Content can be downloaded for non-commercial purposes, such as for personal use or in educational resources.
For commercial purposes please contact the copyright holder directly.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Description

William Hughes from Bow Street, Ceredigion, volunteered for the army in 1914 and served with the Royal Engineers. During the war he wrote a series of letters to a childhood friend, T I Rees (who was in the diplomatic service, based at the British embassy in Venezuela). In these letters, which were mostly written in Welsh, one can trace not only William's physical movements, but also how his mood and attitude towards the war changed. This is the first extant letter, sent from Tŷ Capel Garn, Bow Street. Transcript: Annwyl Gyfaill Y mae Nadolig 1914 ymhlith y pethau a fu ac yr oedd yn Nadolig rhyfedd iawn i filoedd yn y wlad yma. Yr oedd yn hynod i mi gan fy mod adref ond adref ar draul y Brenin oeddwn. Fel y dywedais wrthyt y byddwn wedi ymuno a'r fyddin cyn Nadolig, bellach wyf ynddi ers pum wythnos. Ymunais â'r Royal Engineers perthynol i'r dosbarth Cymreig. Derbynient oll weithwyr dan ddaear iddi. Y mae i grefftwyr fel rheol y mae y rheiny yma. Y mae bron yr oll o fechgyn y gymdogaeth yma wedi ymuno a rhyw Regiment. Yr ydym yn saith yn perthyn i'r Engineers yn Porthcawl S Wales ac yn lletya yn yr un ty. John Thomas, John James, Tommy fy mrawd a Will Pugh ac Alser Dan teilwr. Rhyddhawyd ni ddydd Mercher diwethaf a dychwelwn Dydd Llun, sef yfory. Anhawdd gwybod ble byddwn nesaf gan fod ein tynged mor ansicr yn y fyddin. Hwyrach mai yn Chatham y byddwn nesaf ac am hynny gwell i ti anfon dy lythyr yma, sef gartref gan nas gwn lle byddwn. Bum yn Aber ddoe yn yr Eisteddfod. Nid oedd llawer o lewyrch ar honno eleni. Yr unig beth werth ei glywed oedd yr her unawd, ac yr oedd yno ganu ardderchog, ond fe enillodd Myfanwy Ellis yn rhwydd ac fe gafodd ganmoliaeth neilltuol. Synnwn i ddim nad aiff hon a'r wobr yn yr Eisteddofd Genedlaethol pan ddaw i Aber ond mae edrych yn anhebyg i fod yma yn 1916 eto gan fod holl fechgyn ieuainc Cymru wedi eu gwasgaru yma a thraw. Milwyr yw'r cwbl. Byddai yn werth i ti fod yma i gael gweld y cyfnewidiadau mae y rhyfel ofnadwy yma wedi wneud yn y wlad heb son am Europe sydd yn sarn dan draed. Nid oes dim eithriadol o gynhyrfus wedi digwydd ar ôl yr hyn wnaed ganddynt yn Scarborough. Byddaf yn treulio fy amser yn Porthcawl i ganu ac actio. Y mae gwr y ty lle y lletyaf yn gerddor pur ddawnus ac yn arweinydd corau ac wedi ennill gwobrwyon lawer a hynny dan feirniadaeth dy Dad amryw weithiau. Yr ydym yn cael faint fynom o ganu yn y ty. Yr wyf fi a John Thomas wedi bod yn canu mewn dwy bedwarawd yn y Socials sydd yn cael eu cynnal yma. Y mae dau biano yn y ty a'r ferch yn accompanist ardderchog. Ti weli ein bod yn cael amser braf. Yr wyf wedi bod ar y llwyfan dair gwaith yn rhoddi y "quarrel" rhwng Brutus a Cassius o Julius Ceasar gyda bachgen o'r Porth oedd yn y Welsh Drama oedd yn teithio drwy Gymru cyn i'r rhyfel dorri allan. Ac mae hwn wedi gwneud lles dirfawr i mi. Ti weli mai bywyd segur yw fy mywyd yn y fyddin. A chredaf fod llawer o ddaioni o'r natur yma yn deilliaw o'r rhyfel yma. Hyderaf dy fod wedi cael Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda. Gwelais Miss Phillips yn Aber Dydd Iau cyn Nadolig gan yr oedd yn edrych yn ardderchog well na gwelais i erioed. Y mae Dai Rhydypennau Bach adref dros y Nadolig. Fel y gwyddost y mae yntau yn y fyddin ac yn debyg o fynd i'r front yn fuan gan ei fod ynddi ers pum mis bellach. Y mae yn edrych yn iawn. Yr ydym am y tewa yma. Byddaf yn falch o gael gair gennyt pan gelli Cofion gorau W Hughes

Do you have information to add to this item? Please leave a comment

Comments (0)

You must be logged in to leave a comment