Merched y Wawr Llannau'r Tywi Branch, Plygain Service 1992 and 1993
Description
Merched y Wawr Cangen Llannau’r Tywi, Gwasanaeth Plygain 1992 Ar nos Sul, Rhagfyr 13, 1992 cynhaliwyd Gwasanaeth Plygain yng Nghapel Ebeneser, Llangynog. Paratowyd a threfnwyd y rhaglen gan Miss Beryl Thomas a chyfranwyd rhan helaeth o’r casgliad tuag at Gronfa Adnewyddu Capel Ebeneser.
Y flwyddyn ganlynol cynhaliwyd Gwasanaeth Plygain ar brynhawn Sul yng Nghapel Moriah, Llansteffan a chyfranwyd casgliad y gwasanaeth hwnnw tuag at Ganolfan Ieuenctid Methodistiaid, Tresaith.
Yr aelodau ym Mhlygain 1992
More items with these tags
Contact Us
To request take down or report racist, offensive or otherwise harmful content.
You must be logged in to leave a comment