Hen Emynau Llafar Gwlad: 'Fy enaid bach a hedws / At ddrws yr eglwys wen ... '

Items in this story:

This story is only available in Welsh:

 

Marw a chladdu a chodi ryw ddydd.

Mewn coffin cul o bren ca’i fod,
Heb allu symud llaw na thrôd,
A’m corff yn llawn o bryfed byw,
A’m henaid bach lle mynno Duw.

Llsg. AWC 2868/2, t. 18. Buddug Morris, Llanarmon Dyffryn Ceiriog. Gw. hefyd Llafar Gwlad, rhif 13, t. 16. Pennill beddargraff a gofnodwyd mewn sawl ardal, gyda pheth amrywiadau yn y llinell gyntaf. Er enghraifft, ‘Mewn coffin byr a chul caf fod ...’ (Tâp AWC 7521. David Griffiths, Capel Isaac). ‘Mewn coffin cul o bren cei fod ...’ sydd gan Tom Jones, Trealaw, yn ei gyfres o erthyglau, ‘Llên Gwerin Morgannwg’ (Y Darian, 21 Ion. 1926). Gan James Williams, Cefngorwydd, Brycheiniog, fodd bynnag, y ceir yr amrywiad mwyaf arwyddocaol: ‘[Mewn] coffin cul ar fyr ca’i fod ...’ (Tâp AWC 5008).

* * *

Cofia ddyn wrth fyned heibio,
Fel tydi, myfi a fuo;
Fel myfi, tydi a ddeui;
Cofia ddyn mai marw fyddi.

Llsg. AWC 2868/3. Elizabeth Reynolds, Brynhoffnant, Ceredigion. Pennill beddargraffiadol poblogaidd eto. Dyma un amrywiad arno:

Cofia ffrind wrth fyned heibio,
Lle rwyt tithau, finna fuo;
Lle rwyf innau, tithau fyddi,
Cofia ffrind mai marw fyddi.

O gasgliad Elin Owen, Cricieth. Clywodd gan Dafydd Jones, Aber-erch, sir Gaernarfon, gynt o’r Ffôr.

* * *

O, hen ac ieuanc, bach a mawr,
Sy’n mynd i roi fy nghorff i lawr;
Ar hyd y ffordd myfyriwch chwi
Pwy nesa roir mewn coffin du.

Llsg. AWC 701 yng nghasgliad y Parchg William Rhys Jones, ‘Gwenith Gwyn’, ar gadw yn LlGC: Toriadau o golofn wythnosol Gwenith Gwyn yn Cennad y Barri ac Amserau Bro Morgannwg, 4 Ionawr 1924 - 4 Medi 1925.

* * *

Ffarwel gymdogion call a ffôl,
Eich gadael wnes i gyd ar ôl;
Fe ddeuwch chwithau maes o law
I’ch cuddio gan y gaib a’r rhaw.

Tâp AWC 7521. David Griffiths, Capel Isaac. Fel gyda’r pennill uchod, ‘O, hen ac ieuanc, bach a mawr ...’, yr oedd hi’n gyffredin gynt i ganu’r pennill hwn ar ddydd yr angladd: ‘On nhw’n arfer canu emyn - on nhw’n mynd â’r coffin, ’i ddodi fe ar elor a’i roi tu fâs y tŷ. A cyn on nhw’n cychwyn, on nhw’n canu emyn. A dyma on nhw’n ganu: “Ffarwel gymdogion call a ffôl ...” ’

* * *

O, codwch fi, fy mhedwar ffrind,
O’r tŷ i’r bedd sydd raid i’m fynd;
A rhowch fy nghorff mewn daear lawr,
Hyd fore’r Atgyfodiad mawr.

Catrin Stevens: Cligieth, C’nebrwng ac Angladd (Gwasg Carreg Gwalch, 1987), t. 29.

* * *

Nid yw ein bywyd ni ond brou,
Fel edau wlân ar hanner ei throi;
Nesu’n nes yr ŷm i’r Farn -
Awn oddi yma ar bedwar carn.

O gasgliad Elin Owen, Cricieth. ‘Clywyd gan “hen gymeriad hynod” yn Soar y Mynydd, c. 1908.’ Codwyd o’r Welsh Gazette, heb nodi’r dyddiad. Ond gw. 23 Ion. 1902 am gofnod o’r pennill: ‘Anghysur sy’n y teulu hwn ...’

* * *

Brynhawngwaith ês oddi yma mâs,
Heb feddwl cwrdd ag ange glas;
Rhoist imi gledd cyn dyfod nôl,
Heb roi ffarwel i neb ar ôl.

Tâp AWC 5008. James Williams, Llwyn Celyn, Cefngorwydd, Brycheiniog. Pennill a gyfansoddwyd, yn ôl James Williams, gan ‘wŷr Tirabad ... dinon o Gapel Hermon’, i wraig o’r enw Nansi, Twyn Rhudd. ‘Wel, cawd hi ar y mynydd [Epynt] wedi starfo ... starfo ar y mynydd wrth fynd a g’lân at y cribe i Ffatri Pen-rhiw.’

* * *

Angau, angau, beth dâl gwingo,
     Ti sydd ben mewn bryn a bro;
Gelwaist gyda’r teulu yma,
     Fel concwerwr ar dy dro.
Rwyt ti’n atal dim o’th ergyd,
     Torri ieuanc, hardd eu gwedd,
Rhaid i’r truan fynd i’r graean,
     Rhaid bob oedran fynd i’r bedd.

Tâp AWC 7520. David Griffiths, Capel Isaac, sir Gaerfyrddin. ‘Chi’n gwbod, odd hi’n arferiad yng Nghymru slawer dydd, nosweth cyn yr angladd, i gynnal cwrdd gweddi ar yr aelwyd ... Gwylnos on nhw’n galw hwn.’ Un waith erioed
y bu David Griffiths mewn gwylnos, a hynny ar fferm Parc, Llanfynydd. Ymfudodd y ddau fab i Ganada, tua’r flwyddyn 1926. Aeth Tom James i ffermio a David James yn drydanwr. Ond cafodd David ei drydaneiddio, a bu farw. Yr union amser yr oedd ei gorff yn cael ei gladdu yng Nghanada, sef nos Sadwrn, 1 Rhagfyr 1932, am naw o’r gloch yng Nghymru, ‘fe benderfynon nhw gael cwrdd gweddi ar aelwyd ’i dad a’i fam.’ Ac meddai David Griffiths wrth ddisgrifio’r noson: ‘Wel, dyna un o’r cyrddau gweddi rhyfedda fues i ynddo ariôd. Tomos Griffiths ddyfynodd yr emyn bach yne: “Angau, angau, beth dâl gwingo ...” Ma hwnna’n dda, ond yw e?’ Roedd Thomas Griffiths, Cwm Gelli Fawr, Llanfynydd, yn aelod, fel David Griffiths yntau, yng Nghapel y Bedyddwyr, Amor, Llanfynydd. Clywodd David Griffiths ef yn adrodd cruglwyth o ‘hen emynau’ ar ei gof, emynau megis: ‘Fe wedodd Anghrediniaeth, / Do wrthyf lawer gwaith ...’

* * *

Ti ddaear o ddaear, ystyria mewn braw,
Mai daear i ddaear yn fuan a ddaw;
A daear mewn daear rhaid aros bob darn,
Nes daear o ddaear gyfodir i Farn.

Un o’r penillion a adroddwyd imi gan fy nghymydog, y diweddar Idwal Hughes, Cerrigydrudion, sir Ddinbych. Cefais yr un fersiwn gan Catherine Hughes, Llanwrtyd. Ond yr oedd ganddi hi hefyd amrywiad diddorol iawn ar y pennill hwn:

O, bridd i bridd, ystyria’n brudd,
     Rhoi pridd mewn pridd i orwedd;
Ac erys pridd mewn pridd nes bydd
     Y pridd o’r pridd yn codi.

Y mae’n lled debygol (a barnu oddi wrth y cam-odli) nad dyma ffurf wreiddiol y pennill uchod. Cymharer ef hefyd â’r pennill pert, onid clyfar, a ganlyn:

Gwnaed pridd o bridd i deimlo
     A rhodio o bridd y llawr;
Mae pridd ar bridd yn gwledda,
     Am hir flynyddoedd mawr;
Rhoed pridd mewn pridd i orwedd
     Ar waelod bedd yn gudd;
Daw’r pridd o’r pridd i fyny
     Wrth lais yr utgorn clir.

Cofnodwyd gennyf yn Uwchaled, sir Ddinbych, c. 1965-70. Sylwer ar enghraifft bellach o odl Wyddelig: gudd (gidd) - clir.

* * *

Fe nghleddir inna mâs o law
     Â chaib a raw a phicish;
Os na cha’i nabod Crist yn frawd,
     ’I fydd yn dlawd echrytus.

O, cariwch fi, fy medwar ffrind,
O’r tŷ i’r bedd rwy’n gorfod mynd;
Gadewch im orwedd yn y pridd
Nes delo’r atgyfodiad ddydd.

Tâp AWC 5842. T W Thomas (1901-99), Pen-tyrch, Morgannwg. Pan oedd T W Thomas (Thomas William Thomas, ‘Ab Eos’) yn fachgen ac yn byw yng Ngwaelod-y-Garth, Morgannwg, arferai Mrs Mari Edmunds, Tŷ Newydd, alw heibio’i gartref yn Restar Bacwâi yn aml ac yr oedd ganddo gof byw iawn am ddiwrnod ei hangladd:

‘Ond, beth bynnag, fe fu Mrs Edmunds farw. Odd Nhad yn digwdd bod yn wael ar y pryd, a fe ofynnodd i fi - on i rw ugan ôd, falla - i fynd i’r anglodd yn ’i le fe. Odd dipyn o ira ar y llawr a cherddad a Waelod y Garth lan i ben y mynydd i gyfeiriad Refal Isha ’na. Cyrradd iard y ffarm, ac odd ’na rw dri ne bedwar o weision fferm y cylch yno - odd i dŵydd mor gas - ’ma William Edmunds, mab yr hen wraig, yn dod mlân ata i a dipyn o bapur yn ’i law.
‘Tomos Wiliam’, mydda fa, ‘odd ’y Mam yn dymuno i ni gianu’r ddau bennill ’yn’, mydda fa, ‘a ôs neb ’ma i bitsho, ma’n well i ti bitsho’, mydda fa. Wel, on i yriôd wedi pitsho yn ’y mywyd. A fi etho i i’r glywty i drio, [a] fi ddetho ar draws ‘Yr Hen Ganfad’, wrth gwrs, odd yn digwdd bod yn ytab y gira. A dyma odd y gira: “Fe ngleddir inna mâs o law ...’ Ma’n debyg odd yr hen fenyw’n hen iawn pryd hyn, ond bo hi’n eu cofio nw oddi ar yr ymsar yr odd ’i’n grotan ifanc yn Llantrishant.’

Ni chlywodd T W Thomas yr un o’r ddau bennill gan neb arall. Y mae, fodd bynnag, gofnod ohonynt mewn rhannau eraill o Gymru, yn arbennig y pennill cyntaf. Fersiwn Mary Jones, Cross Inn, Ceredigion, ar bedwaredd linell y pennill cyntaf yw: ‘Mi fyddai’n ddyn truenus’. (Llsg. AWC 2868/1, t. 38.) ‘Fe’m cleddir i rhyw ddydd a ddaw’ yw’r geiriau sydd gan Elin Owen, Cricieth (Casgliad o emynau yn AWC), a’r drydedd linell ganddi hi yw: ‘Os na chaf Iesu i mi’n rhan ...’ Ychwanegodd hi hefyd y nodyn a ganlyn: ‘Myfyr Wyn o Brestatyn yn clywed hen wraig yn ei adrodd “yn ddiweddar”. Clywodd y pennill hwn hefyd, a genid ar ‘Yr Hen Ganfed, adeg y cynhaeaf.’ Fe sylwn, wrth gwrs, fod mesur yr ail bennill yn gwbl wahanol i’r un cyntaf, ac y mae’n dra thebyg mai fel dau bennill ar wahân y dylid eu hystyried.

* * *

Fy enaid bach a hedws
     At ddrws yr eglwys wen,
Ac yno fe a safws,
     A gwaeddws nerth ei ben:
‘O, gorff, a wyt ti’n cysgu,
     A finnau mewn fath bo’n?
Gwae imi gael fy rhoddi
     Erioed rhwng cig a chro’n.’

The Cambrian, cyf. 2 (1882), t. 252. Adroddwyd gan Gymro mewn ‘Prayer Meeting in a little mission chapel in the city of C- [yn America].’ Pan ofynnwyd iddo ‘Ble ddiawl cest ti’r fath bennill â hwnna?’ atebodd: ‘Glywes i hwnna yn cael ’i ganu ganwaith yn sir Aberteifi yco, pan own i’n fachgen.’ Gw. ymhellach: Tegwyn Jones, Ar Dafod Gwerin. Penillion Bob Dydd (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 2004), t. 266.

* * *

Doed Angau pryd y delo
     I daro’r tŷ i lawr,
Rhois imi bob rhyw addurn,
     Cyn mynd i’r siwrne fawr,
Fel gallaf weiddi allan,
     Yng ngwyneb angau hy:
Bod marw i mi yn elw
     A Christ yn eiddo i mi.

Tâp AWC 3923. Ann Evans, Cross Inn, Ceredigion. Recordiwyd: 20.vii.1973. Ganed: 3.vi.1893.

* * *

Os yw bywyd dyn yn rhodd,
Mae marw hefyd yr un modd;
Un peth sydd yn ddigon eglur,
Cawn chwarae teg gan awdur natur.

Llsg. AWC 2868/1. Mary Jones, Cross Inn, Ceredigion. Clywodd gan Ann Evans, Cross Inn.

* * *

Daw cerbyd tragwyddoldeb
     Rhyw ddiwrnod i fy ôl,
A minnau hedaf iddo -
     O’r siwrnai ni ddof nôl.

Llsg. AWC 2868/1, t. 6. Mary Jones, Cross Inn, Ceredigion. Cyfeiriodd hefyd at ‘gymeriad o ardal Blaenpennal’, Ceredigion, a oedd un tro wedi rhoi cynnig ar adrodd y pennill hwn yn y seiat, ac fel hyn y dywedodd y drydedd linell: ‘A minnau jwmpaf iddo ...’

* * *

Mae angau fel medelwr,
     A’i gleddyf llym mewn llaw,
Yn medi, neu greu cynnwrf,
     A rhoddi bro mewn braw;
Mae yn y byd er Adda,
     A medi mae o hyd,
Ac ni bydd diwedd arno
     Nes medi’r maes i gyd.

Tâp AWC 5071. Y Parchg William Morris, Caernarfon. Yn fersiwn Evan Jones, Ty’n-y-pant, Llanwrtyd (Llsg. AWC 1793/517, t.5), dyma eiriau llinell 1, 2, 5 a 7: ‘A’i gryman llym mewn llaw / Yn medi ac yn difa ... / Mae ar y maes er Adda / A gorffwys nid oes iddo ...’

* * *

Afon fawr yw afon angau,
     Rhwng dau fyd mae rhediad hon;
Sŵn ei dŵr yw’r blin gystuddiau
     Gwrdda’i ar y ddaear hon.
Yn ei chanol byddai’n fuan,
     Yn yr ymdrech fwya ’rioed;
O, am nabod Iesu’n briod,
     Fel bo’r gwaelod dan fy nhroed.

Llsg. AWC 2868/3. Elizabeth Reynolds, Brynhoffnant, Ceredigion. Mewn un fersiwn arall a gofnodwyd o’r emyn hwn, dyma ffurf y geiriau:

Afon fawr sy raid mynd trwyddi,
     Rhwng dau fyd mae rhediad hon,
Sŵn ei dŵr yw’r blin gystuddiau
     Gwrddir ar y ddaear hon.
Yn ei thonau byddai’n fuan,
     Mewn cyfyngder mwya ’rioed;
O, am nabod Iesu’n sylfaen,
     Fel bo’r gwaelod dan fy nhroed.

Llsg. AWC 2868/2, t. 3. Buddug Morris, Llanarmon Dyffryn Ceiriog.

* * *

Hen afon yr Iorddonen,
     Rhaid imi groesi hon,
Wrth feddwl am ei thonnau
     Mae arswyd dan fy mron.
Ond im gael nabod Iesu,
     A’m carodd cyn fy mod,
Af drwyddi’n ddigon tawel
     A’r gwaelod dan fy nhro’d.

Llsg. AWC 2868/3. Elizabeth Reynolds, Brynhoffnant, Ceredigion. Cyhoeddwyd y pennill yn ddienw, er enghraifft, yn Y Caniedydd Cynulleidfaol (Undeb yr Annibynwyr Cymreig, 1904), rhif 452. Cymharer hefyd y pennill a ganlyn.

Hen afon Iorddonen
     Raid groesi’n ddi-lai,
Wrth feddwl mynd drwyddi,
     Mae dychryn ar rai;
Does raid i’r duwiolion
     Ddim ofni’r un braw,
Mae gras ar lan yma,
     A Christ ar lan draw.

Llsg. AWC 1793/514. Evan Jones, Ty’n-y-pant, Llanwrtyd.

* * *

Ar fy siwrne rwyf ers dyddiau,
     Tua’r bryniau rwyf am ffoi,
Er mor anhawdd tynnu i fyny,
     Byth yn ôl rwy’n meddwl troi.
Gwell yw mynd trwy orthrymderau
     I mewn i dir y bywyd draw,
Na bod ar wastadedd Sodom
     Yn y storom fawr a ddaw.

Llsg. AWC 1793/514, t. 13. Evan Jones, Ty’n-y-pant, Llanwrtyd. ‘Hoff bennill Bili’r Mashwn, Tirgarw.’

* * *

A oes neb o’m hen gyfeillion
     A ddaw’n ddiddig gyda mi,
Ac a orwedd wrth fy ochor
     Obry yn y ddaear ddu?

Llsg. AWC 1793, t. 56. Evan Jones, Ty’n-y-pant, Llanwrtyd. ‘Y Parchg Samuel Price, Penybont-ar-Ogwr, pan yn fyfyriwr yng Nghaerfyrddin, a gafodd gyhoeddiad i bregethu ar y Sul ym Mhantycelyn, Abergwesyn, a’r diwrnod hwnnw, mae’n debyg ei fod yn teimlo yn lled wan, ac ofnai nad oedd Duw wedi ei alw at y gwaith o bregethu, yr hyn a effeithiodd yn drwm ar ei feddwl. Y noson honno, yr oedd ei dad yn pregethu yn Llwynsheli [tŷ fferm rhwng Llanwrtyd a Beulah], a daeth yntau heibio yno yn ôl i’w wrando, a chynigiodd ddechreu’r oedfa iddo, ac felly y bu. Rhoddodd y pennill yma allan i’w ganu: ‘A oes neb o’m hen gyfeillion ...’ Wrth ganu’r pennill torrodd diwygiad allan. Aeth y floedd trwy y tŷ o’r bron a pharhaodd felly am fisoedd yn yr ardal. Tyma ddechreuad diwygiad y flwyddyn 1777.’

* * *

Ffarwel rieni annwyl,
     A theulu oll i gyd,
Daeth angau i fy mofyn
     Yn gynnar iawn o’r byd;
Does fan yn well i aros,
     Na’r ddaear imi mwy,
Pan godo teulu’r ddaear,
     Caf godi gyda hwy.

Llsg. AWC 1793/517, t. 4. Evan Jones, Ty’n-y-pant, Llanwrtyd.

* * *

Deffroir fy nghysglyd lwch
     Pan genir Utgorn Duw,
Daw carcharorion angau
     I gyd i fyny’n fyw.

Llsg. AWC 1793/514, t. 10. Evan Jones, Ty’n-y-pant, Llanwrtyd.

* * *

Dyw’n bywyd ni ond byr a brou,
Fel ede wlân fo heb ei throi;
Nid yw ein cyrff na phres na harn -
Ni awn oddi yma ar bedwar carn.

Fy mhlant a’m hwyrion gwelwch fi
Mewn amwisg wen a choffin du,
Ac elor bren yn dod i’m hôl,
O’r ymdaith hon ddo’i byth yn ôl.

Llsg. AWC 1793/514. t. 28. Evan Jones, Ty’n-y-pant, Llanwrtyd. ‘Adroddai Billy Jones o’r Dalar y ddau bennill [hyn], a dywedai iddynt gael eu rhoddi allan mewn angladdau yng Nghwm Towi yn yr hen amser.’

* * *

Nac ymffrostiwn yn yfory
     Rhag ein siomi cyn yr hwyr;
Beth a ddigwydd mewn diwrnod
     Nid oes neb ond Duw a ŵyr.
         Pob diwrnod
Dydd i angau weithio yw.

Llsg. AWC 1793/517, t. 3. Evan Jones, Ty’n-y-pant, Llanwrtyd. Pennill yn seiliedig ar Diarhebion 27:1. ‘Nac ymffrostia o’r dydd yfory, canys ni wyddost beth a ddigwydd mewn diwrnod.’ Y mae’r pennill yn ddienw gan Gomer (Casgliad o Hymnau, 1821, rhif 554).

* * *

Mae y dail yn awr yn syrthio
     ’N fynych oddi ar y co’d,
Wrth eu gweld rwyf innau’n cofio
     Fod fy nghodwm innau’n dod.
Cyn y gwelir coed y meusydd
     Eto yn eu harddwisg ddu,
Fe fydd miloedd, ’fallai finnau,
     Yn y bedd yn wael eu llu.

Llsg. AWC 1793/514, t. 8. Evan Jones, Ty’n-y-pant, Llanwrtyd. ‘Hen bennill ar syrthiad y dail, dywedir ei fod yn cael ei roi allan a’i ganu mewn cyfarfodydd gweddi flynyddoedd yn ôl.’

* * *

Dyma bennill arall a ganwyd gynt ar ddiwrnod y claddu: ‘emyn wrth godi angladd’. Cyfeirir yn y llinell gyntaf at y ‘ceffyl pren’, sef yr elor.

Ceffyl pren sydd imi’n gymwys,
Ar ei bedair troed mae’n gorffwys;
Dim ond pedwar o’m ffrins nesa’
Ddaw at y drws i ’nghwnnu’n gynta’,
A chrys gwyn yn dynn amdana’
A mynd tua’r bedd a’m traed ymlaena’.

Cyfaill yr Aelwyd, cyf. 2 (1882), t. 244.

* * *

Cytshiwch yn y coffin a cerwch i ffwrdd,
Hibo’r tŷ tafarn a hibo’r tŷ cwrdd;
Dros yr hen sticil, mâs i’r hewl fawr,
Mewn i’r hen fynwent a dodwch e lawr.

Tâp AWC 7521. David Griffiths, Capel Isaac. Clywodd mewn darlith gan y Parchg Jiwbili Young.