Skip to main content

Ann Roberts. Hidden Histories:Women’s Peace Stories

As communities and volunteers have been transcribing the 390,296 signatories from the 1923 Welsh Women’s Peace Petition to America, many have been identifying and uncovering the stories behind this generation of women who stood against war. Who were they – and what messages might they have for us 100 years later.

‘Hidden Histories’ project led by the WCIA invited people across Wales to uncover and share ‘peace stories’ behind the 390,296 women who signed the Peace Petition – not just ‘the great and the good’, but the thousands of ordinary women across Wales moved in the aftermath of World War One to petition for peace.

This story and supporting material was contributed by Angharad Tomos, that explored the history of her Ann Roberts of Llaniestyn, Pen Llŷn

[story contributed in Welsh only]

--

Ganed Ann Roberts yn Gilfach, Llaniestyn, Llŷn ym 1879, ac roedd yn 44 oed pan arwyddodd y Ddeiseb Heddwch. Erbyn hynny, roedd wedi symud i Tai Newyddion, Talybont, ym mhlwyf Llanllechid (cartref y Prifardd Iwan Llwyd yn ddiweddarach). Priododd yn gynnar yn y ganrif newydd, ac ym 1909 ganed Catherine/ Katie, ac Idris yn 1911.

Erbyn yr Ail Ryfel Byd, roedd Katie wedi cael tŷ yn stad newydd Maesgeichen ar gyrion Bangor, a symudodd i fyw i 1 Penrhyn Avenue. Ym 1941, ganed merch fach iddi, a  daeth Ann Roberts ei mam i'r tŷ i'w helpu.

Ar y 24ain o Hydref, 1941 a Lisabeth yn 5 niwrnod oed, trawyd y tŷ gan fom (parachute mine). Nid oedd Bangor yn darged, ond nid oedd yn angyffredin i awyrennau Almaenig ollwng bomiau ar eu ffordd adref i ysgafnhau eu baich.  Roedd Ann Roberts yn wraig 62 oed ar y pryd ac ar yr eiliad y trawodd y bom, roedd yn mynd i fyny'r grisiau yn ôl y sôn, fe'i lladdwyd yn syth. Yn y gwely yr oedd ei merch, Katie a'r babi bach. Wrth i'r tŷ chwalu, fe hyrddiwyd y ddwy o'r llofft i'r llawr gwaelod. Roedd nith i Ann yn y tŷ ger y ffenest, a chollodd ei golwg yn un lygad. Anafwyd 11 ar stad o bedair mil, a'r ddau arall i golli eu bywydau oedd un a oedd yn gyflogedig gan y BBC, dyn a oedd wedi symud yno i osgoi y Blitz yn Llundain a phostmon oedd yn byw gyferbyn â rhif 1 o'r enw Jack Roberts.

Yn Storiel, mae cofnod o gyfweliad gyda Glenys (Ogwen Dewhirst) oedd yn byw yn rhif 1 gyda ei dwy chwaer, a oedd yn gyfnitherod i Katie. Meddai Glenys, “ Ron i newydd roi Elizabeth yn ei gwely efo Kate pan ddaeth y bom. Dydw i ddim yn cofio dim wedyn. Un funud, ron i ar fy nhraed, a'r munud nesaf, disgynnodd y bom tu allan a chefais fy chwythu o'r llofft ffrynt i'r llofft gefn, ond doedd dim llofft gefn, gan ei bod wedi diflannu. Llwyddodd Dewyth Bob i roi un llaw drosof, dros y rwbel, a thynnodd fi ar ei ysgwyddau a'm cario at ambiwlans, gan fy nhaflu i mewn ac i ffwrdd a'r ambiwlans. Cofiaf y golau yn fflachio, rhaid mod i wedi dod ataf fy hun yn fuan, ar fy ffordd i'r ysbyty gan mod i wedi colli cymaint o waed. Nan Ann oedden ni'n galw Anti Ann, roedd hi'n berson lyfli, a doedd dim marc arni, ond fe'i lladdwyd gan y damchwa. Meddyliais mor anhygoel ydoedd fod ei gwr, Dewyth Bob, yn gwybod ei bod wedi marw, ond roedd o'n dal wedi dod i chwilio amdana fi, ac wedi fy nghael i ambiwlans.”

Cafwyd y stori hon gan Ann Roberts (ganed 1939) sy'n byw yn Waunfawr. Idris oedd ei thad ac Ann Roberts oedd ei nain, a fu farw pan oedd yn ddwyflwydd a hanner. Ei chof hi oedd fod y Fyddin eisiau rhoi baner Union Jack ar arch Ann Roberts, ond fod y teulu wedi gwrthwynebu. Doeddent y Fyddin ddim eisiau i'r ffaith i rai gael eu lladd ym Maesgerchan gael sylw mawr. Mae Ann wedi ei chladdu yn Eglwys St Cross, Talybont.

Ar ei bedd mae'r geiriau, 'Er Serchog Gof am Ann, annwyl briod Robert Roberts, 8 Caegwigin, Talybont a hunodd Hydref 24, 1941 yn 62 mlwydd oed.

'Ni ddaw bom heddyw i'w byd

Ei safle sy'n ddisyfyd.'

Bu farw ei gŵr, chwarelwr yn Chwarel y Penrhyn, ddeng mlynedd yn ddiweddarach.

Enw mam Robert Roberts y chwarelwr oedd Ann Roberts, Bryn Derwas, Talybont, Plwyf Llanllechid. Mae hithau hefyd wedi arwyddo y Ddeiseb Heddwch. Dan ei henw, mae 'C.Macnaught' o'r un cyfeiriad. 'Lady companion' oedd hi. Er mai capelwraig ydoedd, bu'n llnau eglwys St Cross, Talybont, am flynyddoedd, ac yn prynu ei thun Brasso a'i hoffer llnau ei hun. Chafodd hi erioed ei thalu am ei gwaith. Byddai Ann yn gadael i fachgen ifanc ddod i mewn i'r eglwys i ymarfer chwarae'r organ. Pan glywodd swyddogion yr eglwys hyn, gwaharddwyd y dyn ifanc rhag chwarae'r organ. Digiodd hyn gryn dipyn o'r gynulleidfa, a gadawsant yr eglwys a mynd yn aelodau o Gapel Bethlehem, Talybont. (Yn ei mysg mae teulu Neville, Hogiau Llandegai). Nid oes carreg ar fedd Ann yn yr eglwys. Byddai rhywun yn meddwl, wedi'r holl flynyddoedd o wasanaeth, y gallai'r eglwys fod wedi talu am garreg fedd iddi.

Roedd gan Robert Roberts y chwarelwr, frawd o'r enw Llewelyn Roberts. Fe briododd ef Mary. Mae enw Mary ar y ddeiseb heddwch hefyd – Mary Roberts, Dolhelyg, Talybont.

 

Related items

Contact Us

To request take down or report racist, offensive or otherwise harmful content.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment