arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government
  • Use stars to collect & save items A vector image of star to represent action to save this item   Login to save this item

Description

D. Gwenallt Jones (1899-1968). Bardd ac ysgolhaig. Fe'i ganed ym Mhontardawe, ond symudodd y teulu yn fuan wedyn i bentref Yr Allt-wen cyfagos, yng Nghwm Tawe. Ceir darlun byw o'i blentyndod a'i lencyndod mewn cymdeithas Gymraeg ddiwydiannol Ymneilltuol, o dan gysgod y gwaith dur ac alcan, yn ei gyfraniad i'r gyfrol o ysgrifau hunangofiannol, Credaf (gol. J. E. Meredith, 1943), lle y sonia am ei bererindod ddeallusol ac ysbrydol. Dechreuodd symud tuag at Sosialaeth Gristnogol ac wedyn tuag at Farcsiaeth anffyddiol o ganlyniad i wrthryfela yn erbyn creulondeb y gyfundrefn gyfalafol ddiwydiannol - lladdwyd ei dad gan fetel tawdd mewn damwain yn y gwaith - ac yn erbyn crefydd lugoer. Ymdrinnir â'i gefndir cynnar hefyd yn y nofel anorffenedig Ffwrneisiau (1982), a gyhoeddwyd wedi iddo farw. Ond yr oedd Sir Gaerfyrddin wledig yn ogystal â sir Forgannwg ddiwydiannol yn rhan o'i brofiad cynnar. Daeth ei rieni o'r sir honno ac wrth ymweld â'i berthnasau yn ardal Rhydcymerau (yr oedd D. J. Williams yn perthyn iddo) daeth i gysylltiad â diwylliant traddodiadol Gymraeg y gymdeithas amaethyddol a harddwch cefn gwlad. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yr oedd yn wrthwynebwr cydwybodol a charcharwyd ef yn Wormwood Scrubs a Dartmoor. Yn ei nofel Plasau'r Brenin (1934), sy'n ymwneud â phrofiad y blynyddoedd hynny, gwelir sut y daeth elfennau ei Heddychiaeth Gristnogol, ei Sosialaeth Gydwladol a'i Genedlaetholdeb Cymreig ynghyd yn ei benderfyniad i wrthod ymuno yn y Rhyfel. Ar ôl y Rhyfel aeth Gwenallt yn fyfyriwr i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a graddio yn y Gymraeg a'r Saesneg. Dyma'r cyfnod pan ledodd ei orwelion diwylliannol, gan dderbyn egwyddorion esthetigaeth am ychydig. Wedi cyfnod byr yn athro yn Y Barri fe'i penodwyd yn Ddarlithydd yn Adran Gymraeg ei hen Goleg, swydd y parhaodd ynddi nes iddo ymddeol. Ar ymweliad â'r Gaeltacht yn Iwerddon dyfnhaodd ei ddiddordeb yn nhraddodiad cenedlaethol Cymru, a thrwy ddarllen yn helaeth mewn athroniaeth a diwinyddiaeth datblygodd safbwynt crefyddol o fewn yr eglwys Fethodistaidd Galfinaidd a oedd yn draddodiadol ac yn Radicalaidd ar yr un pryd. Gwrthododd ddiwinyddiaeth fodern rhan gyntaf yr ugeinfed ganrif, ond parhaodd i ddadlau dros ddyletswydd y Cristion i hawlio cyfiawnder cymdeithasol. Daeth Gwenallt i fri fel bardd pan enillodd ei awdl 'Y Mynach' y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1926. Ddwy flynedd yn ddiweddarach parodd ei awdl anghonfensiynol, 'Y Sant', ffrwgwd llenyddol, pan ataliwyd y Gadair, ond enillodd eto yn yr un gystadleuaeth yn 1931. Daeth i amlygrwydd fel bardd, fodd bynnag, yn bennaf ar sail nifer o gerddi byrrach a welir yn ei bum cyfrol o gerddi: Ysgubau'r Awen (1939), Cnoi Cil (1942), Eples (1951), Gwreiddiau (1959), a Coed (1969) a gyhoeddwyd wedi ei farw. Gwnaeth gyfraniad pwysig i ysgolheictod a beirniadaeth lenyddol hefyd mewn gweithiau fel Yr Areithiau Pros (1934), Blodeugerdd o'r Ddeunawfed Ganrif (1936), Detholiad o Ryddiaith Gymraeg R.J. Derfel (1945) a Cofiant Idwal Jones (1958). Yr oedd yn un o aelodau cynnar yr Academi Gymreig ac ef oedd golygydd cyntaf ei chylchgrawn, Taliesin. Y mae elfen delynegol gyfoethog yn ei gerddi cynnar fel 'Adar Rhiannon' a 'Cymru', a welir yn aml mewn blodeugerddi, ond y mae'r arddull ddiweddarach, sy'n nodweddiadol ohono, yn fwy garw ac yn fwy chwerw, weithiau'n fwy crwn a chryno (fel yn ei sonedau); y mae bob amser yn rymus ac yn fywiog. Gwelir yn ei gerddi themâu crefyddol a chenedlaethol wedi eu dinoethi o bob teimladrwydd, a daw Cymru yn 'butain fudr y stryd' a'i phobl 'yn udo am y Gwaed a'n prynodd ni'. Ond yn ogystal â'r ymwrthod hwn â'r parchus a'r prydferth, y mae neges rymus yng ngweithiau Gwenallt. Y mae'n fardd cenedlaethol mawr yn yr ystyr ei fod yn llwyddo i uno elfennau gwahanol ym mhrofiad hanesyddol y genedl, Cymru wledig a Chymru ddiwydiannol, sir Gaerfyrddin a sir Forgannwg, Sosialaeth a Christnogaeth: 'Ac y mae lle i ddwrn Karl Marcs yn Ei Eglwys Ef'. Nid haeriadau ffuantus yw'r rhain, ond yn hytrach, codant o'i brofiad ef ei hun. Fe'u mynegir mewn delweddau sy'n codi o dirwedd a thraddodiad a oedd yn gwbl gyfarwydd iddo. Yn ei gerdd 'Colomennod', er enghraifft, y mae'r adar a ryddheir gan y glowyr o ben y gerddi y tu allan i dai pygddu diwydiannol y dyffryn, yn ymdroi fel symbolau o'r Ysbryd Glân yn y mwg. Ynghyd â chryn ddicter, chwerwder, dewrder a phenderfyniad, llwyddodd Gwenallt, megis Idris Davies, yn enwedig yn Eples, i fynegi mewn barddoniaeth, nid delweddau allanol tirwedd ddiwydiannol yn unig, ond hefyd y profiad o fyw mewn cymdeithas ddiwydiannol. Ceir manylion pellach yn rhifyn coffa Y Traethodydd (cyf cxxiv, 1969), y gyfrol gan Dyfnallt Morgan yn y gyfres Writers of Wales (1972) a J. E. Meredith, Gwenallt, Bardd Crefyddol (1974). Gweler hefyd bennod yn llyfr Ned Thomas, The Welsh Extremist (1970). Ymddangosodd cyfieithiad Saesneg o'r ysgrif 'Credaf' o dan y teitl 'What I Believe' yn Planet (rhif 32, 1976) a cheir disgrifiad ffotograffig o fywyd y bardd yn y gyfres Bro a Bywyd (gol. Dafydd Rowlands, 1982). Paratowyd llyfryddiaeth o weithiau Gwenallt gan Iestyn Hughes (1983). Daw'r wybodaeth o'r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru: Argraffiad Newydd (gol. Meic Stephens, Caerdydd 1997).

Comments (0)

You must be logged in to leave a comment