ERCHYLLWAITH Y LLOFRUDDION
Description
Date: 23 February 1915.
Transcript:
ERCHYLLWAITH Y LLOFRUDDION
Suddo Agerlong o Gaerdydd
Pedwar yn Colli eu Bywydau
DIM RHYBUDD
Darfu i'r agerlong Cambank (o Gaerdydd) gymeryd llwyth o fwn i mewn yn Huelva. Gadawodd Huelva ddydd Sadwrn, Chwefror 13eg.
Oherwydd tywydd mawr cymerodd loches yn Falmouth. Yr oedd yn rhwym i Garston. Cyrhaeddodd tu allan i Amlwch rhwng naw a deg o'r gloch foreu Sadwrn diweddaf.
Fel y mae yn arferedig gydag agerlongau fydd yn hwylio i Lerpwl cymerodd bilot ar y bwrdd. Ei enw y waith hon ydoedd Pass. Yna cychwynodd yr agerlong am Garston.
Pan oddeutu pum' mintir oddiwrth Point Lynas cododd
CWCH TANSUDDAWL YN SYDYN O'R MOR.
Yr oedd oddeutu 300 llath oddiwrth y Cambank, ac heb unrhyw rybudd anfonodd torpedo ati.
Sylwodd Capten Prescott a'r Pilot Pass ar ran uchaf y cwch tansuddawl a'r un foment gwelsant ol torpedo yn y dwfr yn dyfod tuagatynt [sic] gyda chyflymder aruthrol.
Cymerodd ffrwydriad dychrynllyd le. Lluchiwyd tunelli o ddwfr ar ddec y Cambank. Yna dechreuodd suddo. Gorchymynodd Capten Prescott i'r cychod gael eu gollwng.
Yr oedd ynddi 25 o ddwylaw, ond nid atdbodd ond 21 i'w henwau yn ddiweddarach. Lladdwyd tri gan nerth y ffrwydriad, sef y trydydd beirianydd a dau daniwr. Boddodd morwr arall wrth geisio neidio i gwch.
Yr oedd nerth y ffrwydriad mor fawr fel y clywid ei swn ar y bryniau ym Mon 13 1/2 milldir o'r fan lle yr oedd yr agerlong.
Yn wir gwelodd rhai personau ar y lan y ffrwydriad a rhoddasant rybudd rhag blaen. Y canlyniad fu anfon
BYWYDFAD BULL BAY ALLAN.
Cawsont dwylaw y Cambank yn rhwyfo o gwmpas, rai ohonynt yn haner noeth, a'r oll yn newynllyd, gwlyb, ac oer.
Cymerodd y bywydfad a chwech arall i'r lan i Amlwch, yr hwn le a gyrhaeddasant oddeutu tri o'r gloch yn y prydnawn.
Yn Amlwch yr oedd torf fawr wedi ymgasglu i weled y dynion, y rhai gymerwyd rhag blaen i dy goruchwyliwr Cymdeithas y Morwyr yn y lle. Yma dilladwyd a bwydwyd hwy. Cawsont hefyd docyn tren bob un i'w gartref ei hun.
Ni fu cyffro ym mysg y criw. Collasant bobpeth.
O dri o'r gloch yn y prydnawn hyd 7.40 yn yr hwyr cerddodd y criw oamgylch y dref, yn cael eu dilyn gan nifer fawr o bobl, y rhai roddasant groesaw mawr iddynt a "hwre," pan oeddynt yn gadael y dref yn y tren.
Yr oedd agerlong berthyn i Linell y Leyland ac un Norwegaidd wrth ymyl y Cambank pan suddwyd hi, ond credir fod y ddwy yn rhy gyflym eu symudiadau i'r cwch tansuddawl geisio eu suddo gyda torpedo.
Trodd agerlong arall o'r enw Allerton i Gaergybi ar ol derbyn rhybudd prydlon am bresenoldeb y cwch tansuddawl yn y gymydogaeth.
ACHUBWYD.
T. R. Prescott, capten.
Fred Conroy, prif beirianydd. 6, Machen-place, Riverside, Cardiff.
A. V. James, prif swyddog.
H. D. Turpin, George Morrock, S. H. Blackmore, M. Sarrijock (Groegwr), Manhit (Afiphtiwr), Ali Hassan, Ali Bogo, a Morris. Yr oll o Gaerdydd.
Archubwyd (o Lerpwl), S. Clowe, E. J. Fisher, J. Moore, W. O. Carroll, Joseph Bunbury (Duke-street, Garston), ac Ernest Wilson.
Archubwyd o Manchester Thomas Tatelow, Alexander Pearson, a Thomas Johnson.
Hefyd y Pilot Pass.
LLADDWYD.
Michael Lynch, taniwr, Lerpwl.
Charles C. Siniclair, eto.
Joe Boyle, trydydd beirianydd (unig gynhaliaeth ei fam weddw).
Quingley Old, Govan Road, Glasgow, morwr.
ADRODDIAD LLYGAD-DYST.
Edrydd morwr oedd ar fwrdd agerlong arall i'r ymosodiad ar y Cambank gymeryd lle oddeutu 11.50 o'r gloch yn y boreu. Gwaedd odd rhywun, meddai, ar fwrdd eu hagerlong hwy fod rhan o gwch tansuddawl yn y golwg, ac ym mhen oddeutu pedwar munyd arall ar ol hyny grwelsant torpedo yn myned yn syth am y Cambank.
Tarawodd y torpedo hi ger ystafell y peirianau. Cymerodd ffrwydriad ofnadwy le a chododd y tonau cyn uched a tchyrn yr agerlong.
Yr oeddym ni oddeutu 300 llath oddiwrth y Cambank. Ond gymaint oedd nerth y ffrwydriad fel yr ysgydwyd y llestr yn ein cabanau ni.
Wyth munyd ar ol iddi gael ei tharo torodd y Cambank yn ei chanol ac aeth i lawr yn union.
Gollyngwyd un cwch gan y Cambank.
Ar ol iddi suddo y Cambank gwnaeth y cwch suddawl yn syth am danom ni ond darfu i'r capten ei gyru rywsut-rywsut, fel na ellid anfon torpedo ati. Dilynodd ni ond aethom i ddwfr bas ger Ynys Seiriol a chawsom lonydd.
SUDDO AGERLONG ARALL.
Pump o'r gloch nos Sadwrn, suddwyd yr agerlong Downshire, 337 tunnell, perthynol i'r East Downshire Steamship Co., tuallan i Ynys Manaw. Cario glo yr ydoedd.
Ataliwyd yr agerlong gan fad tanforawl Germanaidd, a rhoddwyd pum' munud i'r dwylaw adael y llong, yr hon a suddwyd, gan y bad tanforawl.
Ni chollwyd bywydau.
Source:
'Erchyllwaith y llofruddion.' Yr Herald Cymraeg. 23 Feb. 1915. 8.
More items with these tags
Contact Us
To request take down or report racist, offensive or otherwise harmful content.
You must be logged in to leave a comment