Content can be downloaded for non-commercial purposes, such as for personal use or in educational resources.
For commercial purposes please contact the copyright holder directly.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Description

William Hughes from Bow Street, Ceredigion, volunteered for the army in 1914 and served with the Royal Engineers. During the war he wrote a series of letters to a childhood friend, T I Rees (who was in the diplomatic service, based at the British embassy in Venezuela). In these letters, which were mostly written in Welsh, one can trace not only William's physical movements, but also how his mood and attitude towards the war changed. Transcript of letter, sent from D Camp, Avington Park, Winchester East: Annwyl Gyfaill Hwyrach y caret wybod ychydig o'm hanes nawr. Wel! Y mae y Welsh Army Corps sydd yn rhifo dwy fil ar hugain yn ymadael o'r lle hwn rhwng yr eilfed ar hugain a'r seithfed ar hugain o'r mis hwn. Tebyg y byddant wedi mynd cyn y derbyni y llythyr hwn. Nid oes sicrwydd i ba le. Ond yr wyf fi a llawer eraill yn cael ein gadael ar ôl. Yr wyf ar y reserves ac yn debyg o'u dilyn mewn rhyw fis i chwech wythnos. Y fi o'r oll fechgyn y Bow-Street fydd ar ôl. Hwyrach fod rhywbeth yn hyn nas gwn i ddim amdano ond ni fyddaf yn hir cyn cael y cyfle i wneud fy rhan. Deallaf fod Bec a Hannah yn gwneuthur eu rhan nhw yn Birmingham. Rhwydd hynt iddyn ddywedaf fi. Mae pethau yn edrych yn dywyll eto. Mae pob bachgen ieuanc yn gorfod ymuno nawr. Mae yn rhaid iddo ddod pryd y derbyniant chwaneg o wyr priod. Y mae lluoedd yn dod y dyddiau hyn a da hynny. Yr oeddwn yn ymson amdanat rhyw noswaith wythnos hyn, boys y Bow-Street fel y gwyddost. Nid wyf yn credu fod yna un bachgen dibriod ar ôl ym mhentref y Bow-Street nawr. A rhai ohonynt ar faes y gwaed yn barod. Does ond gobeithio y troiant oll yn ôl yn iach i lawenhau ar ôl y goncwest fythgofiadwy, ac y byddi yno pan y byddwn yn dychwelyd i'n llongyfarch y rhai a ddaw. Hyderaf dy fod iach fel ag yr wyf innau. Anfon dy lythyron i'm cartref, fe ddeuant yn ddiogel. Cofion fyrdd Dy gyfaill Will

Do you have information to add to this item? Please leave a comment

Comments (0)

You must be logged in to leave a comment