31. Zeb Un Nisa story. Silent Voices

Items in this story:

  • 47
  • Use stars to collect & save items login to save
  • 41
  • Use stars to collect & save items login to save
  • 71
  • Use stars to collect & save items login to save

Ganwyd Zeb ym Mhacistan ym 1950 a chafodd ei magu gyda'i rhieni a’i 4 brawd. Roedd dod i'r DU yn brofiad anodd iawn iddi.“Roedd gennym deulu estynedig mawr iawn yn byw yn agos at ei gilydd ym Mhacistan ac roedd yr holl gefndryd yn arfer chwarae gyda'i gilydd. Yn ystod y gwyliau, roeddwn i'n arfer mynd i aros ym mhentref fy mam-gu, ac roedd hynny’n fendigedig.

Des i i'r DU, Casnewydd yn Ne Cymru ar 7 Hydref 1979 i briodi. Fe wnes i grio trwu gydol y daith oherwydd roeddwn i yn barod yn gweld eisiau fy rhieni, fy mrawd, teulu estynedig a ffrindiau hefyd.”

Roedd Zeb yn ei gweld hi'n anodd addasu i'w bywyd newydd.“Roedd yr wythnosau cyntaf yn anodd iawn i mi, doeddwn i ddim yn gallu cysgu. Roedd pawb yn siarad Saesneg, felly roedd hi’n anodd siarad â’r bobl o'm cwmpas. Mae gen i ffrind a ddaeth tua’r un pryd â mi, ac fe daethom yn ffrindiau agos, gan wybod bod ni yma i'n gilydd. Mae llawer wedi newid yma ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Maen nhw'n siarad o'r galon, gan wybod bod yn rhaid iddyn nhw fod yn hyderus i frwydro dros eu lles eu hunain, felly rydw i wedi paratoi'r llwybr hwnnw iddyn nhw ofalu eu hunain a bod yn gryf.”

 

Welsh:

Daeth Yasmin i'r DU o Uganda yn y 1970au, ar ôl i'r gwrthryfel milwrol achosi dadleoli torfol dinasyddion Uganda. Cafodd hi a rhan o'i theulu eu rhoi mewn gwersyll yng Ngogledd Cymru, ac roedd hi tua 14 oed.

“Ar y dechrau roedd hi'n anodd, ond y peth yw, lle roedden ni'n byw, neu’n aros, doedd ‘na ddim pobl Asiaidd, felly bu rhaid i ni addasu a gwisgo dillad Seisnig. Roedden ni wedi derbyn gofal o safon uchel. Roedden nhw’n gofalu amdanon ni. Roedden nhw’n rhoi popeth inni, achos doedd dim byd gyda ni pan gyrhaeddon ni yma. Yn y pen draw, ymunodd ei thad â nhw, ac fe roddwyd llety iddynt ym Mhontypridd lle bu'n byw nes iddi briodi a symud i Gasnewydd.

“Pan briodais, roedden ni’n byw mewn un ystafell yn nhŷ rhywun. Felly, roedden ni wedi profi caledi achos daeth fy nhad i fyw gyda ni ar ôl i ni briodi. Doedd ganddo ddim swydd na dim byd, a dim ond tua 18 oed oedden ni. Bu fy mam-yng-nghyfraith yn casglu arian i ni. Cefnogodd hi ni. Wedyn, fe wnaethon ni brynu tŷ ar ôl amser hir”.

 

Urdu:

زیب کو 1950 میں پاکستان میں پیدا ہوئی اور ان کی والدین اور چار بھائی تھے۔ برطانیہ آنے کا تجربہ بہت مشکل ثابت ہوا۔ "ہمارے پاس پاکستان میں بہت بڑا وسیع خاندان تھا اور سبھی بھائی باہوں ساتھ کھیلتے تھے۔ تعطیلات کے دوران، میں دادی کے گاؤں جانے کے لئے جاتی تھی جو کہ شاندار تھا۔

میں برطانیہ، جنوبی ویلز نیوپورٹ 7 اکتوبر 1979 کو شادی کرنے آئی۔ میں پرواز کے دوران پوری راستہ روتی رہی کیونکہ مجھے پہلے ہی اپنے والدین، بھائی، وسیع خاندان اور دوستوں کی یاد آ رہی تھی۔"

زیب نے اپنی نئی زندگی میں تکمیل کے لئے جدوجہد کی۔ "پہلے چند ہفتے میرے لئے بہت مشکل گزرے، نیند نہ آئی، سبھی انگریزی بولتے تھے، تو میرے ارد گرد لوگوں سے بات کرنا مشکل ثابت ہوا۔ میرا ایک دوست ہے جو میرے ساتھ اسی وقت آیا اور ہم دونوں دوست بن گئے جانتے ہوئے کہ ہم ایک دوسرے کے لئے یہاں ہیں۔ اگلی نسل کے لئے بہت کچھ تبدیل ہوا ہے۔ وہ دل سے بات کرتے ہیں، جانتے ہیں کہ وہ خود کے بھلائی کے لئے اعتماد رکھنا لازمی ہے، سو میں نے ان کے لئے راہ بنائی ہے تکی وہ خود کی محافظت کریں اور مضبوط ہوں۔"