Content can be downloaded for non-commercial purposes, such as for personal use or in educational resources.
For commercial purposes please contact the copyright holder directly.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Description

Poster Neges Heddwch ac Ewyllys Da 1981.
Themâu: 60ain neges, ‘Blwyddyn Rhyngwladol y Methedig’, cymorth i’r anabl ac adlewyrchu ar ein personau ni ein hunain, lluniwyd gan Aelwyd ym Mhenllyn, ar ffurf sgwrs ar ffurf cerdd rhwng yr Anabl a’r Iach, sylweddoli fod modd i’r anabl fwynhau bywyd, rhoi ei ffydd mewn Duw, pobl abl yn grwgnach ac yn medru gweld y byd yn llwm. Dyfyniad: "Iach: Byd creulon yw hwn wrthyt ti a dy debyg. Mae’n siŵr fod y dyddiau’n ymddangos yn llwm; ‘Rwyf fi mewn llawn iechyd, ac eto caf ddigon Ar fyd mor ddigroeso, a’i feichiau mor drwm. Anabl: Caf weithiau deimladau o hunan-dosturi, gan ofyn paham y ces i’r fath ffawd? Ond yna daw’r heulwen drwy’r cwbl i’m llonni, Wrth weld y daioni o’m cwmpas, fy mrawd.”

Comments (0)

You must be logged in to leave a comment