Skip to main content

William Hughes letter, 23 December 1916

Description

William Hughes from Bow Street, Ceredigion, volunteered for the army in 1914 and served with the Royal Engineers. During the war he wrote a series of letters to a childhood friend, T I Rees (who was in the diplomatic service, based at the British embassy in Venezuela). In these letters, which were mostly written in Welsh, one can trace not only William's physical movements, but also how his mood and attitude towards the war changed. Transcript: Annwyl Gyfaill, Daeth dy lythyr i law heddyw a chyda throad y Post yr wyf yn ei ateb. Fe ddaeth ddeuddydd cyn y Nadolig ond fe fydd ynghanol Ionawr cyn y daw hwn i'th law. Yr wyf wedi symud ychydig eto ond nid ymhell. Bydd i mi dreulio y nadolig hwn yn y ffosydd fel un o'r tanddaearol bethau. Wel, y mae llawer cyfnewidiad wedi cymryd lle er pan yr ysgrifennais i ti. Rumania dan draed y gelyn ond mae y gwaith hwn wedi gwanychu yr Ellmyn fwy na feddyliodd a heddyw y mae yn ceisio ein perswadio i ddod i delerau heddwch ac yn cyhoeddi ei hun yn orchfygwr ac ar y llaw arall yn foddlon talu 'indemnity'. Gall bob dyn weld trwy hwnna. Ond nid wyf yn credu y byddai yn ddoeth arnom wneuthur hyn oherwydd nad yw german Militarism wedi ei goncwerio ac os gadawn iddynt fe ddeuant allan eto fel o'r blaen. Felly ymlaen â'r gart. Fel y gweli y mae Lloegr wedi esgyn i'r goruchafion. Rhyw ddyn rhyfedd yw Lloyd George ac y mae ei ateb i'r Ellmyn yn ddigonol. Drwg gennyf ddeall fod y clefydau hyn yn dy ymosod. Dos o'r lle cyntaf medrot. Rhown innau lawer am fwyd da. Nid pastries ond llaeth enwyn fel y dywedaist. Nid wyf yn cael pastries yma cofia ond cawl Ceredigion a ? a digon o gennin ynddo. Wel y mae Goronwy wedi dod i'r wlad hon. Hwyrach y deuaf i gyfarfod ag ef. Modd bynnag cynt y cwrdd dau ddyn na dau fynydd. Nid wyf wedi bod adref eto ond disgwyliaf y caf cyn y delo y Gwanwyn. Tro diwethaf y clywais oddi cartref ni wyddont ble y mae Dei Taigwynion. Hyderaf y caf dy weld yn fuan. Blwyddyn Newydd Dda i ti a dos o'r lle yna Dy gyfaill diffuant Will Hughes

Owner:
Gwynfor Hughes
Creator:
Gwynfor Hughes
License information:
Copyright Details:
Gwynfor Hughes 2010
Publisher Ref:
GTJ94072
Item uploaded:
15/11/2011
Date originally created:
23/12/1916
Views:
664
Favourites:
0

More items with these tags

Contact Us

To request take down or report racist, offensive or otherwise harmful content.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment