Description
A song written in Welsh about pay day in the slate quarries; 'Sadwrn Setlo'
SADWRN SETLO
Treuliais felus ddifyr orig
Lawer tro i ganu orig,
Ac yn awr yr wyf am geisio
Canu cân i Sadwrn Setlo.
Diwrnod hynod iawn yn ddiau
Ydyw hwn ym Mhlith y dyddiau
Diwrnod yw nad aiff yn angho’-
Diwrnod mawr yw Sadwrn Setlo.
Gweithia’r gweithwyr yn egniol,
Gydag ysbryd penderfynol,
Ac edrycha’n mlaen pan fyddo’n
Derbyn tal ar ddiwrnod Setlo.
Ar ol llafur mawr a lludded,
Difyr odiaeth ydyw gweled,
Llu o weithwyr yn cydrodio
Am eu cyflog Sadwrn setlo.
Gwelir llu yn llon a llawen,
Ac yn siriol fel yr heulwen;
Mynwes llawer fydd yn chwyddo
O lawenydd Sadwrn Setlo.
Bydd y wraig a’r plant yn drefnus,
A’r holl dy yn lan a destlus,
Er mwyn rhoddi perffaith groeso
I’r penteulu Sadwrn Setlo.
Daw y gwr yn llawen adref,
A bydd pawb mewn hwyl a thangnef;
Fe geir gweled nad a’n angho’
O ddanteithion Sadwrn Setlo.
Prysur fydd yr holl fasnachwyr
A phob lliw a llun o’r shopwyr;
Fe fydd pawb yn cyd-ymuno
I groesawu’r Sadwrn Setlo.
Llestri rhad a phob rhyw gelfi
Fydd yn cael eu dwyn a’i gwerthu,
A daw’r Iddew, megys cadno,
Gyda’i nwyddau Sadwrn Setlo.
Llanciau’r fro yn llu-luuosog
A’r holl ferched ieuainc serchog
Fyddant brysur yn ymbincio
I fwynhau nos Sadwrn Setlo.
Ond rhyw ddiwrnod du, er hynny,
Ydyw hwn mewn llawer teulu;
Medd’dod hagr sy’n dinystrio
Mwyniant llawer Sadwrn Setlo.
Ac mae eraill fu yn ddiog,
Yn ddigalon ac afrywiog;
Ca’s y rhai nid y’nt am weithio
Ni chant gyflog Sadwrn Setlo.
Eraill sydd yn mhlith y gweithwyr
Ant i’r dafarn yn ddisynwyr,
I ofera ac i wario
Eu henillion Sadwrn Setlo.
Trist yn ddiau ydyw gweled
Dynion, wedi gweithio’n galed,
Yn diota ac yn sgwaro
Eu cyflogau Sadwrn Setlo.
O! na wawriai’r diwrnod hwnw
Pan ddarfyddo yfed cwrw;
Felly gwelid llu,’n lle cwyno,
Mewn hapusrwydd Sadwrn Setlo.
Wrth i mi yn awr derfynu,
Dyma’r wers rwyf yn ei dysgu-
Sef fod i ni iawn-ddefnyddio
‘Rhyn a gawn ar Sadwrn Setlo.
E. Jones, Llanfairfechan.
North Wales Weekly News
19/05/1905
Do you have information to add to this item? Please leave a comment
Comments (0)
You must be logged in to leave a comment