Dai Hopkins y Chwaraewr Rygbi yn Mynd i'r Nefoedd
Items in this story:
By W. R. Evans, Fishguard, Pembrokeshire
This story is only available in Welsh:
O, ie. Ie. Ie. Ma ’na storïe diddorol iawn am y nefoedd, yndôs e? Alle bod hon, dwi ’im yn siŵr a galle hon, ŷch chi’n sôn am rai storïe sy’n weddol gyffredin nawr. Weden i mai stori i Gymru yw hon, os ga i ddweud ’ny. Odd ’na hen fachan o’r enw Dai Hopkins, ŷch chi weld, hen chwaraewr rygbi. Wedi cal cap i Gymru unwaith. Ond, yn anffodus, fe gâs ’i ddanfon oddiar y câ, am chware brwnt, yndife, yn y gêm ’ma. A pan gyrhaeddodd Dai Hopkins y nefodd, a siarad â’r boi wrth y drws:
‘Beth yw’ch enw chi?’ medde’r boi.
‘Dai Hopkins’, medde fe.
‘A, Cymro ŷch chi?’
‘Ie.’
‘Arhoswch funud nawr. Fuoch chi ’im yn whare rygbi i Gymru?’
‘Do’, medde Dai, ‘do, do, do.’
‘A os wy’n iawn, fe gesoch chi’ch danfon oddiar y câ hefyd am chware brwnt.’
‘Do, ma rhaid i fi gyfadde, unwaith’, medde Dai, ‘do, ond cofiwch, fe gês i faddeuant ar ôl ’ny. A unwaith ddigwyddodd hyn.’
‘O.’ A dyma’r dyn ’ma wrth y drws, ŷch chi gwel, yn rhyw edrych o gwmpas i weld a odd rhywun ’na, yntife. ‘O’, medde fe, ‘go on, cerwch miwn, cerwch miwn.’ A ’ma Dai miwn. A pan gyrhaeddodd Dai i’r nefodd a gweld rhai o’i ffrindie, Duw! ma rheini’n cal sioc ofnadw.
‘Wel, Dai Hopkins’, medden nhw, ‘shwd yn y byd ffindiest ti dy ffordd miwn ffor hyn?’
‘O, dim trwbwl bois bach, dim trwbwl.’
‘Paid â siarad! pwy dim trwbwl?’
‘Na, dim trwbwl o gwbwl’, medde. ‘Y boi wrth y drws, Pedr, ’chan. Pedr gadawodd fi miwn.’
‘Paid â siarad nonsens’, medde fe llall, ‘’achan, dim Pedr yw hwnna. Dewi Sant yw hwnna, ’chan!’
Dwi meddwl bod honna’n stori dda iawn, o safbwynt Cymro, yn dyw hi. Ma meddeuant i chi am unrywbeth, os odych chi wedi whare i Gymru.
Tâp: AWC 2589. Recordiwyd: 5.xi.1969, gan Robin Gwyndaf.
Storïwr: W R Evans (1910-1991), Abergwaun, sir Benfro. Ganed yng Nglyn Saith Maen, Mynachlog-ddu, sir Benfro. Bu’n athro ysgol, yn ddarlithydd yng Ngholeg Addysg Y Barri, ac yn Drefnydd Iaith ac yn Arolygwr Ysgolion yn sir Benfro. Bu am flynyddoedd yn arweinydd parti o gantorion, ‘Bois y Frenni’, a oedd yn arbenigo mewn adloniant ysgafn a pherfformio mewn cyngherddau a nosweithiau llawen. Cyhoeddodd gyfrolau o farddoniaeth, ac yr oedd yn adnabyddus am ei ddawn ddigrif ar lafar ac mewn print. Am hanes ei fywyd, gw. ei hunangofiant Fi yw Hwn (Gomer, 1980).
Credai W R Evans iddo glywed y stori hon ar ddechrau'r chwedegau yng nghyfnod Caerdydd a’r Barri wrth ‘gwmnïa tua Caerdydd ’na, ar ôl gêm o rygbi ... Dyna’r math o gwmni ... athrawon, falle, arolygwyr ysgolion.’ Cofiodd hefyd iddo glywed Carwyn James, hyfforddwr enwog Llanelli a’r Llewod, yn dweud yr un stori yn Saesneg, fel gŵr gwadd mewn cinio rygbi, wrth fyfyrwyr yng Ngholeg Addysg y Barri. Adroddwyd fersiwn gynharach o’r stori gan W R Evans ar dâp AWC 1456 (rec. 19.i.1967). Yn y fersiwn hwnnw mae’r storïwr yn disgrifio Dai Hopkins fel ‘hen greadur odd wedi chware droeon i Gymru, forward mawr odd e, ac un o’r forwards ’ma odd yn hoff iawn o ddefnyddio’i ddyrne. Colli dipyn o’i dymer, a mewn rhyw gêm International fe ddanfonwyd yr hen greadur ’ma o’r cae. A gafodd enw drwg iawn am bod hyn wedi digwydd, yndife.’