. Yn ogystal a'r llyfrau hyn ysgrifennodd D. J. Williams lawer o erthyglau yn ymwneud a Chenedlaetholdeb a hefyd astudiaethau o Mazzini (1954) a George William Russell (1963) ac atgofion am ddyddai cynnar Plaid Cymru yn dwyn y teitl Codi'r Faner (1968). Yn y rhan fwyaf o'r gweithiau hyn gwelir bod ei hoffter o bortreadu pobl yn holl bwysig, yn arbennig dynion sy'n ymgorffori delfrydau am genedl a chymdeithas. Y weledigaeth a sbardunodd D. J. Williams drwy gydol ei oes ac yn ei holl lenydda oedd 'y filltir sgwar' o gwmpas ei darddle ef ei hun, cymdeithas fechan, glos, lle y mae gwerthoedd dynol yn dyrchafu pob unigolyn a lle y mae ysbryd o gydweithrediad bron yn reddf naturiol. Y mae cwlwm syniadol yn clymu ei holl weithiau nes eu gwneud yn undodn apelgar. Ymysg ei nodweddion amlwg fel llenor ceir hiwmor rhadlon, serch at anifeiliaid, yn arbennig at geffylau, parodrwydd i grwydro'n rhydd ac eto'n gyfrwys, dawn ddychanol sy'n fwy amlwg yn y storiau diweddar, ac arddull sydd o ran cystrawen yn llenyddol gywrain ond o ran geirfda yn pefrio gan ymadroddion lliwgar a dynnwyd o'i fro enedigol. Enynnodd D.J., fel yr adweinid y cymeriad hoffus hwn ledled Cymru, gariad ei gyd-wladwyr oherwydd ansawdd ei waith a'i ymroddiad i ddiywlliant ei genedl yn ei holl agweddau. Ceir astudiaeth o'i waith yn y gyfrol deyrnged (1969) sy'n cynnwys llyfryddiaeth gan David Jenkins; cafwyd llyfryddiaeth atodol gan Gareth Watts yn Y Gaseg Ddu (1970); gweler hefyd gyfrol Dafydd Jenkins yn y gyfres Writers of Wales (1973), achyfrol gyda lluniau yng nghyfres Bro a Bywyd (gol. J. Gwyn Griffiths, 1983). Cyhoeddwyd casgliad o gerddi er cof amdano yn y gyfrol Y Cawr o Rydcymerau (gol. D. H. Culpitt ac W. Leslie Richards, 1970). Daw'r wybodaeth o'r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru: Argraffiad Newydd (gol. Meic Stephens, Caerdydd 1997).
Do you have information to add to this item? Please leave a comment
Comments (0)
You must be logged in to leave a comment