Skip to main content

William Hughes letter, 3 September 1917

Description

William Hughes from Bow Street, Ceredigion, volunteered for the army in 1914 and served with the Royal Engineers. During the war he wrote a series of letters to a childhood friend, T I Rees (who was in the diplomatic service, based at the British embassy in Venezuela). In these letters, which were mostly written in Welsh, one can trace not only William's physical movements, but also how his mood and attitude towards the war changed. Transcript: Annwyl Gyfaill, Mawr ddiolchaf i ti am dy garedigrwydd tuag atom fel teulu. Deallaf dy fod wedi rhoddi hanner sofren i nhad. Synnet fel mae'r hen law (fel y dywed Wil Bryan) yn gwerthfawrogi hyn. Dywedodd wrthyf yn y llythyr diweddaf am anfon diolchiadau fyrdd i ti. Yr wyf allan o'r ffosydd ar hyn o bryd a ti synni glywed fy mod bron yn yr unfan ag yr oeddwn yr amser hyn flwyddyn yn ôl. Rhyfedd yw gyrfa dyn ond rhyfeddach fyth allan yma. Prysur iawn yw pethau ac fe fyddem yn fwy prysur pe caniatai'r tywydd. Dydd o haf heddiw, golwg gynnes ar y meysydd gyda llafur yn ei staciau. Trigaf ar hyn o bryd mewn tŷ neu yn hytrach mewn sied wedi adeiladu o corrugated iron (fel y gelwir hwn yma) mewn perllan yn un o bentrefydd yma, ac yma y byddwn am rhyw ychydig ac yma fe'n gwthir ni i'r ffosydd drachefn. Nis gwn ddim am yr ymladd yn nhiriogaeth Ypres eto ac hyderaf na welaf hyn. Mae pob un o fechgyn yr ardal wedi bod ar wyliau ond Alser. Bu yn hynod anffortunus yn mynd at Gatrawd newydd pan ddaeth allan o'r ysbyty. Yr wyf wedi gweld amryw o'r Unol Dalaethau allan yma, bechgyn dymunol yn ôl pob tebyg. Hyderaf y bydd iddynt ysgafnhau ychydig ar y baich y gaeaf hwn. Da yw y newyddion o bobman ond Rwsia. Mae milwyr Ffrainc yn gwneud gwaith da yn ardal Verdun. Clod bythol iddynt fydd Verdun a gwarth i'r Crown Prince. Gwelaist fwriad Llywodraeth Ffrainc i wneud ffordd o Alsace i'r môr lle y bu yr holl ymladd. Y ffordd Gysegredig. Hwyrach y byddi yn chwannog i weld y lleoedd hyn wedi y darffo o'r rhyfel. Diau y bydd yn gyrchfa lluoedd o bobl ac fe welant ryfeddodau mewn mwy nag un ystyr. Deallaf fod Goronwy allan yma ar hyn o bryd. Mae Evan Lewis yn Lloegr hyd yn hyn a rhwydd hynt iddo. Carwn fod gyda fe. Danfonwyd y darlun na ddylais i ti. Y mae yr un a fwriadwn yn Bronceiro. Yr oedd Annie yn edrych amdano. Mae hiraeth mawr arnaf am gael treulio noson gyda genethod Bronceiro. Mae geiriau Annie yn fy nghlust o hyd. "Diwc, ffor wyt ti Wil bach, os lawer dydd." So genial fel y dywed y Sais. Wel gyfaill, hwyrach y cawn dreulio noson yn yr hen gwmni. Pan oeddwn yn bloeddio nerth fy mhen. Pe bai ond un noson fe fyddai yn werth trafaelu milltiroedd. Hyderaf y bydd hyn yn fuan. Cofion fil a diolchiadau fyrdd am dy garedigrwydd Will

Owner:
Gwynfor Hughes
Creator:
Gwynfor Hughes
License information:
Copyright Details:
Gwynfor Hughes 2010
Publisher Ref:
GTJ94187
Item uploaded:
15/11/2011
Date originally created:
3/9/1917
Views:
657
Favourites:
0

More items with these tags

Contact Us

To request take down or report racist, offensive or otherwise harmful content.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment