SUBMARINE Y GELYN YN AGOSHAU (1917)
Description
Date: 10 April 1917
Transcript:
SUBMARINE Y GELYN YN AGOSHAU.—Y dydd o'r blaen suddwyd agerlong berthynol i Norway dair milldir y tuallan i Ynys Enlli, a glaniodd y dwylaw ar yr ynys oddeutu wyth o'r gloch y nos, pedwararddeg mewn nifer. 'Roedd rhai ohonynt yn gallu siarad Saesneg yn dda. Dydd Sul daethant drosodd o Enlli i Aberdaron dan gyfarwyddyd rhai o bobl yr ynys a ddaeth drosodd gyda hwynt. Cawsant luniaeth a chynhesrwydd. Yna ymadawsant gyda'r motor Tocia am eu gwlad eu hunain. Dyma'r waith gyntaf i ni fod yn llygaid dystion o alanastra Germanaidd. Nid oeddym ond clywed son yn flaenorol. Clywyd y ffrwydriad hefyd oddiyma. Clywir swn magnelau yn ddyddiol yn y mor. Credwn fod yr helyntion yn llawer mwy na'r hyn a welwyd.
Source:
'Submarine y gelyn yn agoshau.' Yr Herald Cymraeg. 10 Apr. 1917. 3.
More items with these tags
Contact Us
To request take down or report racist, offensive or otherwise harmful content.
You must be logged in to leave a comment