Embroidered card "To Greet You"
Description
Carden wedi'i brodio, a ddanfonodd Gordon Davies o'r Royal Engineers o Ffrainc ar 4 Rhagfyr 1916. Fe'i derbyniwyd gan Mrs Walters, Llwynglas, Pumsaint, Sir Gaerfyrddin (a fyddai'n dod yn fam-yng-nghyfraith iddo, maes o law).
Roedd Gordon Davies yn saer a labrwr cyn y rhyfel; erbyn diwedd y rhyfel roedd yn gorporal yn y Royal Engineers. Ganwyd ef 21 Mawrth 1888 yn Pisgah House, Llanfihangel Brynpabuan, Sir Frycheiniog (mab i William Davies, llafuriwr, ac Ann Davies, gynt Price). Ar 27 Tachwedd 1918, yn 30 oed, fe briododd Gordon â Mary Walters (27 oed, di-briod) yng nghapel Salem, Cynwyl Gaeo, Sir Gaerfyrddin.
External source:
More items with these tags
Contact Us
To request take down or report racist, offensive or otherwise harmful content.
You must be logged in to leave a comment