arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

Description

Date: 9 February 1915

Transcript:
[page 7]

BAD TANFORAWL Y GELYN YN SUDDO Y LINDA BLANCHE

[page 8]

SUDDO AGERLONG GYMREIG GAN FAD TANFORAWL
Ymgom Ddyddorol ag un o'r Dwylaw

Yr wythnos ddiweddaf cafodd ein gohebydd ymgom ag un o ddwylaw y Linda Blanche, llestr Arglwydd Penrhyn, a suddwyd gan y bad-tanforawl Germanaidd y Sadwrn blaenorol. Nid oedd y Linda Blanche ond chwe' mis oed, ac enwyd hi felly ar ol dwy ferch Arglwydd Penrhyn, Linda a Blanche. Nid oedd ei chyflymder ond tua 10 1/2 knots yr awr. Rhifai'r dwylaw un-ar-ddeg, a dyma eu henwau:—Capten John Ellis, Bangor, a'i nai; John Thomas Ellis, Bangor; prif swyddog, Mr. Morris, Porthmadog; Morwyr, Peter Dob, Porthdinorwig; Tommy Lillie, Porthdinorwig; John Hughes, Porthmadog; Wm. Williams, Moelfre; prif beirianydd, Mr. Hughes, Amlwch; ail-beirianydd, Mr. Patson, Lerpwl; taniwr, Mr. John Hughes, Bangor; ac ail daniwr, Mr. Alf Thomas, Bangor[.]

Mewn ymgom a'n gohebydd, rhoddodd Mr. Peter Dob, mab Mr a Mrs Peter Dob, Cilarfor, Beach Road, Felinheli, ddesgrifiad byw o suddiad y llestr.

Dywedodd: "Boreu Gwener cychwynasom o Fanceinion tua 6-30 yn yr hwyr. Yr oedd yn bur niwliog, a thua dau o'r gloch y boreu rhoisom ein hangor i lawr ger Rock Ferry. Aethum i'm gwely tua'r adeg hono, a galwyd arnaf at fy nghiniaw tua 11-30 yn y boreu. Tua haner dydd gorchymynwyd fi i fyned at y llyw er myyn i ddyn arall gael myned at ei giniaw."

"Tua 12-15, rhedodd y bachgen John Thomas Ellis, tua 15 oed ataf, a gwaeddodd allan, "Dyma suddlong." Ar y dechreu yr oeddwn yn falch o'i gweled, gan feddwl ma: un Brydeinig oedd. Ond

SYNAIS YN FAWR

pan welais oddeutu hyd llong oddiwrthyf suddlong a'r faner Germanaidd yn chwifio arni, a magnel ar ei bwrdd yn pwyntio atom. Drwy megaphone dyna orchymyn i ni mewn Saesneg rhagorol i aros, ac ar unwaith ufuddheais i'r gorchymyn."

"I b'le yr ydych yn myned?" gofynodd capten y suddlong, "I Belfast," meddwn innau. "Beth yw eich llwyth?" gofynodd drachefn. "Cyffredinol," atebais innau."

"Yna hysbyswyd Capten Ellis y buasai ef a'i ddwylaw yn cael dengmynyd i glirio o'r Linda Blanche, ac ychwanegodd llywydd y suddlong, "Gan mai rhyfel yw rhyfel y mae'n rhaid i ni wneyd ein dyledswvdd." Aethum i ddau gwch, a gorchymynwyd ni at ochr y suddlong. Aethum, a rhwymwyd ein cychod wrth y suddlong, a gwelem o'n blaen mewn geiriau eglur, 'Unterseeboote [sic] U21.'"

"Gawsoch chwi ddigon o amser i glirio a hel eich pethau at eu gilydd?" gofynodd ein gohebydd.

"O, naddo," meddai Dob, "yr oedd rhai 'r dwylaw yn bwyta eu ciniaw, ac ereill yn eu gwelyau. Aeth rhai i'r cychod ag ychydig iawn o ddillad am danynt. Ni fedrais i gael ond siwt o ddillad ac ychydig o arian. Collais fy 'oilskins,' fy nillad isaf, a phethau ereill."

"Wedi i chwi fpned i'r cychod beth oedd y gorchymyn nesaf dderbyniasoch?"

"Gorchymynwyd tri ohonom," meddai Dob, "Lillie, Alf. Thomas, a minnau i fynd ar fwrdd y suddlong tra yr aeth rhai o ddwylaw y suddlong gyda Capten Ellis a morwr arall ar fwrdd y Linda Blanche. Cymreodd y Germaniaid feddiant o holl bapurau y llong a'r faner, yr hon a uwch eu penau. Yr oeddynt yn ymddangos mor falch o'i chael. Yna rhoisant ddwy ffrwydbelen mewn mannau neillduol ar y Linda Blanche er mwyn ei chwythu i fyny.

"Yn ystod yr amser hwn, cefais ymgom ag un o ddwylaw y suddlong, y rhai oeddynt ddynion ieuainc bron i gyd, a'r oll ohonynt bron yn gallu siarad yr iaith Saesneg. Yr oedd gan bob un ohonynt law-ddryll hefyd wrth ei ochr."

"A ddarfu iddynt ofyn cwestiynau i chwi?"

Do, gofynasant i ni sut yr oedd y rhvfel yn myned ymlaen, a chwesitiynau cyffelyb. Pan ar fwrdd y suddlong cawsom ddillad, cigars, a sigarenau, a gallaf eich sicrhau yr oeddym eisieu dillad, achos yr oeddym wedi gorfod gadael y Linda Blanche fel y safem. Cafodd y bachgen bach gap a phar o mittens a dyma beth ges i," meddai Dob, gan roi par o fenyg yn llaw ein gohebydd. Wed; ei ysgrifenu mewn inc tufewn i'r menyg yr oedd yr enw 'Hersing,' yr hwn, meddai Dob, oedd enw llywydd y suddlong.

"Cigars a sigarenau, oedd y cwrs nesaf," ychwanegai Dob, a dyma sylw wnaeth un o griw y suddlong,

'CYMERWCH CIGARS.'

maent yn well na'r rhai sydd genych chwi."

"Wedi edrych a oedd genym ni ddigon o ddwfr a bara yn ein cychod, dywedasant wrthym fod yna agerlong bysgota mewn cyfeiriad arbenig, a darfu iddynt ein cynghori i chwilio am dani."

"Pan oeddym ar fin gadael y suddlong yn ein cychod ffrwydrodd y ffrwydbelenau ar y Linda Blanche, a suddodd y llong gan fyned yr syth ar ei phen. Ar y diwedd yr oedd yn syth i fynu (fel yn y darlun uchod) a'i propellers yn yr awyr.

"Yn fuan wed'i hyn aeth y suddlong yn ei blaen i gyfeiriad llestr arall.

"Wedi rhwyfo yn galed am ddwy awr yn y cychod, codwyd ni i fyny gan agerlonng bysgota o'r enw Niblick. Ar ein ffordd o'r suddlong i'r llestr pysgota yn y cwch agored aethom heibio swm mawr o falurion a nwyddau llong arall a suddwyd. Er mwyn tynu sylw y dynion yn y cwch pysgota rhoddodd un dyn ei got ar ben y rhwyf a daliodd hi i fynu. Wedi cael ar fwrdd y llong bysgod oddeutu chwarter i ddau, gadawsom i'r cwch bychan fyned gyda'r llanw a thynasom y cwch mwyaf ar ein hol. Rhoddodd meistr y llestr gwpanaid o de poeth i bob un ohonom. Tua phump o'r gloch cawsom de a physgod wedi eu berwi. Glaniwyd ni yn ddiogel yn Fleetwood tua saith o'r gloch nos Sadwrn, ac wedi talu ymweliad a Chymdeithas y Morwyr, cychwynasom am ein cartrefi tua 9.15."

Gwelodd ein gohebydd Tommy Lillie, Mountain 1St., Felinheli, un arall o ddwylaw y Linda Blanche. Rhywbeth yn debyg i stori Dob oedd ei stori yntau hefyd. Siaradiai am garedigrwydd dwylaw y suddlong, ac ychwanegodd iddynt ddymuno lwc dda i ddwylaw Linda Blanche.

Gwnaed y darlun a welir ar tudalen 7 gan Mr. Lewis Owen, 15, Menai Street, Felinheli, cefnder Dob, y hwn a ddesgrifiodd yr olygfa iddo, ym mhresenoldeb ein gohebydd. Dywedodd Lillie a Dob na fuasai hyd yn oed camera yn gallu rhoi gwell desgrifiad o'r olygfa. Mae Owen wedi enill nifer o wobrwyon am ddar luniau mewn eisteddfodau.

Source:
"SUDDO AGERLONG GYMREIG GAN FAD TANFORAWL." Yr Herald Cymraeg. 9 February 1919. 7, 8.

Comments (0)

You must be logged in to leave a comment