DROVERS'S ARMS, DUHONW, EPYNT
Description
Ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd, roedd y Swyddfa Ryfel ar frys i gael mwy o dir a chyfleusterau at ddibenion hyfforddi. Dewiswyd Mynydd Epynt, ond ni fu unrhyw ymgynghori â’r bobl leol. Roedd y rheiny a oedd yn byw ar y tir yn gorfod gadael erbyn 30 Mehefin 1940. Derbyniodd tirfeddianwyr daliadau a oedd yn cyfateb i werth eu heiddo ac iawndal am bethau fel ffensys. Os nad oedd gennych eiddo, ni chawsoch iawndal. Daeth rhai o bobl Epynt o hyd i leoedd byw gerllaw. Bu’n rhaid i eraill symud yn bellach i ffwrdd.
Mae’r Ardal Hyfforddi yn cwmpasu amrywiaeth eang o safleoedd o gyfnodau gwahanol sy’n amrywio o ran eu cyflwr, ac mae wedi cadw tirwedd hanesyddol fel yr oedd cyn 1939, heb ei newid gan ddulliau amaethu modern. Mae’n gartref i dri Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Cofnodwyd 173 math o goed a phlanhigion. Ceir yma o leiaf 90 rhywogaeth o adar a mwy na 50 math o ffwng, gan gynnwys madarch cap cwyr, ac mae gwiwerod coch a mincod gwyllt wedi cael eu gweld hefyd. Agorwyd canolfan gadwraeth yn Nisgwylfa.
Tynnwyd y llun yn 2007.
More items with these tags
Contact Us
To request take down or report racist, offensive or otherwise harmful content.
You must be logged in to leave a comment