Skip to main content

William Hughes letter, 16 July 1915

Description

William Hughes from Bow Street, Ceredigion, volunteered for the army in 1914 and served with the Royal Engineers. During the war he wrote a series of letters to a childhood friend, T I Rees (who was in the diplomatic service, based at the British embassy in Venezuela). In these letters, which were mostly written in Welsh, one can trace not only William's physical movements, but also how his mood and attitude towards the war changed. Transcript of letter, sent from 12 Oxford Street, Abergavenny: Annwyl Gyfaill Derbyniais dy lythyr ar y 15fed o Gorffennaf. Mewn tai yma yn lletya hyd yn hyn. Y mae y lleill wedi mynd i Winchester ar y 16th o Fehefin, does ond y Signal Company yma. A mawr yw ein braint gan nad yw y camp y maent ynddo yn ddymunol iawn. Yr ydym ninnau dan orchymyn i ymadael at y lleill. Fe fyddwn am gryn ysbaid eto yr ochr hyn i'r weilgi werdd. Dysgu Telegraphy wyf ar hyn o bryd gan fod yr holl o'r gwaith yn cael ei gario trwy y buzzer i'r trench. Mae gennym i ddysgu marchogaeth motto cycles yn ol y newydd diweddaraf. Y mae yn llawn diddordeb y buzzer yma. Nid wyf wedi bod adref er ys tro bellach. Ni chefais i y fraint o fod adref yn y gymangfa ganu. Yr oedd yr holl fechgyn eraill yno. Y mae yn adeg ddifrifol yn South Wales. Y mae y collier wedi dod allan ar strike. A mae gymaint o wahanol farnau parthed hyn. Nid wyf yn ffafriol iddyn ddod allan nawr. Ond y rhyfedd yw fod y cyhoedd yn disgwyl i'r collier ystyried sefyllfa y wlad tra y gadewir i'r cyfoethog i grabinio (?) yn amser rhyfel. Wythnos hyn y pasiwyd y bill i atal pris y glo tra gwarafunwyd i flawd a phethau eraill godi ond yn ôl gorchymyn y Llywodraeth tra y cafodd y glofeddiannwyr eu rhyddid am 12 mis i godi y pris a fynno. Credaf eto fod achos y collier yn deilwng a pham na rydd y Llywodraeth eu dymuniad iddynt. Mae 50,000 o golliers wedi ymrestru o Sir Forgannwg a faint mae y Miners Federation wedi rhoddi i Prince of Wales fund. Credaf fod rhieni wedi hir aberthu eu plant pam na ddyry y Llywodraeth eu dymuniad iddynt. Mae pwys y rhyfel hon bron yn hollol ar y werin bobl fel bob amser, ac atynt yr apelir am aberth sydd yn gwneuthur bron yr oll tuag at orthrech yr Ellmyn. Drycha i gymdogaeth ni adref. Pwy sydd wedi ymrestru yn y fyddin yno? Y rhai o'r werin. A'r tro diwethaf y bum adref dyma ddywedodd un o blant y gymdogaeth wrthyf. "Beth sydd wedi codi arnoch chi boys y Bow-Street i ymrestru yn y fyddin?" Fel pe bawn wedi ymuno yn fy meddwdod. Fe aeth fel cyllyll trwof. Y sawl a ddywedodd hyn mae ganddo bump o frodyr a does yr un wedi ymuno â'r fyddin. A phe cwrddwn ag ef heddiw fe fyddai y cyntaf i ddweud fod eisiau saethu y collier. Latimer Glanfread oedd yr un wyf yn cyfeirio ato. Hyderaf dy fod yn iach. Dyma ddarlun o'r rhai o'r hen gymdogaeth. Does gennyf ddim ychwaneg Dy gyfaill W Hughes

Owner:
Gwynfor Hughes
Creator:
Gwynfor Hughes
License information:
Copyright Details:
Gwynfor Hughes 2010
Publisher Ref:
WVP01098
Item uploaded:
6/12/2011
Date originally created:
16/7/1915
Views:
923
Favourites:
0

More items with these tags

Contact Us

To request take down or report racist, offensive or otherwise harmful content.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment