Cwpan Rygbi’r Byd 2003
Description
Gorfoledd i Loegr, ond fflam y ddraig wedi cynnau
Roedd Awstralia yn lleoliad arbennig ar gyfer pumed
twrnamaint Cwpan Rygbi’r Byd, ond digon di-fflach
oedd pethau ar ddechrau’r gystadleuaeth. Prin iawn
oedd y canlyniadau annisgwyl, gyda tri mawr hemisffer
y de a ffefrynnau Ewrop, Lloegr a Ffrainc, am gyrraedd
y chwarteri’n ddidrafferth a phawb arall am y gorau i
ymuno â nhw.
Roedd tîm Cymru wedi curo Canada, Tonga a’r Eidal yn
eu tair gêm gyntaf i gyrraedd y rownd gogynderfynol.
Ar gyfer gêm olaf y grwˆ p dewisodd Steve Hansen dîm
‘gwan’ i herio Seland Newydd. Yn gwbl annisgwyl,
daeth y gystadleuaeth yn fyw wrth i Gymru chwarae
rygbi egnïol ac agored. Roedd Cymru ar y blaen ymhell
i’r ail hanner nes i Seland Newydd orffen yn gryf a
chipio buddugoliaeth o 53-37. Gydag awch yn chwarae
Cymru eto, doedd Hansen ddim am ddiffodd y fflam a
dewisodd dîm tebyg iawn i wynebu Lloegr yn y rownd
gogynderfynol.
Ar ôl ennill eu gemau grwˆp. yn gyfforddus, roedd y
Saeson wedi sefydlu eu hunain fesul gêm yn un o’r
ffefrynnau am y cwpan. Heb ddim i’w golli, chwaraeodd
Cymru o’r dechrau ag ysbryd timau Cymru’r gorffennol
ac ar yr hanner roedd yn edrych fel pe bai’r hen ffordd
Gymreig o chwarae am fod yn drech na Lloegr. Ond
newidiodd Clive Woodward y gêm yn llwyr drwy ddod â
Mike Catt i’r cae. Yn raddol, daeth cicio cywir Catt a
Jonny Wilkinson â Lloegr yn ôl i’r gêm ac wedi brwydr
arwrol, Lloegr aeth ymlaen i’r rownd gynderfynol.
Diolch i gapteiniaeth aruthrol Martin Johnson a
dylanwad cyson Wilkinson, curodd Lloegr De Affrica yn y
rownd gynderfynol yn Perth. Yn y rownd derfynol, yn
eiliadau olaf amser ychwanegol, ciciodd troed chwith
Wilkinson y gôl adlam i guro Awstralia a selio lle’r
Saeson yn y llyfrau hanes. Arweiniodd dull pasio cyflym
Cymru yn erbyn Seland Newydd a Lloegr at arddull
chwarae a enillodd y Gamp Lawn yn 2005 – am y tro
cyntaf ers 27 mlynedd.
More items with these tags
Contact Us
To request take down or report racist, offensive or otherwise harmful content.
You must be logged in to leave a comment