Content can be downloaded for non-commercial purposes, such as for personal use or in educational resources.
For commercial purposes please contact the copyright holder directly.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Description

William Hughes from Bow Street, Ceredigion, volunteered for the army in 1914 and served with the Royal Engineers. During the war he wrote a series of letters to a childhood friend, T I Rees (who was in the diplomatic service, based at the British embassy in Venezuela). In these letters, which were mostly written in Welsh, one can trace not only William's physical movements, but also how his mood and attitude towards the war changed. Transcript: Annwyl Gyfaill Daeth y ddau lythyr i law yn ddiogel. Diolchiadau fil am y ffoto hyfryd a ddanfonaist. Yr wyf wedi danfon ychydig lyfrau adref i'w danfon i ti. Hwyrach nad ydynt o fawr werth modd bynnag. Fe'u cefais ynghanol llwch yn un o drefydd Ffrainc sydd wedi ei malurio. Gobeithio y byddi yn ffortunus i gael dyfod i'r wlad hon neu i Europe. Treuliais fy nadolig yn y ffosydd ond yr wyf yn awr allan am fis o amser. Fe gwtoga hyn ychydig o'r gaeaf i mi. Nid wyf wedi bod mor ffortunus a chael mynd adref eto ond yn disgwyl cael mynd cyn diwedd y mis nesaf. Fe gefais barsel oddi wrth eglwys fy mebyd ac yr oeddwn yn falch o'i gael. Diolch yn fawr i ti am garedigrwydd. Hwyrach y byddaf yn falch o dderbyn hatlin rhyw ddydd. Oherwydd y gwyddost y mae pris pethau yn uchel iawn yn Lloegr ond nid yw cyflog fy nhad ddim yn fwy a Tommy a fi yn y fyddin ond yn ceisio gwneuthur ein gorau i'w helpu. Fel y gwyddost y mae mewn oedran a pe byddai iddo ofyn am chwaneg hwyrach mai y sack a gafai. Nid yw ei oedran yn caniatau iddo fynd oddeutu. Methais gael allotment iddo gan ei fod yn ennill. Yr wyf yn rhoddi bob dimai a allaf iddo oherwydd y mae deunaw swllt yn fach iawn yn ôl pris pethau nawr. Yr wyf yn ddiolchgar i ti am dy garedigrwydd. Fe adawaf hynny i ti. Hyderaf na fydd i hyn dy flino. Wel y mae yr Ellmyn wedi methu ein perswadio i'r Peace Conference ac fe fetha mewn modd arall yn fuan ac fe fydd rhaid iddo blygu ei liniau i ni. Wel Blwyddyn Newydd Dda gan hyderu y caf dy weld yn fuan. Yr wyf mewn iechyd ardderchog er gwaethaf y tywydd gwlyb. Y mae Enoch Jones, os oeddet ti'n ei adnabod, yn y fyddin wedi bod yn y Munitions Factory ers dros flwyddyn. Cofion diffuant oddi wrth dy gyfaill Will

Do you have information to add to this item? Please leave a comment

Comments (0)

You must be logged in to leave a comment