William Hughes letter, 30 October 1916
Description
William Hughes from Bow Street, Ceredigion, volunteered for the army in 1914 and served with the Royal Engineers. During the war he wrote a series of letters to a childhood friend, T I Rees (who was in the diplomatic service, based at the British embassy in Venezuela). In these letters, which were mostly written in Welsh, one can trace not only William's physical movements, but also how his mood and attitude towards the war changed. Transcript: Annwyl Gyfaill Ychydg eiriau o wlad y gyflafan ofnadwy. Hyderaf dy fod wedi derbyn y llythyron wyf wedi eu hanfon i ti. Llwm wyf innau ar hyn o bryd gan fod y lle yr wyf ynddo'n bur dawel. Da gennyf ddeall dy fod yn awyddus i ymadael a'r lle yna. Nid wyff yn hoffi meddwl dy fod mor bell o'r hen wlad. Byddaf yn falch o glywed dy fod wedi dod i'r cyfandir hwn fel y galli dalu ymweliad yn amlach â'r wlad hon. Credaf na chymer lawer o amser i ti feistroli iaith y Rwsiaid. Ydy y mae yn gyfoethog o lenyddiaeth ddiweddar. Oes, y mae gennyf rai o lyfrau yr awdwyr a awgrymaist. Llyfr ar Social Question sydd gennyf o waith Prince Kropotkin. Prynais ef ryw bum mlynedd yn ol. Ychydig wyf yn gofio o'i gynnwys nawr ac am Leo Tolstoy y mae ef yn gydnabyddus drwy'r holl fyd i rywun a wyr rywbeth am lenyddiaeth. Darllenais rywbryd ei waith ar addysg ac un o'i ffug chwedlau sef Anna Karenina. Os nad wyf wedi anghofio bu y ddau yn garcharorion yn Siberia ac yr oedd Prince Kropotkin yn Llundain yn y rhyfel ond yr wyf yn credu ei fod wedi dychwelyd i ymladd dros ei wlad ar y cytundeb na chymerir ef yn garcharor. Hwyrach fy mod yn anghywir ond y mae gennyf ryw rith gof am hyn. Hyderaf y byddi yn abl i gadarnhau neu wrthddweud hyn. Maddau i mi am fynd trwy y pethau hyn ond nid oes gennyf ond ychydig o newyddion o'r wlad hon. Cefais air oddi wrth Alser Lewis. Yr oedd yn dywedyd wrthyf am ei gofio atat. Carai anfon gair ond ni fyddai ganddo ddim i'w ddweud wrthyt. Felly cymer ei gofion gorau atat. Mae holl fechgyn yr ardal yn holliach hyd y gwn. Fel y gwyddost nid yw newyddion y rhyfel mor llewyrchus ar hyn o bryd eto bydd y cynhauaf hwn i barhau, nid yw ond rhywbeth i dawelu yr Ellmyn. Mae y tywydd yn hynod wlyb a pery llawer o wrthwynebiad i ni yma. Yr wyf mewn lle hynod gyfforddus ar hyn o bryd. Cofion goreu Dy gyfaill cywir W J H
More items with these tags
Contact Us
To request take down or report racist, offensive or otherwise harmful content.
You must be logged in to leave a comment