William Hughes letter, 15 March 1915
Description
William Hughes from Bow Street, Ceredigion, volunteered for the army in 1914 and served with the Royal Engineers. During the war he wrote a series of letters to a childhood friend, T I Rees (who was in the diplomatic service, based at the British embassy in Venezuela). In these letters, which were mostly written in Welsh, one can trace not only William's physical movements, but also how his mood and attitude towards the war changed. Transcript of letter, sent from 12 Oxford Street, Abergavenny: Annwyl Gyfaill Mewn atebiad i'th lythyr ac yn unol â'th gais. Dyma fi yn amgau darlun o'r milwr. Dyma un o'r llawer o gymdogaeth y Bow-Street. Os cawn ryddid i fynd adref y Groglith bwriadwn gael ein llun gyda'n gilydd a ti gei un o'r rhai hynny eto os na fyddi wedi croesi drosodd yma cyn hynny. Fe weli yn ôl yr address mai yn Sir Fynwy yr ydym, ardal brydferth iawn yn llawn amrywiaeth. Fe gawn yma ddolydd ffrwythlawn a mynyddoedd cryhog. (sic) Amgylchynir y dref gan gylch o fynyddoedd wedi eu dadgyslltu gan ddyffrynnoedd prydferth. Mae i'r mynyddoedd o amgylch enwau rhyfedd iawn. Gelwir yr uchaf yn "Sugar Loaf" "Blornche" "Holy Mountain". Nid wyf eto wedi cael y pleser i ddringo i'w copâu am fod y dydd yn fyr. Ein gwaith yma yw troi "trenches" ac adeiladu pontydd yn groes i'r afon yma. Er nad wyf fi yn gwneuthur hynny gan y perthynnaf i'r 43rd Signal Company Royal Engineers. Nid ydym yn gweithio'n galed yma eto. Y mae Alser yn cofio atat yn gynnes. Bum dan y doctor heddiw yn cael fy "inoculation". Dyma'r ailwaith a'r tro diwethaf gobeithio. Araf iawn y mae y rhyfel yn mynd ymlaen. Dywedir y byddwn ni allan ym Mehefin. Hyderaf dy fod yn iach fel ag yr wyf innau. Ni fum cystal er pan adewais Garn House. Nid wyf wedi cael cymaint ag annwyd eto. Dy gyfaill ffyddlon W Hughes
More items with these tags
Contact Us
To request take down or report racist, offensive or otherwise harmful content.
You must be logged in to leave a comment