Skip to main content

William Hughes letter, 15 May 1917

Description

William Hughes from Bow Street, Ceredigion, volunteered for the army in 1914 and served with the Royal Engineers. During the war he wrote a series of letters to a childhood friend, T I Rees (who was in the diplomatic service, based at the British embassy in Venezuela). In these letters, which were mostly written in Welsh, one can trace not only William's physical movements, but also how his mood and attitude towards the war changed. Transcript: Annwyl Gyfaill Y mae cryn ysbaid er pan yr ysgrifennais i ti. Ond yr wyf wedi bod trwy lawer o brofiadau er Ebrill. Fel y gwyddost y mae y rhyfel wedi cyrraedd hwyrach ei eithafbwynt mewn perthynas ag ymladd ac yr ydym ninnau fel Div wedi bod ynddynt. Y mae yr Ellmyn yn ceisio hyd eithaf ei allu y'n hatal ac y mae hyn yn awgrymu fod yn rhaid iddo naill ai ddianc yr hyn fyddai yn ddinistr arno. Mor bell ag y mae ymladd ar y tir yr ydym wedi cael y gorau arno ac fe wyr hyn ond ei suddlongau sydd yn peri gofid ar hyn o bryd ac hyderaf y bydd iddo fethu yn hyn eto. Mae'r gwanwyn yma yn ei harddwisg gynhefin ac mae'r coed a'r meysydd yn brydferth odiaith eithr anghyfanedd yw i fyny yn nhiriogaeth yr ymladd. Nid oes na choeden yno ac ychydig o flodau. Y mae chwyn yn dechrau glasu'r ddaear ond yn ol yma lle rwyf nawr mae y meysydd mor lân a'r tywydd mor ddymunol. Hwyrach y gwyddost fod un o fechgyn y Bowstreet wedi syrthio, sef Jack Pritchard. Drwg gennyf ddeall hyn. Cefais lythyr oddi wrth Evan Lewis, yr oedd yn credu y bydd allan yma yn fuan. Da gennyf ddeall fod yr unol Daleithiau yn torchi eu llewys. Y mae gobaith o hyn. Yr wyf yn treulio fy amser nawr yn darllen y cyfrolau a ddanfonaist ataf a mawr flas a gaf ohonynt. Y mae pethau yn bur annymunol yn Prwsia ac mae e'n hynod ddiflas pan fo'r Ellmyn yn defnyddio ei holl fyddin i'n hatal er bod hwy yn methu taro ond disgwyliwn glywed rhywbeth o'r Italy yn fuan ac y mae cyffro yn Salonica ac am y Twrc yn y Dwyrain y mae ei obaith yn diflannu fel tarth y borau. Nid wyf yn gwybod dim o hanes Goronwy, a ydyw wedi dod allan yma eto? Wel, nid oes gennyf ragor o newyddion. Hyderaf y byddaf yn abl i'th weld yn fuan. Hyderaf fod dy iechyd yn dal. Yr wyf yn hynod dda allan yma. Cofion fyrdd Will

Owner:
Gwynfor Hughes
Creator:
Gwynfor Hughes
License information:
Copyright Details:
Gwynfor Hughes 2010
Publisher Ref:
GTJ94170
Item uploaded:
15/11/2011
Date originally created:
15/5/1917
Views:
839
Favourites:
0

More items with these tags

Contact Us

To request take down or report racist, offensive or otherwise harmful content.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment