Y Dyn a Sgrifennodd Lythyr Ato'i Hunan!
Items in this story:
By W. R. Evans, Fishguard, Pembrokeshire
This story is only available in Welsh:
Ond sut gawsoch chi afel yn y stori yne?
Fe glywes i bentwr o rhein ar ôl y Rhyfel dwetha. Storïe rhyfedd iawn, chi (gw)bod, y storïe hollol ddisynnwyr ’ma. Stori arall wedyn am foi odd dipyn bach yn – ddim yn hwylus iawn – a’r peth wedi mynd i whare ar ’i feddwl e, chi’n gwbod. Wedi mynd dipyn bach yn isel ysbryd, a bach yn rhyfedd ’i feddwl. A odd y pregethwr wedi galw i weld e sawl tro, a odd e ddim yn neud fowr o sylw o’r pregethwr. Ac un dwrnod, ma’r pregethwr mynd miwn, a ma fe’n gweld y boi ’ma, yn brysur iawn yn sgrifennu, chi’n gwbod, ar garlam wyllt, sgwennu. A’r pregethwr wrth ’i fodd nawr, meddwl bod y dyn ’ma ’di gwella digon, bod e’n galler ysgrifennu, yndife.
‘O, shwd ŷch chi heddi, John?’
‘Da iawn diolch’, medde John, ac yn cadw mlân i sgrifennu, chi’n gwbod.
‘Dwi’n gweld bo chi’n sgrifennu heddi.’
‘Odw’, medde fe.
‘Wel, gwedwch wrtho i John, be chi’n sgrifennu?’
‘Llythyr’, medde fe.
‘O, diddorol iawn. Da iawn. Ŷch chi’n sgrifennu llythyr. Gwedwch wrtho i, at bwy chi’n sgrifennu’r llythyr, ’tê?’
‘Ata i’n hunan’, medde fe.
‘O, ie, ie. Diddorol iawn. Wel, gwedwch wrtho i nawrte, John, gan bo chi’n sgrifennu llythyr atoch chi’ch hunan, beth ŷch chi’n weud yn y llythyr, ’tê?’
‘Sa i’n gwbod ’to’, medde fe, ‘fory fydda i’n gal e.’
Tâp: AWC 2589. Recordiwyd: 5.xi.1969, gan Robin Gwyndaf.
Storïwr: W R Evans (1910-1991), sir Benfro. Ganed yng Nglyn Saith Maen, Mynachlog-ddu, sir Benfro. Bu’n athro ysgol, yn ddarlithydd yng Ngholeg Addysg Y Barri, ac yn Drefnydd Iaith ac yn Arolygwr Ysgolion yn sir Benfro. Bu am flynyddoedd yn arweinydd parti o gantorion, ‘Bois y Frenni’, a oedd yn arbenigo mewn adloniant ysgafn a pherfformio mewn cyngherddau a nosweithiau llawen. Cyhoeddodd gyfrolau o farddoniaeth ac yr oedd yn adnabyddus am ei ddawn ddigrif ar lafar ac mewn print.