Merched y Wawr Llannau'r Tywi - Trips
Description
Merched y Wawr Cangen Llannau’r Tywi
Yn 2012-13 trwy ddyfalbarhad y Llywydd ar y pryd, Anne Evans, derbyniodd y Gangen grant gan y Loteri. Defnyddiwyd yr arian i brynu gliniadur ac argraffydd, camera digidol ac offer swyddfa er mwyn hwyluso gwaith y Swyddogion. Defnyddiwyd y gweddill i dalu am sawl taith ddiddorol.
Bu’r gangen i Ganolfan Gwilitiau Jen Jones yn Llanbed, i Felin Tregwynt, Porthgain a Thŷ Ddewi, a’r uchafbwynt oedd y daith i Fae Caerdydd ac i Ganolfan y Mileniwm i gwynhau perfformiad o’r sioe ‘Hairspray’.
Yn dilyn blwyddyn lwyddiannus iawn derbyniodd y gangen Tarian Merched y Wawr am ddenu’r mwyaf o aelodau newydd o blith ganghennau’r De.
Yr aelodau gyda’r darian yng Ngwesty Pantyrathro.
Cefn – Valmai Griffiths, Myfanwy Jones, Beryl Thomas, Jane Davies, Bessie Marks, Margaret Evans, Olive Harries, Christine John, Ann Thomas, Elaine Bown, Kathleen Hyde, Dawn Griffiths, Gillian Treharne, Siân Kier
Blaen – Lin Heighton, Ann Iorwerth, Jill Davies, Anne Evans, Mair Griffiths, Dorothy Morgan
More items with these tags
Contact Us
To request take down or report racist, offensive or otherwise harmful content.
You must be logged in to leave a comment