Content can be downloaded for non-commercial purposes, such as for personal use or in educational resources.
For commercial purposes please contact the copyright holder directly.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Description

Story of Gweno Llwyd, Nansi Williams, a Betsan Williams, Abergynolwyn, from the 'Baner ac Amserau Cymr' February 24, 1886, , who fought over their rights to gather wood in Allt Wyllt. 

Text in Welsh only
 

TIR-LADRADAU YN NGHYMRU.
Stori Gweno Llwyd, Nansi Williams, a Betsan Williams, Abergynolwyn.
 
Mewn adeg fel hon, pan y mae tir-berchenogaeth yn cael cymmaint o sylw gan bob dosbarth, credaf yn sicr y byddai cael un golofn o'r FANER yn rhydd i gyhoeddi byr hanesion am y tir-ladradau sydd yn mhob cynmydogaoeth, yn hynod ddyddorol gan liaws mawr o'r darllenwyr. Ac os caf ganiatad genych chwi, foneddigion, agoraf y cyfryw gyda hanes tir a choed-laedred mawr a fu yn yr ardal hon ryw ychydig mwy na deugain mlynedd yn ôl.
 
Rhyw chwarter milldir uwch law pentref Abergynolwyn, ar ochr orllewinol yr afon Gwernolwy, y saif coedwig eang, a elwir yn Allt Wyllt. Nid ydwyf yn sicr pa faint ydyw o arwynebedd; ond gallwn feddwl ei bod tua thri chwarter milldir o hyd, a rhyw hanner milldir o led. Y mae ychydig mwy na'i hanner yn awr yn dderw cryfion, gydag ambell ffawydden, onen, a bedwen yma a thraw ar hyd-ddi.
 
Tua hanner canrif yn ol, yr oedd yr Allt hon yn Allt rhydd; ac yr oedd pawb o'r plwyfolion yn myned iddi, heb yr neb yn ei gwarafun. 0 honi hi y byddai yr ychydig dlodion oedd yma yn cael bron eu holl danwydd, a'r amaethwyr, hwythau, lawer iawn o'u caewydd. Clywais yr hen bobl yn dyweyd fod gan amaethwyr 'tref ddegwm' y Faenol , yn mhlwyf Tywyn, hawl, drwy ryw foddion, i ddyfod iddi i ymofyn caewydd gwreiddiog i'w planu, ac y byddent yn aml yn dyfod yno, am fod y rhan uchaf o'r Allt yn cynnwys rhai rhagorol. Nid oedd ynddi, y pryd hwnw, ond prysgwydd meinion, am eu bod yn cael en tori yn barhaus gan rywun neu gilydd; ond y mae yn awr yn llawn o dderw llathredd.
 
Yr oedd yr AIlt, hefyd, yn un o'r lleoedd rhagoraf i'r helwyr. Nid oedd unman yn y plwyf gwell am geinech a chyffylog na hi; ac yr oedd pawb yn meddu rhydd-fyned iad i mewn ac allan. Yr oedd y tiroedd a'r coedwigoedd a'i cylchynai yn cael eu cau oddi wrthi :-Coed Moelfre ar yr un pen, a Choed yr Hendref ar y pen arall, a'r Foel Fawr oddi tani. Yr unig ffordd i fyned iddi oedd trwy dir y Pandy, yr hwn nid oedd yn perthyn o gwbl i’r un perchenog a'r Hendref-perchenog pa un a draws-feddiannodd yr Allt Wyllt. Math o lwybr neu ffordd cerbyd ydoedd, ac , yn myned i lawr at y Sarn, neu Rhyd-y-rhaiadr Gwyn. Trwy y Sarn hon, cariodd y tlodion filoeddi o feichiau o danwydd heb ofn na stiwart na meistr, am oesau.
 
Yr oedd y fath Allt fawr at wasanaeth y tlodion, a'r rhai hyny yn ychydig nifer, yn ddolur llygad i’r gwr oedd yn perchenogi yr Hendref er's llawer blwyddyn. A rhyw ddiwrnod, dyma ef yn dyfod a gwr o'r enw John Hughes gydag ef. Yr oedd y gwr hwnw yn goediwr ymarferol; ac yr oedd i gau a phlanu yr Allt Wyllt yn ol cyfarwyddyd Mr. Pugh. Ond y peth cyntaf oedd i'w wneyd ydoedd attal yr ardalwyr iddi. Fel y nodais o'r blaen, yr oedd yr unig lwybr iddi dros y Sarn, yr hon aedd ger Ilaw y Rhaiadr Gwyn. Ac ar odre'r Allt yn y fan hono, gosodwyd pren yn y ddaear, ac astell (sign) fawr yn hoeliedig arno. Ar hono yr oedd gorchymyn pendant Mr. Pugh yn gwahardd neb, dan berygI cyfraith, i fyned i'r Allt i dori tan na thynu caewydd.
 
Creodd y pethau hyn deimladau chwerwon yn yr ardalwyr yn ei erbyn; ac er fod yr amaethwyr yn bur ochelgar, yr oedd en cefnogaeth a'u cydymdeimlad yn hollol gyda'r tlodion, pa rai oedd yn dyfod allan yn amlwg yn erbyn y fath gyfyngiad ar en hawliau cyfreithlawn. Yr oedd y meddwl am gael eu hiamddifadu o'u rhyddid i fyned i'r Allt Wyllt -ystordy au tanwydd-yn fwy peth nag y meddyliodd y parson o Lanfihangel-y-gwynt ei fod.
 
Y mae'n wir nad oedd yn Abergynolwyn, y pryd hwnw, ond rhyw ddeg neu ddwsin o annedd-dai. Ond yr oedd yno rai gwragedd yn mysg yr ychydig drigolion hyny oedd yn benderfynol na ildient byth i dreftadaeth rydd heb ymlaldd hyd at waed, os byddai rhaid, er dal meddiant ynddi. A rhyw foreu, dacw Gwen Lloyd, Anne Williams; ac Elizabeth Williams- a adnabyddid y pryd hyny fel Gweno Llwyd, Nansi Williams, a Betsan Williams-yn cychwyn tua llwybr y Sarn, yn cael en dilyn gan eneth ieuangc a bachgenyn. Yr oedd y tair cyntaf yn wragedd cryfion, esgyrnog, a hollol ddiofn dyn na dynes. Cariai bob un a'r tair ei bwyell yn ei llaw er tori, tanwydd, fel y byddent yn arferol a gwneyd.
 
Gwyddent fod y coedwigwr yno, ac y byddent yn fuan mewn gwrthdarawiad a'r gwr. Ond heb betruso dim, dacw y tair, gyda chamrau digryn, yn llamu dros y Sarn i'r AlIt. Ar hyn, dyna y coediwr yn yn llamu fel llew allan o'r prysgwydd, gan ofyn yn sarug ac awdurdodol, pa beth oeddynt yn ei geisio? Attebwud ef yn ôl, eu bod yn ceisio yr hyn a geisiwvyd ganddynt 'ganwaith cyn heddyw!’ sef coed. Ar hyn, dyna y coediwr yn cyfeirio eu sylw at yr astell (sign), gan ddyweyd- 'A welwch chwi pa beth y mae hon yn ei ddyweyd?'
Ar hyny, dyne Gwen Llwyd yn atteb- ‘Yn new fy Nuw, ni ddywedodd hon ddim erioed; ac ni ddywed ddim etto chwaith!’ Yna tarawodd hi a’r fwyell nes yr oedd yn disgyn yn ddwy ysgyren i’r afon! Ar hyn, dyma y tair yn gafael yn y coediwr, ac aeth yn ymdrechfa ffyrnig; ac oni buasai i ddau ddyn arall gyrhaedd mewn pryd, buasai y coesiwr, druan! Wedi cael ei fwrw i’r afon aro ol yr astyllen; a mwy na thebyg na buasai yn gwybod trwy brofiad fawredd codwm y Rhaiadr Gwyn!
 
Yn mhen ychydig ddyddiau ar ol hynny, gwysiwyd y tair i ymddangos ger bron yr ynadon yn Nolgellau; a daeth dau gwnstabl yma I’w ceisio. Ond gwrthodai y tair a cherdded cam. Felly, ceisiwyd gan Mr J.Griffith, o Westty Tal-y-llyn, fyned a hwy yn ei gerbyd i Ddolgellau. Daeth hwn a’i gerbyd i lawr, a gosodwyd y tair ynddo. Safai y cerbyd ar y pryd wrth dalcen Gwestty y Llew Coch. A phan oeddynt ar gychwyn, dywedodd rhywun wrth y gŵr fod yn gywilydd iddo fyned a’r hen wragedd oedd wedi eu cydfagu ag ef i’r carchar. Ar hyny, newidodd y gwr ei feddwl, a ca eth a’r cerbyd at domen oedd ger llaw, a dymchwelodd ei lwyth dynol- ac aeth adref- a’r ddau gwnstabl i’w ganlyn, er llawenydd mawr i’r pentrefwyr oll!
 
Ond nid oedd diwedd etto. Yn mhen deuddydd dyma geidwad carchar Dolgellau, a’r ddau gwnstabl, ynghyd a Mr E.Owen, o Westty Ty’n-y-gornel, a cherbyd, i lawr. Nid oedd un ‘Robin got las’ yn swydd Feirion y pryd hwnw. Daethant yma ar doriad y dydd, cyn i’r gwragedd druain! Godi; a llusgasant hwynt i’r cerbyd hen na thamaid na llymaid. Yr oedd gan geidwad y carchar ddryll mawr a rei sygwydd, fel pe byddai am saethu; ond defnyddiodd ef i bwrpas arall, sef i dori drws un o’r gwragedd, yr hon oedd yn gwrthod agor iddynt, er eu holl fygythion. Wedi eu cael oll i’r cerbyd, cychwynwyd ar unwaith tua Dolgellau; ac aed a’r tair i’r carchar, i aros ei prawf dranoeth.
 
Gan eu bod wedi eu dwyn ymaith heb eu boreubryd, yr oeddynt erbyn hyny yn dra newynog, ac yn disgwyl yn bryderus am gwpanaid o de; ond er eu sion, dyma’r forwyn a their cwpanaid o ruel iddynt. ‘Pa beth yw hwn sydd genyt?’ ebai Gwen Llwyd. ‘O! swper i chwi’r ladies,’ ebai hon yn lled sarug. ‘D’os a foy n ei ol, a thyred a the I ni mewn munyd’ ebe’r wraig. ‘Te, yn wir!’ ebe’r forwyn, ‘y maw hwn yn llawer rhy dda i’ch bathau chwi.’ ‘Go----di (ebai Gwen Llwyd), cymmer o ynte;’ a thaflodd y gruel i’w gwyneb, nes yr oedd hono yn gwaeddi wbwb dros y lle. A mynasant gael te a rei gwaethaf, hyd oed yn y carchar.
 
Yr oedd cymdogaeth Abergynolwyn erbyn hyn yn ferw gwyllt, a phawb yn teimlo dros y gwragedd yn ngharchar; ac erbyn dranoeth, yr oeddynt wedi casglu pum punt at gael cyfreithiwr i’w hamddiffyn. A chyn dydd dranoeth, yr oedd yr hen Domos Pugh-parch byth i’w enw!-ar ei daith i Ddolgellau; a chafodd gan y cyfreithiwr galluog, Mr Jones (Jones bach), i’w hamddiffyn. Pan ddaeth yr adeg, yr oedd llu mawr o dystion wedi cyrhaedd yno; a rhai ohonynt o bedwar ugain i bedwar ugain a deg oed. Ac yr oedd eu tystiolaethau mor gedyrn a hen golgwyni Cader Idris. Nid oedd gan y gelynion neb ond rhyw ddau hen gymmeriad diniwed, o’r enwau Edward Dafydd a Lowri Rhys; ac nid oedd gan y ddau hyn ddim i’w ddyweyd ond eu bod weithiau galw yr ‘Allt Wyllt’ yn ‘Allt Moelfro.’
 
Gwelwyd yn y fan gan yr ynadon fod yr ymgais i gau yr Allt yn anonest; a charchariad yr hen wragedd yn anghyfiawn; a chawsant eu gollwng yn rhydd, a daethant adref yn llawn rubanau ac ysnodenau y noson hono. Yr oedd y fath lawenydd trwy’r ardal oll fel y daethpwyd i’r penderfyniad o gadw tranoeth yn wyl gyffredinol trwy’r ardal.
 
Yn foreu iawn dranoeth, yr oedd yr ardalwyr yn crynhoi tua’r Aber wrth y degau. Gosodwyd daub ren hir yn y ddaear ar ganol Clwt yr Aber, a gosodwyd dyn a dynes well tar eu penau; sef darluniadau o Edward Dafyss a Lowri Rhys- y gau-dystion a fuont yn Nolgellau. Daethpwyd a llwythi o wellt a choed, a gosodwyd hwy oddi tanynt.
 
Yr oedd holl forwynion y gymmdogaeth yn bresennol, ac wedi dyfod a’r ‘cyrn ciniaw’ gyda hwy! Chwareu teg iddynt am eu dyfais gampus! Nid oes dim o’r bandiau sydd erbyn hyn mor aml i’w cael y pryd hwnw. Pan ddaeth y nos, gosodwyd tan yn y pentwr; ac ni fu y fath dan yn Abergynolwyn na chynt na chwed’yn. Yr oedd y cam yn oleu o Dal-y-llyn i Dywyn, ac o Fwlch-y-lladron, i Ben-y-penrhyn. Yr oedd y merched, hwythau yn chwythu yn y cyrnnes yr oeddd y mynyddoedd yn diaspedain. Canai a dawnsiai yr hen wyr a’r hen wragedd o amgylch y goelcerth fel plant ieuaingc. Yr oedd bron bob dyn a dynes yn y plwyf yn bresennol, a phawb wedi eu meddiannu gan rhyw lawenydd di-ben-draw am eu bod wedi cario y gyfraith!
 
Ond er y gofid, ddarllenydd, rhaid i mi dy hysbysu na fu y mediant hwn ar yr Allt Wyllt ond fyr-barhad. Wedi i’r gwragedd gael rhyw ychydig o wythnodau o ail feddiant, gwysiwyd hwyn yn mlaen yr ail waith; a chan and oedd ganddynt arian-hyny yw, am and oedd ganddynt gymmaint a’r gwr oedd y neu gwysio- collasant y frwydyr y tro hwn, a chafodd dwy ohonynt ychydig ddyddiau o garchar- a thorodd hyny eu calonau!
 
Diammheu genyf, pe y cawsent rhyw fath o gyfiawnder, y buasai yr Allt yn rhydd hyd heddyw. Gwanethant hwy eu rhan yn deg, beth bynag i ddal eu mediant ynddi trwy pob peth; ond am eu bod yn dlawd, collwyd hon, fel cannoedd o leoedd eraill yn y wlad! Ac y mae yn sicr genyf and oes gan y perchenog presennol ddim ‘hawl-feddiant arall ynddi o gwbl- ond yn unig yr hir amser y mae yn ei feddiant er hyny.
 
Os caf fyw, cewch etto ysgrifau eraill ar y llwybrau, a’r lleoedd rhyddion sydd wedi eu cymmeryd yn ol trwy ryw foddion, os gelli.
 
Ydwyf, &c.,
H.Roberts
 
Baner ac Amserau Cymru
Chwefror 24/1886
 

Do you have information to add to this item? Please leave a comment

Comments (0)

You must be logged in to leave a comment

Feedback