Content can be downloaded for non-commercial purposes, such as for personal use or in educational resources.
For commercial purposes please contact the copyright holder directly.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Description

William Hughes from Bow Street, Ceredigion, volunteered for the army in 1914 and served with the Royal Engineers. During the war he wrote a series of letters to a childhood friend, T I Rees (who was in the diplomatic service, based at the British embassy in Venezuela). In these letters, which were mostly written in Welsh, one can trace not only William's physical movements, but also how his mood and attitude towards the war changed. Transcript: Annwyl Gyfaill Gyda llawer o bleser y derbyniais dy garedig lythyr. Yr wyf wedi gweld llawer tro ar fyd er pan ysgrifennais ddiwethaf. Yr oeddwn mewn lle tawel ac ychydig o ymladd ffyrnig ond fe'n symudwyd ni i ganol y ffwrnes am ryw bythefnos. Dyma y dyddiau y cymerodd y Division yma ran yn y Big Push Cyntaf o Orffennaf am dri diwrnod . Pedwerydd ar ddeg am pum diwrnod. Fe adawson y lle am chwe wythnos i ddychwelyd ar y pymthegfed o Fedi. Buom i mewn o'r pymthegfed hyd y seithfed ar hugain. Hwyrach yr wythnos fwyaf llwyddiannus er dechreuad yr ymladd brwd. Nawr yr wyf mewn lle hollol newydd na fum ynddo o'r blaen ond oedd yn hynod enwog yr amser yma y llynedd. Trueni ein bod ar fin gaeaf a'r dydd mor fyr a gwaeth na'r cyfan yr oerfel. Ennill yr ydym er gwaethaf pob peth ac ennill wnawn. Mae holl trump cards yr Ellmyn yn mynd. Diddrwg yw y gwaith a wneir ar Zeppo yn ddiweddar. Credaf fod hwn yr ergyd gwaethaf i'r Ellmyn. Ond beth am y 'Tanks'. Mae hwn yn curo yr Ellmyn ac yn peri cryn bryder iddo ac fe bera fwy eto. Gwelais y rhai hyn yn gwneuthur gwaith hynod dda ac yn cymeryd yn agos i dri chant yn garcharorion. Golgfa ryfedd yn hwyr y dydd yw sefyll ar gopa y bryniau yma ac edrych i'r Gorllewin a throi i edrych i'r Dwyrain. Mae hi fel pe baet yn sefyll ac yn edrych ar ryw ddinas fawr a'r golau yn y ffenestri - y Camp Fires - o fewn ychydig filltiroedd i'r ffosydd ac eto y mae Llundain yn dywyll. Dengys hyn mor ddibwrpas y mae ei aeroplaens, ni feiddiant ddod trosodd. Danfonais lyfr i ti ryw fis yn ol. Hyderaf dy fod wedi ei gael. Llyfr Ffrangeg ydoedd mewn perhynas â'r rhyfel. Hyderaf y caf dy weld yn Lloegr cyn yr haf nesaf ac y byddaf innau yn ôl i'th weld. Cofion fyrdd W Hughes

Do you have information to add to this item? Please leave a comment

Comments (0)

You must be logged in to leave a comment